Dyma roi gwybod bod gwaith yn mynd rhagddo i wella draeniau yn ardal Meisgyn, Aberpennar, gan ganolbwyntio ar waith leinio pibellau ar Heol Llanwynno. Bydd cyllid Llywodraeth Cymru yn cael ei ddefnyddio.
Bydd y cynllun yn cynnwys gwella'r rhwydwaith draenio presennol trwy gynnal cyfres o waith leinio strwythurol ac atgyweiriadau tyllau archwilio dros yr wyth wythnos nesaf.
Bydd angen goleuadau traffig dros dro ar adegau penodol o'r cynllun, a hynny er mwyn cynnal y gwaith gwella yn ddiogel.
Yn gyntaf, bydd y gwaith yn cael ei gynnal ar Heol Llanwynno yn bennaf, ger ei chyffordd â Stryd Arthur, o ddydd Mercher 14 Ionawr. Bydd mesurau rheoli traffig yn y lleoliad yma yn para tua phythefnos.
Yn ail, bydd y cynllun yn symud ymlaen i Heol y Berth, lle bydd goleuadau traffig dros dro a threfniant cau llwybr troed ar waith o ddydd Llun 9 Chwefror, am tua wythnos.
Bydd carfan Gofal y Strydoedd Rhondda Cynon Taf yn cynnal y gwaith, ochr yn ochr â'r is-gontractwr wedi'i benodi, Arch Utilities.
Mae'r gwaith yn cael ei ariannu trwy raglen Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol.
Mae'r Cyngor wedi sicrhau cyllid gwerth dros £6 miliwn gan Lywodraeth Cymru ar gyfer gwaith lliniaru llifogydd yn ystod 2025/26, a hynny trwy'r Grant ar gyfer Gwaith ar Raddfa Fach, Rhaglen Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol a’r Gronfa Ffyrdd Cydnerth – wrth ddefnyddio cyfraniad cyllid cyfatebol gan y Cyngor yn aml.
Diolch i'r gymuned leol am eich cydweithrediad yn ystod y gwaith yma.
Wedi ei bostio ar 16/01/2026