Skip to main content

Creu amgylchedd mwy diogel i gerddwyr ar gyfer cymuned Cwm-parc

Cwmparc grid

Bydd gwaith yn dechrau'r wythnos nesaf i wella diogelwch cerddwyr yng Nghwm-parc, a fydd yn darparu amgylchedd mwy diogel yn y strydoedd ger Ysgol Gynradd y Parc. Mae cyllid Llywodraeth Cymru wedi'i sicrhau i ddarparu'r cynllun, a hynny trwy raglen Llwybrau Diogel mewn Cymunedau.

Bydd y cynllun yn cynnwys gwella nifer o groesfannau i gerddwyr a gosod wyneb newydd wrth gyffyrdd allweddol, yn ogystal â rhwystrau ymwthiol llwybrau troed mewn ardaloedd penodol. Bydd rhywfaint o darfu anochel yn lleol dros yr wythnosau nesaf, wrth i'r rhaglen waith symud ar draws nifer o leoliadau yn y gymuned.

Bydd y Cyngor yn dechrau'r cynllun yma o ddydd Llun 9 Chwefror, yn dilyn ymgynghoriad cyn y cam statudol a gafodd ei gynnal dros dair wythnos ym mis Medi a Hydref 2025. Cafodd y cynigion eu diwygio yn seiliedig ar yr adborth a ddaeth i law, a chynhaliwyd cyfnod Hysbysiad Statudol rhwng 19 Rhagfyr 2025 a 16 Ionawr 2026 er mwyn rhoi cyfle ychwanegol i drigolion ddweud eu dweud.

Mae manylion llawn y cynllun i'w gweld yn yr eitem newyddion yma, a gafodd ei chyhoeddi cyn dechrau'r cyfnod Hysbysiad Statudol ym mis Rhagfyr.

Mae'r Cyngor wedi penodi Calibre Contracting Ltd yn gontractwr cam adeiladu'r cynllun. O 9 Chwefror, bydd gwaith yn dechrau mewn nifer o leoliadau yn y gymuned, gyda'r contractwr yn symud o un lleoliad i'r llall. Bydd angen mesurau rheoli traffig dros dro yn ystod rhai elfennau o'r gwaith.

Bydd gwaith gwella croesfannau a gosod wyneb newydd yn digwydd wrth gyffordd Teras y Parc â Heol y Parc, cyffordd Heol y Parc wrth y ganolfan gymunedol, cyffordd Heol yr Eglwys â Heol y Parc, cyffordd Alison House â Heol y Parc, cyffordd Teras Bronheulog â Heol y Parc, cyffordd Heol Cas-gwent â Heol y Parc/Cilgant y Parc a chyffordd Heol Pentwyn â Chilgant y Parc.

Bydd rhwystrau ymwthiol gyda threfniadau ildio blaenoriaeth yn cael eu gosod mewn nifer o leoliadau ar Heol y Parc, gan gynnwys ger mynedfa'r ysgol isaf – yn ogystal ag un ar Stryd Tallis ger mynedfa'r ysgol uchaf. Bydd gwaith gosod cyrbau a wyneb newydd ar y llwybr troed yn cael ei gynnal ar gyfer y safle bysiau newydd gyferbyn â 152-158 Heol y Parc.

Bydd contractwr y Cyngor yn gweithio'n galed i sicrhau cyn lleied o darfu â phosibl, gan gynnwys gweithio y tu allan i'r cyfnodau teithio prysuraf lle bo modd. Diolch ymlaen llaw i'r gymuned am eich amynedd a'ch cydweithrediad.

Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan OBE, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet ar faterion Isadeiledd a Buddsoddi: “Bydd gwaith yn dechrau o 9 Chwefror i ddarparu cynllun Llwybrau Diogel mewn Cymunedau Cwm-parc, gan wella cyfleusterau i gerddwyr gyda chanolbwynt penodol ar greu amgylchedd mwy diogel i deuluoedd sy'n cerdded i Ysgol Gynradd y Parc ac oddi yno bob dydd. Bydd y gwaith yn amrywio o osod croesfan wedi'i chodi newydd ger mynedfa'r ysgol isaf, i gyflwyno trefniadau blaenoriaeth sy'n culhau'r ffordd er mwyn lleihau hyd croesfannau a lleihau cyflymder cerbydau. Bydd gwaith gwella cyffyrdd a llwybrau troed eraill hefyd yn cael ei gynnal, a bydd safle bysiau newydd yn cael ei ddarparu ar ran is Heol y Parc.

“Ymgynghorwyd â'r gymuned ar y cynllun yn ystod yr hydref ac roedd modd i swyddogion wneud diwygiadau pwysig i'r dyluniad terfynol yn sgil derbyn adborth gwerthfawr iawn. Diolch i drigolion am gymryd rhan yn y gwaith ymgysylltu, gan roi gwybodaeth leol i swyddogion am y problemau o ran diogelwch y ffyrdd a wynebir yn eu cymuned, er mwyn iddyn nhw wedyn gael eu hystyried.

“Mae'r Cyngor wedi sicrhau cyllid gwerth £287,000 o raglen Llwybrau Diogel mewn Cymunedau Llywodraeth Cymru ar gyfer 2025/26 i wneud y gwaith yma yng Nghwm-parc. Rydyn ni'n parhau i groesawu'r cymorth ar gyfer llwybrau diogel, ar ôl darparu gwelliannau yn ardaloedd y Ddraenen-wen a Phentre'r Egwlys dros y ddwy flynedd ddiwethaf – yn ogystal â nifer o gynlluniau lleol eraill sydd yn aml yn gysylltiedig â'n buddsoddiadau mawr mewn ysgolion.

“Diogelwch y ffyrdd yw prif ganolbwynt y buddsoddiad yma. Fodd bynnag, trwy greu amgylcheddau mwy diogel i gerddwyr, rydyn ni hefyd yn gobeithio annog rhagor o drigolion i gerdded neu feicio yn eu cymunedau. Mae gwneud hyn yn rhan o'u teithiau bob dydd yn cynnig nifer o fanteision – o wella iechyd a lles i leihau nifer y cerbydau ar ein ffyrdd a diogelu'r amgylchedd.

“Bydd trigolion yng Nghwm-parc yn gweld y gwaith yn cael ei gynnal o'r wythnos nesaf ymlaen. Er bydd y Cyngor yn gweithio'n agos gyda'i gontractwr i sicrhau cyn lleied o darfu â phosibl yn lleol, bydd rhywfaint o effaith anochel ar draffig mewn rhai o leoliadau'r gwaith. Hoffwn i ddiolch i'r gymuned am eich cydweithrediad wrth i'r mesurau pwysig yma mewn perthynas â diogelwch cerddwyr gael eu darparu dros yr wythnosau nesaf.”

Wedi ei bostio ar 06/02/2026