Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn rhybuddio unrhyw un sy'n camddefnyddio Bathodynnau Glas yn dilyn erlyniad llwyddiannus TRI throseddwr y mis diwethaf.
Cafodd TRI o bobl eu dal yn camddefnyddio Bathodynnau Glas ledled y Fwrdeistref Sirol. Roedd DAU ohonyn nhw wedi parcio ym maes parcio'r Cyngor yn Heol y Weithfa Nwy, Pontypridd, a'r llall ym maes parcio Stryd Fawr Aberdâr. Mae hawl parcio cerbyd sy'n arddangos Bathodyn Glas dilys am ddim ym meysydd parcio'r Cyngor, os yw wedi'i barcio mewn cilfach barcio ar gyfer pobl anabl.
Roedd POB UN o'r unigolion a gafodd eu dal wedi arddangos Bathodyn Glas ar eu dangosfyrddau, ond pan aeth Swyddogion Gorfodi Sifil y Cyngor i wirio'r bathodynnau, fe ddaeth i'r amlwg na fyddai perchnogion DAU o'r bathodynnau wedi gallu parcio yno, na theithio yn y car, gan eu bod nhw wedi marw. Daeth i'r amlwg fod y Bathodyn Glas arall yn ffug.
Cafodd pob un o'r troseddwyr eu cyfweld dan rybudd gan Swyddogion o Garfan Twyll Corfforaethol y Cyngor a chyfaddefon nhw'r troseddau.
O ganlyniad i natur ddifrifol yr achosion, cawson nhw eu hatgyfeirio at Lys Ynadon Merthyr Tudful. Cafwyd pob un o'r TRI yn euog y mis diwethaf o ddwy drosedd o feddu ar eitem (h.y. y Bathodyn Glas) i'w defnyddio at ddibenion twyll neu mewn cysylltiad â thwyll, yn groes i Adran 6 o Ddeddf Twyll 2006.
Mae camddefnyddio Bathodyn Glas yn drosedd a gall arwain at ddirwy o hyd at £1,000 a chofnod troseddol. Bydd Hysbysiad Tâl Cosb o hyd at £70 fel arfer yn cael ei roi i unrhyw un sy'n camddefnyddio cilfach barcio ar gyfer pobl anabl.
Gadawodd y TRI throseddwr y llys gyda dirwyon gwerth dros £1,400 at ei gilydd!
Barrie Davies, Dirprwy Brif Weithredwr a Chyfarwyddwr Cyfadran – Adnoddau Corfforaetho ac Ynni:
“Mae pobl yn dibynnu ar eu Bathodynnau Glas a bwriad y cynllun yw helpu pobl sy'n wynebu heriau o ran symud i gael mynediad i amwynderau lleol, fel eu bod nhw'n gallu parcio'n agos i weithleoedd, archfarchnadoedd a chyfleusterau iechyd. Mae camddefnyddio'r cynllun yn anghyfreithlon yn golygu nad yw lle parcio ar gael i rywun sydd ei angen.
“Mae'n peri pryder mawr bod DAU o'r euogfarnau yma'n cynnwys arddangos bathodyn a oedd yn eiddo i berson a oedd wedi marw. Fydd y Cyngor ddim yn goddef ffugio dogfennau swyddogol. Dydy camddefnyddio'r gwasanaeth yma ddim yn dderbyniol, ac mae'r ymgyrch orfodi ddiweddar yn dangos bod y Cyngor yma'n cymryd camau gweithredu i atal camddefnydd. Fydd hyn ddim yn cael ei oddef yn RhCT. Bydd ein carfan arbenigol yn parhau i gadw llygad ar ardaloedd yn y Fwrdeistref Sirol yn rheolaidd a bydd unigolion sy'n cael eu dal yn camddefnyddio'r cynllun yma yn cael eu herlyn.”
Pam mae Bathodynnau Glas yn bwysig
Yn ogystal â chymryd Bathodynnau Glas oddi ar bobl sy'n camddefnyddio'r cynllun, mae camau gorfodi yn cael eu defnyddio i godi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd y bathodynnau i drigolion sydd wir eu hangen.
Mae llawer o bobl yn dibynnu ar eu Bathodyn Glas i barhau i fod yn annibynnol a gallu symud a chael mynediad at nwyddau a gwasanaethau.
Gall camddefnyddio cilfachau parcio ar gyfer pobl anabl arwain at ddeiliaid Bathodyn Glas yn colli apwyntiadau meddygol, yn methu â mynd allan i brynu bwyd neu fynd i'r gwaith. Mae pob lle yn bwysig.
I gael rhagor o wybodaeth am gynllun y Bathodyn Glas, gan gynnwys sut i wneud cais trwy wasanaeth newydd y Cyngor, ewch i'r wefan: https://www.rctcbc.gov.uk/BathodynGlas.
Gall pobl sy'n amau bod Bathodyn Glas yn cael ei ddefnyddio'n dwyllodrus roi gwybod i ni yma – https://forms.rctcbc.gov.uk/cy/Web/fraud/TypeOfFraud neu e-bostio Carfan Twyll Corfforaethol y Cyngor ar twyll@rctcbc.gov.uk.
Wedi ei bostio ar 10/06/2026