Mae'r Cyngor wedi cadarnhau y bydd Maes Parcio Heol Berw ym Mhontypridd yn cau'n barhaol ar 30 Gorffennaf, a hynny ar ddiwedd y dydd hwnnw. Bydd yr adeilad wedyn yn cael ei ddymchwel yn rhan o'r gwaith ehangach i ailddatblygu safle'r maes parcio a hen orsaf yr heddlu. Bydd hyn yn ein galluogi ni i gynnal prosiect cyffrous yn y dyfodol i wella’r dref ymhellach a buddsoddi ynddi.
Mae'r newyddion yma ynghylch cau Maes Parcio Heol Berw'n dilyn y cyhoeddiad diweddar gan Heddlu De Cymru a'r Cyngor, sy'n cadarnhau'r camau nesaf o ran plismona ym Mhontypridd. Mae'r cynllun yma hefyd yn cynnwys cau Gorsaf yr Heddlu ar Heol Berw a throsglwyddo'r adeilad i'r Cyngor. Roedd y cyhoeddiad hefyd yn trafod bwriad Heddlu De Cymru i agor safle newydd, gweladwy a hygyrch yng nghanol y dref ar Stryd y Taf.
Mae cynigion y prosiect terfynol yma wrthi'n cael eu datblygu a'u hystyried - gyda'r syniadau posibl yn cynnwys creu ardal gyhoeddus well, maes parcio modern, cysylltiadau gwell o ran cerdded a beicio, gwella'r gyffordd ar Stryd y Bont a chreu cyfleoedd at ddibenion preswyl, masnachol a diwylliannol.
Mae’r cyfleoedd cyffrous yma’n dilyn yr hyn sydd eisoes wedi’i gyflawni yng Nghanol Tref Pontypridd – gyda’r Cyngor yn arwain ar waith cyflawni prosiectau mawr yn ystod y blynyddoedd diwethaf yn Llys Cadwyn, Y Muni, cyfleuster gofal ychwanegol Cwrt yr Orsaf, safleoedd yr hen neuadd bingo ac M&S a Pharc Coffa Ynysangharad.
Dyma roi gwybod i drigolion ac ymwelwyr â Phontypridd bod rhaid i bob cerbyd gael ei symud o Faes Parcio Heol Berw cyn amser cau arferol yr adeilad, sef 7pm, ddydd Iau, 30 Gorffennaf. Bydd arwyddion yn cael eu gosod ym mhob rhan o'r adeilad ac yn y prif fynedfeydd er mwyn sicrhau bod defnyddwyr yn effro i'r wybodaeth yma. Bydd yr adeilad ar gau'n barhaol o ddydd Gwener, 31 Gorffennaf, ymlaen.
Mae modd defnyddio meysydd parcio cyfagos yng nghanol y dref, gan gynnwys Stryd y Santes Catrin, Heol y Weithfa Nwy (arhosiad byr), Heol Dôl-y-felin, Maes Parcio'r Iard Nwyddau a Heol Sardis. Mae'r meysydd parcio yma o fewn oddeutu pum munud o Stryd y Taf a Pharc Coffa Ynysangharad, ac mae cyfanswm o 1,000 lle parcio rhwng pob un. Mae rhagor o wybodaeth am feysydd parcio'r Cyngor ar-lein.

Yn ogystal â hynny, mae nifer o wasanaethau bws rheolaidd yn teithio drwy Bontypridd, gan ddefnyddio'r brif orsaf fysau ac arosfannau eraill ledled y dref. Mae'r rhain yn cynnwys yr arosfannau newydd ar hen safle'r neuadd bingo, gyferbyn â Gorsaf Drenau Pontypridd. Mae teithio ar drên yn haws nag erioed hefyd, gan fod modd i drigolion ac ymwelwyr fanteisio ar wasanaethau mwy rheolaidd a chyfleusterau gwell yn rhan o rwydwaith Metro De Cymru.
Bydd cau'r maes parcio yma'n barhaol o 30 Gorffennaf yn galluogi'r Cyngor i gyflawni'r gwaith paratoi angenrheidiol cyn i'r safle gael ei drosglwyddo i gwmni Pritchard's, a fydd yn dymchwel yr adeilad, yn ystod wythnos gyntaf mis Awst. Mae hon yn garreg filltir bwysig yn y cynllun ailddatblygu ar gyfer y safle ehangach.
