Mae busnes o Bontypridd wedi pledio'n euog i werthu a meddu ar ddillad ffug.
Yn dilyn ymchwiliad a gafodd ei gynnal gan garfan Safonau Masnach Cyngor Rhondda Cynon Taf, daeth i'r amlwg fod Mr Waris Ali o Blizz Clothing Limited, a oedd yn masnachu o dan yr enw Blizz, 59 Stryd y Taf, Pontypridd, CF37 4TD, yn gwerthu eitemau 'White Fox' ffug yn ei siop.
Yn dilyn cwyn gan aelod o'r cyhoedd i'r garfan, cafodd nifer o eitemau dillad White Fox eu hatafaelu, gyda chynrychiolwyr y brand wedyn yn cadarnhau bod y cynnyrch wedi torri rheolau'r nod masnach cofrestredig.
Ymddangosodd Mr Ali yn Llys Ynadon Merthyr Tudful y mis diwethaf, gan bledio'n euog i gyhuddiadau mewn perthynas â thorri Deddf Nodau Masnach 1994.
Cafodd ddirwy o £1,800, a bu'n rhaid iddo dalu gordal dioddefwr o £720, yn ogystal â chostau'r Cyngor o £800, sef cyfanswm o £3,320. Gorchmynnodd y llys hefyd i’r nwyddau ffug a gafodd eu hatafaelu gael eu dinistrio.
Honnodd Mr Waris Ali, cyfarwyddwr Blizz Clothing Limited, ei fod wedi prynu'r eitemau o farchnad ar faes awyr yn West Bromwich ond nad oedd wedi gwirio bod y cynhyrchion yn eitemau dillad White Fox dilys.
Meddai'r Cynghorydd Bob Harris, Aelod o'r Cabinet ar faterion Cymunedau:
“Dylai hyn fod yn rhybudd i unrhyw un sy’n meddwl bod modd elwa'n ariannol drwy werthu nwyddau ffug ar y stryd fawr. Mae'r hen reol am nwyddau ffug yn berthnasol – os yw'n swnio'n rhy dda neu mae'n rhy rhad i fod yn wir, yna mae'n debyg ei fod e!
“Mae carfan Safonau Masnach y Cyngor yn gweithio’n galed iawn i fynd i’r afael â gwerthu a chyflenwi eitemau ffug.
“Mae'r rheiny sy'n gwerthu nwyddau ffug bob amser yn barod i fanteisio ar y ffasiwn neu'r duedd ddiweddaraf a byddan nhw'n blaenoriaethu elw dros ddiogelwch. Yn ogystal â thorri rheolau nod masnach y cynnyrch, dydyn nhw ddim yn cynnal y profion gofynnol i sicrhau bod y cynnyrch yn ddiogel".
“Yn gyffredinol, mae’r cynhyrchion yma o ansawdd gwael ac, ar ôl eu profi, mae wedi ymddangos eu bod nhw'n beryglus. Rwy'n gofyn i drigolion eu bod nhw ond yn prynu nwyddau gan werthwyr ag enw da neu werthwyr wedi'u hachredu. Drwy brynu nwyddau ffug, mae defnyddwyr yn cefnogi masnachwyr anghyfreithlon a throseddol ac yn tanseilio busnesau cyfreithlon.
"Mae gorfodi bob amser yn ddewis olaf, a dim ond pan fydd y garfan yn credu bod cyfraith wedi'i thorri a fyddai'n achosi niwed i'r cyhoedd y mae'r cam yma'n cael ei gymryd. Serch hynny, mae'r neges yn glir – os ydych chi'n cael eich dal yn gwerthu eitemau FFUG ac ANNIOGEL, byddwn ni'n cymryd camau gweithredu yn eich erbyn!"
Os oes gennych chi bryderon ynghylch eitemau sydd ar werth ledled y fwrdeistref sirol, mae modd rhoi gwybod amdanyn nhw i'ch gwasanaeth safonau masnach lleol drwy ffonio Llinell Gymorth Defnyddwyr Cyngor ar Bopeth ar 0808 123 1133 neu drwy anfon e-bost at
safonaumasnach@rctcbc.gov.uk
Wedi ei bostio ar 10/06/2026