Fis Mai 2025, fe gyflwynodd Cyngor Rhondda Cynon Taf fwydlen ginio ar newydd wedd sydd wedi'i dylunio at ddibenion diwallu Rheoliadau Bwyta'n Iach Mewn Ysgolion, Llywodraeth Cymru ac atgyfnerthu iechyd a lles hirdymor disgyblion yn unol ag agenda Pwysau Iach: Cymru Iach.
Yn sgil y fwydlen ar ei newydd wedd, bydd gyda phob disgybl fynediad at bryd bwyd maethlon, cytbwys, poeth bob dydd; bydd yn fodd o hyrwyddo arferion bwyta iach, cynnal lefelau egni, ac o helpu disgyblion i gynnal eu canolbwyntio a'u hymgysylltu o ran eu dysgu. Mae'r datblygiad yma'n adlewyrchu ymrwymiad parhaus y Cyngor i gyflwyno Prydau Ysgol Am Ddim i Holl Blant Ysgolion Cynradd, ledled pob lleoliad ysgol gynradd.
Sesiynau Pasbort Blasu
Er mwyn helpu i godi ymwybyddiaeth ynghylch y fwydlen ysgolion cynradd sydd wedi'i diweddaru ac annog rhagor o ddisgyblion i ddewis yr opsiynau newydd, mae Dietegwyr Arlwyo mewn Ysgolion wedi cynnal cyfres o sesiynau blasu gyda disgyblion ledled ysgolion cynradd. Mae'r sesiynau rhyngweithiol yma'n fodd cadarnhaol, ar sail ymgysylltu, o helpu disgyblion a'u rheini/gwarcheidwaid i samplu a blasu ystod o wahanol opsiynau newydd ar y fwydlen. Mae hyn yn fodd o feithrin cyffro ac atgyfnerthu rhagor o hyder wrth ddewis prydau bwyd yn yr ysgol.
Yn ystod y sesiynau blasu, cafodd ystod eang o brydau eu cynnig i ddisgyblion a rhieni/gwarcheidwaid, gan gynnwys ffefrynnau megis eog mewn briwsion bara, trionglau tatws, a fflapjacs banana, ynghyd ag opsiynau eraill oddi ar y fwydlen newydd. Mae'r fwydlen lawn ar gael yma.
Cafodd y sesiynau yma eu cynnal mewn arddull gweithgaredd 'Pasbort Blasu' hwyliog, lle’r oedd disgyblion a rhieni/gwarcheidwaid yn blasu ystod o brydau ac yn stampio eu pasbortau â'r wyneb hapus perthnasol, ar raddfa. Cafodd pob disgybl ei basbort arbennig ei hun a sticeri er mwyn cofnodi ei farn; erbyn y diwedd doedd dim prinder wynebau hapus gwyrdd!
Dywedodd rhieni / gwarcheidwaid wrthym ni eu bod nhw wrth eu bodd o weld unigolion sydd fel arfer yn hoffi bwydydd penodol yn unig, yn blasu cymaint o wahanol fwyd, gyda rhai yn gofyn am y ryseitiau er mwyn eu hail-greu gartref hyd yn oed.
Dywedodd Mrs Linsey Owens, Y Pennaeth yn Ysgol Gynradd Cwm Clydach:
Yn dilyn gostyngiad yn y nifer o ddisgyblion sy'n manteisio ar y cynllun Prydau Ysgol am Ddim ar ôl cyflwyno bwydlen newydd, fe drefnon ni sesiwn blasu'r fwydlen mewn cydweithrediad â Gwasanaethau Arlwyo RhCT. Yn ôl adborth gan ddisgyblion a rhieni, roedd disgrifiadau rhai o'r prydau wedi dylanwadu ar farn nifer o blant yn negyddol, megis eog mewn briwsion bara, cyri llysiau, a phasta tiwna – ac felly wedi dewis pecyn bwyd yn lle.
