Mae Comisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru, a Chyngor Rhondda Cynon Taf wedi cadarnhau'r cam nesaf mewn cynlluniau i ategu plismona ac adfywio yng nghanol tref Pontypridd.
Mae'r hen orsaf heddlu ar Heol Berw bellach wedi cau a bydd yn trosglwyddo i feddiant y Cyngor yn rhan o gynlluniau ehangach i fwrw ymlaen ag ailddatblygiad mawr yng nghanol y dref. Bydd Heddlu De Cymru yn parhau i wasanaethu Pontypridd o ganolfan newydd, fwy gweladwy a hygyrch ar Stryd y Taf.
Mae gwaith ar yr orsaf newydd ar Stryd y Taf eisoes yn mynd rhagddo. Bydd ei leoliad yng nghanol siopau'r dref yn sicrhau bod swyddogion yn agosach at galon y dref, gan ei gwneud hi'n haws i drigolion, busnesau ac ymwelwyr siarad â charfanau plismona lleol, ceisio cymorth ac adrodd pryderon.
Mae Heddlu De Cymru wedi pwysleisio na fydd ymateb yr heddlu lleol yn lleihau yn ystod y cyfnod pontio. Bydd swyddogion yn parhau i ymateb i alwadau brys a galwadau nad ydyn nhw yn rhai brys, bydd carfanau cymdogaeth yn parhau i fod yn weithgar ym Mhontypridd a'r cyffiniau, a bydd technoleg symudol yn helpu swyddogion i dreulio rhagor o amser yn y gymuned.
Hyd nes i orsaf newydd Pontypridd agor, mae modd i unrhyw un sydd angen siarad â'r heddlu wyneb yn wyneb fynd i Orsaf Heddlu Tonysguboriau, 1/3 Heol y Gyfraith, Tonysguboriau, CF72 8AJ. Os oes argyfwng, ffoniwch 999.
Mae carfanau'r heddlu a oedd wedi'u lleoli ar Heol Berw gynt wedi symud i Dŷ Trevithick, hen adeilad y Cyngor, sy'n darparu mwy o le a chapasiti ar gyfer carfanau gweithredol. Y safle fydd pencadlys rhanbarthol newydd ardal blismona Morgannwg Ganol.
Dywedodd Comander yr Uned Reoli Sylfaenol, y Prif Uwch-arolygydd Jason Rees: “Mae Pontypridd yn parhau i fod yn flaenoriaeth i Heddlu De Cymru. Mae'r newid yma yn ymwneud â sicrhau bod ein swyddogion yn y lleoedd cywir, gyda'r cyfleusterau cywir, i wasanaethu'r gymuned nawr ac yn y dyfodol.
“Mae adeilad Heol Berw wedi gwasanaethu Pontypridd a’r ardal ehangach ers blynyddoedd lawer, ond mae plismona wedi newid ac mae angen cyfleusterau modern a hyblyg arnon ni sy’n cefnogi plismona lleol gweladwy ac ymatebol.
“Bydd ein swyddogion yn parhau i fod mas yng nghanol y dref, yn siarad â thrigolion a busnesau, yn ymateb i alwadau ac yn gweithio gyda phartneriaid i gadw pobl yn ddiogel. Bydd yr orsaf newydd ar Stryd y Taf yn ategu'r presenoldeb lleol yma ac yn ei gwneud hi'n haws i gael mynediad aton ni.”
I'r Cyngor, mae caffael gorsaf heddlu Heol Berw a safle'r maes parcio cyfagos yn creu cyfle pwysig i gynorthwyo ag adfywiad parhaus canol tref Pontypridd.
Mae disgwyl i'r cyfnod dymchwel ddechrau yn yr wythnosau nesaf a bydd yn cael ei gefnogi drwy raglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru. Mae cwmni Prichards wedi cael ei benodi’n gontractwr a bydd manylion pellach am amseru, rheoli traffig a chyngor parcio yn cael eu rhannu gyda’r cyhoedd cyn gynted ag y bydd y trefniadau wedi’u cadarnhau. Bydd Maes Parcio Heol Berw yn cau pan fydd y gwaith dymchwel yn dechrau.
Mae'r ailddatblygiad ehangach yn parhau i gael ei gynllunio, gyda dewisiadau'n cynnwys gwell mannau cyhoeddus, maes parcio newydd modern, cysylltiadau gwell ar gyfer cerdded a beicio, gwelliannau i gyffordd ar Stryd y Bont a chyfleoedd i ddatblygu adeiladau preswyl, masnachol a diwylliannol newydd.
Meddai'r Cynghorydd Mark Norris, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Adfywio a Thai: “Dyma foment bwysig i Bontypridd. Mae Heddlu De Cymru wedi cadarnhau y bydd yn cadw presenoldeb gweladwy a hygyrch yng nghanol y dref, tra bod y Cyngor yn gallu bwrw ymlaen â chynlluniau ar gyfer ailddatblygu safle allweddol.
“Rydyn ni'n gwybod y bydd trigolion a busnesau eisiau gwybodaeth glir am yr hyn sy’n digwydd nesaf. Byddwn ni'n parhau i ddarparu'r wybodaeth ddiweddaraf i'r gymuned mewn perthynas â threfniadau dymchwel, cyngor parcio a'r cynigion hirdymor wrth iddyn nhw ddatblygu. Ein nod yw cyflawni cynllun sy'n cefnogi canol y dref, yn gwella cysylltedd ac yn gwneud y defnydd gorau o'r safle pwysig yma.”
Meddai Comisiynydd Heddlu a Throseddu ar gyfer Heddlu De Cymru, Emma Wools: “Dyma enghraifft wych arall o’r Cyngor a Heddlu De Cymru yn cydweithio i wella’r cyfleusterau cyhoeddus ym Mhontypridd, gan alluogi i'r heddlu adleoli’n agosach a bod yn fwy hygyrch i’r cyhoedd hefyd. Drwy gyfnewid yr adeiladau cyhoeddus yn y modd yma, mae modd sicrhau'r gwerth gorau wrth gyflawni'r gwelliannau y mae'r dref a threfn plismona'r ardal eu hangen yn fawr. Rwy'n edrych ymlaen at agor gorsaf canol y dref yn ddiweddarach eleni.”
Gwybodaeth i Drigolion
Ydy Gorsaf Heddlu Pontypridd wedi cau? Ydy. Caeodd yr orsaf ar Heol Berw ddiwedd mis Mehefin 2026.
Ydy'r heddlu'n gadael canol tref Pontypridd? Nac ydy. Mae Heddlu De Cymru yn symud i orsaf newydd ar Stryd y Taf, a bydd swyddogion yn parhau i batrolio, ymateb i alwadau a gweithio gyda'r gymuned leol.
Ble mae modd siarad â'r heddlu wyneb yn wyneb cyn i'r orsaf newydd agor? Mae modd i chi fynd i Orsaf Heddlu Tonysguboriau, 1/3 Heol y Gyfraith, Tonysguboriau, CF72 8AJ.
A fydd galwadau'n parhau i gael eu hateb? Byddan. Bydd gwasanaethau yn parhau i gael eu darparu. Ffoniwch 101 os nad yw'n argyfwng, a ffoniwch 999 bob amser mewn argyfwng.
Wedi ei bostio ar 09/07/2026