Byddwn ni'n cyhoeddi rhagor o wybodaeth yngylch union ddyddiadau'r gwaith dymchwel, yn ogystal â manylion y trefniadau rheoli traffig ac unrhyw faterion eraill a allai darfu ar drigolion, cyn bo hir. Rydyn ni wrthi'n cadarnhau'r trefniadau gyda chwmni Pritchard's, ac mae disgwyl i'r gwaith ddechrau o ddydd Llun, 3 Awst.
Os oes gyda chi gwestiwn am y cam dymchwel yma, e-bostiwch y garfan: PorthyGogledd@rctcbc.gov.uk
Meddai'r Cynghorydd Mark Norris, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Adfywio a Thai: "Mae cau Maes Parcio Heol Berw yn gam pwysig wrth i ni fwrw ymlaen ag ailddatblygu'r ardal amlwg yma yng nghanol y dref. Mae'r cyhoeddiad heddiw y bydd y safle'n cau ddydd Iau, 30 Gorffennaf, wedi'i rannu â chi cyn gynted â phosibl, a hynny er mwyn rhoi cyfle i drigolion, busnesau ac ymwelwyr i ddod yn effro i'r newidiadau yma ymlaen llaw. Mae'r swyddogion yn gofyn i bob defnyddiwr symud ei gerbyd erbyn amser cau arferol y maes parcio, sef 7pm.
"Mae modd defnyddio meysydd parcio eraill y Cyngor ledled Canol Tref Pontypridd, ac mae cyfanswm o fwy na 1,000 lle parcio ar gael yn y pum cyfleuster sy'n weddill. Rydyn ni hefyd yn gwybod bod nifer o bobl yn dewis teithio i'r dref ar drafnidiaeth gyhoeddus, gyda threnau a bysiau rheolaidd yn gwasanaethu'r ardal. Rydyn ni'n parhau i annog rhagor o bobl i ddefnyddio'r gwasanaethau yma - bydd hyn yn helpu i leihau tagfeydd, cwtogi amseroedd teithio a diogelu'r amgylchedd.
"Mae'r Cyngor wedi buddsoddi'n sylweddol yn nhref Pontypridd - gan gynnwys adeiladu ac adfywio adeiladau pwysig ar safle Llys Cadwyn, Y Muni, YMa a safle gofal ychwanegol Cwrt yr Orsaf. Yn ogystal â hynny, mae mannau cyhoeddus wedi'u sefydlu ar hen safleoedd y neuadd bingo a siop M&S. Rydyn ni hefyd wedi buddsoddi'n helaeth ym Mharc Coffa Ynysangharad. Mae'r gwaith ar safle Maes Parcio Heol Berw a gorsaf yr heddlu yn gyfle pellach i ni adfywio - gan roi cynllun ar waith i fanteisio'n well ar yr ardal bwysig yma yng nghanol y dref."
Cafodd hen Orsaf yr Heddlu ar Heol Berw ei chau ar ddiwedd Mehefin 2026, a bydd y safle'n cael ei drosglwyddo i ddwylo'r Cyngor i gefnogi'r cynlluniau adfywio. Mae Heddlu De Cymru wedi cadarnhau y bydd y ddarpariaeth ym Mhontypridd yn dal i fynd rhagddi, gyda'r swyddogion yn ymateb i achosion brys a rhai sydd ddim ar frys. Bydd carfanau cymdogaeth hefyd yn dal i fod ar waith yn y dref a'r cyffiniau.
Mae'r Cyngor wedi sicrhau cyllid ar gyfer cyflawni'r gwaith dymchwel drwy raglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru. Bydd cyfleoedd am arian pellach yn y dyfodol yn cael eu hystyried wrth i'r gwaith fynd rhagddo. Bydd y Cyngor yn parhau i ystyried amrywiaeth o gyfleoedd posibl o ran buddsoddi a chyllid er mwyn cefnogi'r cynigion ehangach o ran ailddatblygu
Bydd modd i unrhyw un sydd angen siarad â'r heddlu wyneb yn wyneb fynd i Orsaf yr Heddlu Tonysguboriau, 1/3 Heol y Gyfraith, Tonysguboriau, CF72 8AJ, nes bydd yr orsaf newydd ym Mhontypridd yn agor yn y dyfodol agos. Mae'r ddesg flaen ar agor i'r cyhoedd rhwng 9am a 5pm, drwy gydol yr wythnos, gan adlewyrchu'r un trefniadau â'r hen orsaf ar Heol Berw. Os oes argyfwng, ffoniwch 999.
Wedi ei bostio ar 21/07/2026