Skip to main content

Cynllun Ffyrdd Cydnerth i wella draeniad ar lwybr allweddol yn ardal Dinas

Dinas Resilient Roads - Copy

Bydd gwelliannau pwysig o ran draeniad yn dechrau cyn bo hir ar yr A4058 Heol y Cymer yn ardal Dinas – gyda'r gwaith cyntaf yn cael ei gynnal oddi ar y briffordd. Bydd gwaith sy'n ofynnol ar y ffordd yn cael ei gynnal ym mis Mawrth, gan ddefnyddio cynllun rheoli traffig dros benwythnosau y tu allan i'r cyfnodau teithio prysuraf.

Mae'r Cyngor wedi sicrhau cyllid gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y cynllun Ffyrdd Cydnerth hwn, er mwyn mynd i'r afael â'r broblem hysbys o ddŵr wyneb yn cronni yn ystod cyfnodau o law trwm.

Bydd y gwaith yn dechrau o ddydd Sadwrn, 7 Chwefror yn y lleoliad a ddangosir yn y llun, ger Canolfan Ailgylchu yn y Gymuned a depo'r Cyngor.

Cafodd arolygon ac ymchwiliadau safle eu cynnal yn 2025, a oedd yn cynnwys gwaith sylweddol i lanhau draeniau a gafodd ei gwblhau dros yr haf 2025.

Bydd gwaith sy'n cael ei gynnal gan garfan Gofal y Strydoedd Rhondda Cynon Taf yn uwchraddio'r rhwydwaith draenio priffyrdd presennol.

O 7 Chwefror ymlaen, bydd gwaith cychwynnol yn cael ei gynnal ar ramp mynediad depo'r Cyngor, a hynny ar sail sifftiau yn ystod y dydd ar benwythnosau er mwyn tarfu cyn lleied â phosibl. Bydd mynediad i'r depo ar gael o hyd.

O 16 Chwefror ymlaen, bydd gwaith yn cael ei gynnal o fewn tiroedd y depo. Bydd pob mynediad arferol yn cael ei gynnal ac ni fydd y gwaith yn tarfu ar yr A4058.

Yna yn ystod mis Mawrth, bydd gwaith ar yr A4058 Heol y Cymer yn cael ei gynnal gyda goleuadau traffig dwyffordd, ac mae hyn wedi'i gynllunio ar gyfer nosweithiau Sadwrn a phrynhawniau Sul.

At ei gilydd, mae'r Cyngor wedi sicrhau cyllid gwerth dros £6 miliwn gan Lywodraeth Cymru ar gyfer gwaith lliniaru llifogydd yn ystod 2025/26 a hynny trwy'r Grant ar gyfer Gwaith ar Raddfa Fach, Rhaglen Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol a’r Gronfa Ffyrdd Cydnerth. Mae'r Cyngor wedi darparu 10% o gyllid cyfatebol ar gyfer y cynllun sydd ar ddod yn ardal Dinas.

Diolch ymlaen llaw i drigolion a defnyddwyr y ffordd am eu cydweithrediad.

Wedi ei bostio ar 06/02/2026