Er mwyn mynd i'r afael â hyn, cafodd y sesiwn blasu ei hyrwyddo gan Seesaw, ar gyfryngau cymdeithasol, ac yn ein cylchlythyr wythnosol, gydag allgymorth penodol ar gyfer y teuluoedd oedd wedi codi pryder. Cafodd yr achlysur ei fynychu gan ddisgyblion, rhieni, staff a llywodraethwyr. Roedd yna ystod eang o brydau ar gael, gan gynnwys y rheiny a gafodd eu hosgoi gan ddisgyblion yn y gorffennol. Roedd yn wych i weld y plant yn blasu prydau newydd a hyd yn oed yn well i glywed eu hymatebion cadarnhaol. Fe roddodd rhieni ganmoliaeth o ran y cyflwyniad a blas y bwyd ac roedden nhw wedi’u plesio gyda pha mor dda yr ymatebodd eu plant, gan eu galluogi i gefnogi dewisiadau bwyd dyddiol yn well.
Roedd y sesiwn hefyd yn gyfle i drafod y newidiadau diweddar i'r fwydlen gyda rhieni, ac i egluro'r rhesymeg y tu ôl i'r addasiadau yma'n unol â deddfwriaeth a chanllawiau'r llywodraeth. Fe adawodd rhieni gyda dealltwriaeth gliriach o'r angen am y newidiadau yma, sydd wedi helpu i leihau cwynion am newidiadau i'r fwydlen a chael gwared ar opsiynau oer.
Roedd y plant yn mwynhau llenwi eu pasbortau blasu a thrafod eu dewisiadau gyda'r staff, sydd wedi eu helpu i wneud dewisiadau gwybodus bob bore.
Diolch yn fawr iawn i'r gwasanaethau arlwyo yn RhCT am drefnu achlysur llwyddiannus i gefnogi cyflwyniad y fwydlen newydd.
Roedd Gareth Thomas, Rheolwr Bwyd mewn Ysgolion ar gyfer Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymruyn bresennol mewn Sesiwn Flasu yn Ysgol Gynradd Pont-y-gwaith ac roedd o'r farn bod y sesiynau yma o fudd gwirioneddol i ddisgyblion a'u rhieni / gwarcheidwaid fel ei gilydd:
O siarad gyda staff arlwyo a staff yr ysgol yn ystod y sesiwn flasu, a gweld rhieni a disgyblion yn mwynhau'r bwyd a'r gweithgareddau, roedd hi'n glir bod yr holl waith caled oedd wedi'i wneud ar newid y fwydlen yn talu ar ei ganfed. Gyda dull mor gefnogol a rhagweithiol ar waith, rydw i'n siŵr y bydd y cynnydd yn y niferoedd o ran dewis prydau bwyd ysgol iach yn parhau.
Bod yn gefn i bob Disgybl, Gan Gynnwys Disgyblion sydd ag Anghenion Dysgu Ychwanegol
Mae'r Cyngor yn cydnabod y bydd angen addasiadau rhesymol, o bosibl, ar rai disgyblion gan gynnwys disgyblion sydd ag Anghenion Dysgu Ychwanegol, neu ddisgyblion sy'n wynebu heriau meddygol neu synhwyraidd yn ymwneud â bwyd. Mae modd i'n Dietegwyr Arlwyo'n yr Ysgol a'n carfanau arlwyo baratoi bwyd yn unol â'r anghenion yma a darparu dewisiadau amgen addas, diogel lle bo'r angen.
Mae modd i rieni/ gwarcheidwaid roi gwybod i ni ynghylch unrhyw anghenion dietegol neu synhwyraidd drwy gwblhau ffurflen ar-lein sydd ar gael yma. Mae hyn yn fodd o ofalu bod ysgolion a charfanau arlwyo'n cael yr wybodaeth angenrheidiol er mwyn rhoi addasiadau rhesymol ar waith.
Addysg ynghylch Gwastraff Bwyd a Bwyta'n Iach
Mae rhai rhieni / gwarcheidwaid wedi codi cwestiynau ynghylch gwastraff bwyd. Tra bod gwastraff bwyd yn rhan o bob system fwyd mewn ysgolion, mae'n amlwg o ymchwil bod plant, dros amser, yn fwy tebygol o fwyta ffrwythau a llysiau wrth eu gweld ar gael yn gyson; mae hyn yn fodd o helpu i leihau gwastraff ar blatiau dros y tymor hir. Mae'r Prydau Bwyd am Ddim i Holl Blant Ysgolion Cynradd yn sail i'r fwydlen newydd mewn ysgolion cynradd, mae hyn yn fodd o ofalu bod disgyblion yn cael pryd bwyd maethlon, cytbwys.
