Bydd y Cyngor yn dechrau cynllun atgyweirio pwysig i'r wal gynnal sydd i'w gweld yn y llun oddi ar yr A4054 Heol Caerdydd yng Nglan-bad – gyda'r rhan fwyaf o'r gwaith yn digwydd yn ystod gwyliau haf yr ysgol i leihau'r aflonyddwch.
Bydd y rhaglen waith yn cynnwys cael gwared â llystyfiant, ac yna ddymchwel ac ailadeiladu rhan fach o'r wal lle mae gwaith maen diffygiol, yn ogystal â gwaith ailbwyntio.
Bydd y cynllun yn dechrau o ddydd Llun, Gorffennaf 6, gan bara tua chwe wythnos i gyd – a bydd angen goleuadau traffig dwyffordd ar gyfer rhan o'r gwaith. Bydd y rhain yn cael eu gweithredu â llaw i sicrhau effeithlonrwydd.
Bydd y llwybr troed wrth ymyl y wal yn aros ar agor ar gyfer y rhan fwyaf o'r gwaith, gyda rhwystrau i gerddwyr yn eu lle o amgylch y mannau gwaith. Fydd dim cyfyngiadau i'r llwybrau troed gyda'r nos nac ar benwythnosau.
Bydd angen cau llwybr troed ar gyfer rhai o'r gweithgareddau gwaith ac, ar yr achlysuron hyn, bydd cerddwyr yn defnyddio'r palmant gyferbyn.
Bydd yr atgyweiriadau'n cael eu gwneud i ynysu rhannau o'r wal ar y tro, yn hytrach nag ynysu hyd cyfan y wal am gyfnod y cynllun.
Mae'r Cyngor wedi penodi Hammond ECS Ltd fel y contractwr penodedig, gyda'r cynllun yn cael ei gyflawni gan ddefnyddio cyllid refeniw'r Cyngor.
Diolch i'r gymuned ymlaen llaw am ei chydweithrediad.
Mae rhagor o wybodaeth am ein buddsoddiad mewn Priffyrdd a Pheirianneg ar dudalennau gwe ein hymgyrch #TrawsnewidRhCT.
Wedi ei bostio ar 30/06/2026