Skip to main content

Cynnal gwaith cychwynnol a fydd yn llywio'r gwaith ar lan yr afon ym Mhenrhiwceiber

Riverbank

Mae'n bosibl y bydd trigolion yn sylwi ar y gwaith ymchwilio fydd yn cael ei gynnal ar lan yr afon ger Maes Chwaraeon Pentwyn (gweler y llun) yn ardal Penrhiwceiber, o'r wythnos nesaf.

Bydd y gwaith, sy'n cael ei gynnal gan Alun Griffiths Ltd, yn llywio cynllun atgyweirio sy'n gobeithio mynd i'r afael â'r difrod erydu ar lan yr afon ar y rhan yma o'r Afon Cynon.

Bydd y contractwr yn defnyddio'r ardal waith a gafodd ei sefydlu yn ystod y gwaith a gynhaliwyd yn 2024, a oedd yn cynnwys ailosod wal gynnal a gwaith adfer yn dilyn tirlithriad bach.

Disgwylir y bydd y gwaith yma, a fydd yn dechrau yn ystod yr wythnos sy'n dechrau ddydd Llun, 9 Chwefror, yn para mis a dydyn ni ddim yn rhagweld y bydd y gwaith yn tarfu ar y gymuned leol. 

Fodd bynnag, fydd dim modd defnyddio'r llwybr troed anffurfiol ar lan yr afon yn ystod y gwaith, a hynny er mwyn sicrhau diogelwch y cyhoedd.

Mae'r maes chwaraeon wedi'i adeiladu ar domen gwastraff pwll glo sydd bellach wedi'i hadfer. Mae'r gwaith yn cael ei ariannu gan Grant Diogelwch Tomenni Glo Llywodraeth Cymru – mae'r Cyngor wedi sicrhau £11.4 miliwn yn rhan o'r grant i fonitro a chynnal a chadw tomenni glo yn Rhondda Cynon Taf yn ystod 2025/26.

Diolch ymlaen llaw i'r gymuned am eich cydweithrediad yn ystod y gwaith.

Wedi ei bostio ar 05/02/2026