Opsiynau o ran Prydau Bwyd a Dewisiadau Dyddiol
Bob dydd, bydd disgyblion yn cael cynnig tri opsiwn o ran prydau bwyd, yn eu plith:
- Pryd o fwyd poeth ac ynddo gig
- Pryd o fwyd poeth llysieuol
- Dewis o daten trwy'i chroen bob dydd
Y ogystal â hynny, mae plant yn cael cynnig opsiwn o salad, ffrwyth, iogwrt, llaeth a bara'n ddyddiol.
Mae Prydau Bwyd Am Ddim i Holl Blant Ysgolion Cynradd wedi'u dylunio at ddibenion cynnig pryd o fwyd poeth, maethlon; yn achos rhai disgyblion, mae'n bosibl mai dyma eu pryd bwyd mwyaf sylweddol yn ystod y dydd. Dyma'r rheswm pam nad yw brechdanau ac ati yn rhan o'n cynnig canolog, er bod bara ychwanegol ar gael o hyd gyda phrydau bwyd.
Meithrin Arferion Iach am Oes
Mae'r fwydlen ar ei newydd wedd yn atgyfnerthu'r nod addysgol ehangach o addysgu disgyblion ynghylch maeth a dewisiadau iach o oedran ifanc. Mae sefydlu'r arferion yma yn ystod yr ysgol gynradd yn helpu i osod y sylfeini ar gyfer lles gydol oes.
Y rheswm pam bod y Fwydlen Wedi Newid
Dyw'r newidiadau ddim yn rhan o ymarfer gwneud toriadau ariannol. Dyma'r ysgogiad y tu ôl iddyn nhw:
- Cydymffurfio â Safonau Maeth Bwyta'n Iach Mewn Ysgolion, Llywodraeth Cymru
- Ymrwymiad i wella iechyd a lles plant
- Adborth gan ysgolion, disgyblion a charfanau arlwyo
- Yr angen i ddarparu cynnig cyson, teg ledled pob lleoliad ysgol gynradd.
Ymrwymiad Parhaus i Ansawdd
Bydd Cyngor Rhondda Cynon Taf yn parhau i adolygu'r fwydlen, casglu adborth a gweithio gydag ysgolion, teuluoedd a disgyblion i ofalu bod y cynnig yn parhau'n un maethlon, cynhwysol ac sy'n apelio.
Dywedodd y Cynghorydd Sharon Rees, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Addysg a Phobl Ifainc:
Rydyn ni wedi ymrwymo i ofalu bod gyda phob plentyn yn Rhondda Cynon Taf fynediad at brydau bwyd iach, maethlon sy'n atgyfnerthu'u twf, lles a'u gallu i ddysgu. Mae cyflwyno ein bwydlen ysgolion cynradd ar ei newydd wedd yn adlewyrchu arweiniad cenedlaethol a'n dyhead lleol fel ei gilydd i feithrin arferion bwyta cadarnhaol gydol oes. Mae'n galonogol gweld disgyblion a'u teuluoedd yn ymgysylltu mewn modd mor gadarnhaol â'r cynnig newydd yma, ac fe fyddwn ni'n parhau i weithio'n agos gydag ysgolion i ofalu bod ein prydau bwyd yn parhau i apelio, eu bod yn gynhwysol a'u bod o'r ansawdd uchaf.
Yn sgil y fwydlen ar ei newydd wedd, bydd gyda phob disgybl fynediad at bryd bwyd maethlon, cytbwys, poeth bob dydd; bydd yn fodd o hyrwyddo arferion bwyta iach, cynnal lefelau egni, ac o helpu disgyblion i gynnal eu canolbwyntio a'u hymgysylltu o ran eu dysgu. Mae'r datblygiad yma'n adlewyrchu ymrwymiad parhaus y Cyngor i gyflenwi Prydau Ysgol am Ddim i Holl Blant Ysgolion Cynradd ledled pob lleoliad ysgol gynradd.
Wedi ei bostio ar 30/06/2026