Skip to main content

Cipolwg cyntaf ar gynlluniau datblygu ysgol Llanhari yn ystod ymgynghoriad

Llanhari artist impression - Copy

Mae modd i drigolion nawr ddysgu rhagor am gynigion buddsoddi cyffrous y Cyngor ar gyfer Ysgol Llanhari, a fyddai’n darparu adeilad ysgol newydd sbon a mannau eraill o’r radd flaenaf, gan gynnwys cyfleusterau chwaraeon awyr agored newydd.

Mae'r prosiect yn cael ei gyflawni'n rhan o ymrwymiad ariannu gwerth £414 miliwn gyda Llywodraeth Cymru, a fydd yn golygu y bydd nifer o fuddsoddiadau newydd mewn ysgolion yn cael eu datblygu yn Rhondda Cynon Taf dros y blynyddoedd sydd i ddod. Byddai'r prosiect yn cael ei gyflawni drwy'r Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy.

Mae'r cynigion yn cynnwys adeiladu ysgol pob oed cyfrwng Cymraeg newydd i blant 3-19 oed ar y safle presennol, yn ogystal â meithrinfa cyfrwng Cymraeg. Bydd yr holl adeiladau presennol yn cael eu dymchwel. Bydd y cyfleusterau'n cynnwys cae chwaraeon 3G newydd â goleuadau, Ardal Gemau Aml-ddefnydd, maes parcio i geir a bysiau, ardal gollwng/casglu, a chyfleusterau a mannau ategol eraill.

Mae'r Cyngor bellach wedi penodi'r ymgynghorydd Asbri Planning i gynnal Ymgynghoriad Cyn Gwneud Cais gyda'r cyhoedd, hyd at 1 Gorffennaf. Mae'r ymarfer yma'n rhoi cyfle i drigolion ddysgu rhagor am y cynigion cychwynnol a gweld dogfennau allweddol, gan gynnwys cynlluniau manwl a delweddau argraff arlunydd.

Mae modd dysgu rhagor a dweud eich dweud ar gynigion datblygu Ysgol Llanhari drwy dudalen prosiectau Asbri Planning, sydd ar gael yma.

Bydd swyddogion yn ystyried yr holl adborth sy'n dod i law gan drigolion dros yr wythnosau nesaf, a bydd yn helpu i lywio cais cynllunio terfynol y Cyngor a fydd yn cael ei gyflwyno yn y misoedd nesaf. Mae modd dweud eich dweud drwy e-bost neu’r post, ac mae'r manylion llawn wedi’u cynnwys ar wefan Asbri Planning uchod.

Yn rhan o'r ymarfer ymgynghori, bydd arddangosfa gyhoeddus hefyd yn cael ei chynnal yn Ysgol Llanhari ddydd Iau 18 Mehefin (3.30pm-6pm). Mae croeso i bawb ddod i gael gwybod rhagor a gofyn unrhyw gwestiynau i garfan y prosiect. Bydd manylion pellach am yr achlysur yn cael eu rhannu ar y cyfryngau cymdeithasol.

Meddai'r Cynghorydd Sharon Rees, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Addysg a Phobl Ifainc: "Rydw i wrth fy modd bod cynigion buddsoddi'r Cyngor ar gyfer Ysgol Llanhari yn mynd rhagddyn nhw'n dda, a hynny er mwyn dymchwel adeiladau hŷn yr ysgol ac adeiladu datblygiad newydd sbon sy'n addas ar gyfer yr 21ain Ganrif, y gallwn ni i gyd fod yn falch ohono. Bydd yn cynnwys adeilad ysgol newydd a chyfleusterau chwaraeon rhagorol ar gyfer y gymuned, a bydd yn cael ei adeiladu yn unol ag ymrwymiadau'r Cyngor mewn perthynas â'r newid yn yr hinsawdd. Mae'n wych gweld y delweddau argraff arlunydd cyntaf, sy'n dod â'r safle'n fyw.

“Mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, mae’r Cyngor yn parhau i ddarparu cyfleusterau ysgol newydd mewn cymunedau ledled y Fwrdeistref Sirol, er budd disgyblion, staff a thrigolion lleol. Yn 2024/25, fe wnaethon ni ddarparu saith ysgol newydd ar draws ardal Pontypridd, Pentre'r Eglwys, Pont-y-clun, Llantrisant a Glynrhedynog – sydd wedi dod â chyfleoedd newydd i'n pobl ifainc bob dydd. Nawr, rydyn ni'n canolbwyntio ar y buddsoddiadau nesaf, gydag ysgolion newydd yng Nglyn-coch a Chwm Clydach yn cael eu darparu yn 2026/27, a phrosiectau'n cael eu datblygu ar gyfer Pen-rhys, Aberdâr, Cymer ac Ynys-y-bŵl, ochr yn ochr â Llanhari.

“Byddwn i'n annog trigolion sydd â diddordeb i ddweud eu dweud ar gynigion Ysgol Llanhari erbyn 1 Gorffennaf, fel bod modd ystyried eu barn yn y cais cynllunio ffurfiol. Mae modd gwneud hyn ar-lein, neu yn yr achlysur wyneb yn wyneb sy'n cael ei drefnu yn yr ysgol ar gyfer 18 Mehefin, gyda charfan y prosiect wrth law i ateb unrhyw gwestiynau.”

Dysgwch ragor am fuddsoddiad sylweddol y Cyngor yn ein pobl ifainc, drwy ddarparu cyfleusterau ysgol newydd sbon mewn cymunedau ledled y Fwrdeistref Sirol, drwy fynd i dudalen #TrawsnewidRhCT ar ein gwefan.

Wedi ei bostio ar 10/06/2026