Mae'r Cyngor wedi cyhoeddi'r hysbysiad statudol i gyflawni cyfres o fesurau yng Nghwm-parc sy'n anelu at wella diogelwch ar y ffyrdd i gerddwyr. Bydd y mesurau'n canolbwyntio'n benodol ar yr ardal o amgylch Ysgol Gynradd y Parc. Mae'r cynllun lleol pwysig yma wedi sicrhau cyllid Llwybrau Diogel mewn Cymunedau gan Lywodraeth Cymru. Bydd cyfle i drigolion ddweud eu dweud ar y cynigion wedi'u mireinio erbyn 16 Ionawr.
Yn gynharach eleni, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru fod £287,000 wedi'i ddyfarnu i'r Cyngor i ddatblygu a chyflawni cynllun Llwybrau Diogel Cwm-parc yn 2025/26. Mireiniodd swyddogion y cynllun a chyflwyno cynigion cychwynnol i'r gymuned eu gweld a dweud eu dweud arnyn nhw, mewn ymgynghoriad cyn y cam statudol a gynhaliwyd dros dair wythnos ym mis Medi a mis Hydref 2025. Dyma'r cynigion:
- Culhau blaenoriaeth mewn mannau amrywiol ar hyd Heol y Parc i fyrhau pellteroedd croesi a rheoli cyflymder cerbydau.
- Croesfan wastad wedi'i chodi ar Heol y Parc yn uniongyrchol y tu allan i fynedfa'r ysgol isaf i ddarparu man croesi ar yr un lefel.
- Gosod rhwystr ymwthiol (build-out) ar Stryd Tallis y tu allan i fynedfa'r ysgol uchaf, er mwyn lleihau pellteroedd croesi a gwella diogelwch.
- Cyflwyno arhosfan fysiau newydd ar ben isaf Heol y Parc.
- Cyflwyno amrywiaeth o welliannau i gyffyrdd ledled Cwm-parc, er mwyn gwella gwelededd a diogelwch cerddwyr.
- Cyflwyno gwelliannau i lwybrau troed mewn sawl lleoliad ledled Cwm-parc, er mwyn creu llwybrau i gerddwyr sy’n fwy diogel.
- Cyflwyno cyfyngiadau aros a llwytho i wella gwelededd i gerddwyr a cherbydau mewn nifer o leoliadau allweddol, gan annog cerbydau i symud mewn modd diogel.
Yn dilyn yr ymgynghoriad ac adolygiad o'r adborth a dderbyniwyd, mae nifer o newidiadau bellach wedi'u cynnwys yn y cynigion. Mae'r newidiadau yma'n cynnwys:
- Ymestyn y rhwystr ymwthiol ar Stryd Tallis i'r ffordd gerbydau, i wella llinellau gwelededd a dileu'r angen am linellau melyn dwbl o'i gwmpas.
- Lleihau hyd y llinellau melyn dwbl arfaethedig ar ochr orllewinol y gyffordd rhwng Heol y Parc a'r fynedfa gefn i Neuadd y Parc, er mwyn darparu lleoedd parcio ychwanegol.
- Disodli rhan o'r llinellau melyn dwbl arfaethedig ar ochr ddeheuol Heol y Parc, i'r dwyrain o Neuadd y Parc, gyda chyfyngiadau ar aros a llwytho – gan alluogi parcio dros nos rhwng 7pm-7am o ddydd Llun i ddydd Sadwrn, a pharcio heb gyfyngiadau ar ddydd Sul.
- Lleihau oriau'r cyfyngiadau llwytho o 8am-6pm, i 7am-9.30am a 2pm-6pm.
O 19 Rhagfyr ymlaen, bydd y gymuned yn gallu gweld y cynigion diweddaraf ar wefan y Cyngor – www.rctcbc.gov.uk/traffig. Rhaid i drigolion gysylltu erbyn 16 Ionawr, 2026 i wneud unrhyw sylwadau pellach.
Dywedwch eich dweud drwy'r post drwy ysgrifennu at Reolwr y Gwasanaethau Traffig, Rheoli Traffig, Llawr 2, Llys Cadwyn, Pontypridd, CF37 4TH. Fel arall, anfonwch e-bost at garfan y prosiect gwasanaethautraffig@rhondda-cynon-taf.gov.uk.
Bydd copïau o'r cynlluniau hefyd ar gael i'w gweld yn y Ganolfan IBobUn yn 1 Llys Cadwyn, Pontypridd, ac yn Llyfrgell Treorci. Mae modd cyfeirio ceisiadau am gopïau papur o'r cynlluniau drwy anfon e-bost at garfan y Gwasanaethau Traffig (mae'r cyfeiriad uchod).
Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan OBE, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet ar faterion Isadeiledd a Buddsoddi: “Gan ddefnyddio’r adborth a dderbyniwyd yn ystod ymarfer ymgynghori’r hydref, mae swyddogion bellach wedi mireinio’r cynigion Llwybrau Diogel mewn Cymunedau ar gyfer Cwm-parc – ac wedi dechrau cyfnod yr hysbysiad statudol a fydd yn galluogi’r newidiadau yma i gael eu gweithredu erbyn mis Mawrth 2026. Mae'r cynigion yn canolbwyntio ar ddiogelwch cerddwyr ac annog pobl i gerdded a beicio'n lleol – gyda golwg benodol ar yr ardal brysur o amgylch Ysgol Gynradd y Parc y mae teuluoedd yn ei defnyddio bob bore a phrynhawn.
“Rydyn ni wedi croesawu cyllid Llwybrau Diogel gan Lywodraeth Cymru dros nifer o flynyddoedd, ac rydyn ni hefyd wedi cyflwyno ein cynlluniau diogelwch cerddwyr ein hunain – sy’n aml yn gysylltiedig â’n prosiectau buddsoddi mawr mewn ysgolion. Yn 2024, fe wnaethon ni gyflawni gwelliannau lleol yn y Ddraenen-wen a Phentre'r Eglwys, a'r llynedd fe wnaethon ni gwblhau ail gam y gwaith yn Hirwaun, a gyflawnwyd dros ddwy flynedd.
“Er mai diogelwch ar y ffyrdd yw prif ffocws y buddsoddiad yma, drwy osod cyfleusterau newydd a chreu amgylchedd mwy diogel i gerddwyr rydyn ni hefyd yn gobeithio annog mwy o bobl i gerdded a beicio mwy o’u teithiau bob dydd. Mae hyn yn cynnig llawer o fanteision, o wella iechyd a lles pobl i leihau nifer y cerbydau ar ein ffyrdd a diogelu'r amgylchedd.
“Rydw i'n annog pob trigolyn sydd â diddordeb i weld y cynlluniau wedi’u mireinio ar gyfer Cwm-parc hyd at y dyddiad cau ar 16 Ionawr, er mwyn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am yr hyn sy'n cael ei gynnig. Yna bydd swyddogion yn cyfathrebu â thrigolion wrth i'r cynigion symud ymlaen ymhellach tuag at y cam adeiladu, sydd wedi'i gynllunio ar gyfer yn ddiweddarach yn y flwyddyn ariannol yma.”
Wedi ei bostio ar 19/12/2025