Roedd Aelodau'r Cabinet ymhlith yr ymwelwyr a ddaeth i achlysur dathlu a gafodd ei gynnal yn Aberpennar ar y cyd â Grŵp Codi. Bwriad yr achlysur oedd nodi dechrau'r gwaith adeiladu wrth i'r Cyngor fuddsoddi mewn llety gofal modern i bobl hŷn.
Roedd y Cynghorydd Gareth Caple a'r Cynghorydd Andrew Morgan OBE ymhlith yr ymwelwyr â'r safle, sydd oddi ar Heol y Darren. Bydd 25 o Fflatiau Gofal Ychwanegol, 15 gwely gofal preswyl i drigolion â dementia, ac wyth byngalo 'Byw'n Hwyrach' yn cael eu hadeiladu. Dechreuodd y contractwr, Grŵp JG Hale, waith paratoi cychwynnol ar y safle ym mis Ionawr 2026. Mae disgwyl i'r prif gam adeiladu ddechrau'n fuan.
Cafodd yr achlysur dathlu ei gynnal ar y safle ddydd Iau, 19 Mawrth, lle cymerodd ymwelwyr ran mewn seremoni 'torri'r dywarchen' draddodiadol i nodi dechrau'r gwaith adeiladu. Mae'r rhawiau yma yn y ddaear yn dynodi carreg filltir allweddol tuag at gwblhau'r datblygiad newydd yma erbyn diwedd 2027.
Y disgwyl yw mai bach iawn fydd unrhyw darfu ar y gymuned ehangach yn ystod y gwaith, er y gallai'r datblygiad olygu mwy o draffig yn lleol. Bydd hyn yn cael ei reoli gan reolwyr safle'r contractwr i leihau'r effaith. Bydd y prosiect hefyd yn cael ei gofrestru'n Gynllun Adeiladwyr Ystyriol, a bydd contractwr y Cyngor yn sicrhau ei fod yn glynu wrth y gwerthoedd pwysig yma bob amser.
Ochr yn ochr â'r adeiladau newydd sy'n cael eu codi, mae'r cynllun ehangach hefyd yn cynnwys gwaith o ran mynedfa a lleoedd parcio ar y safle, yn ogystal â gwaith tirlunio o fewn ffin y datblygiad. Bydd dyluniad y datblygiad yn cynnwys darpariaeth i hyrwyddo bioamrywiaeth a nodweddion draenio trefol cynaliadwy.
Meddai'r Cynghorydd Gareth Caple, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Gofal Cymdeithasol, sydd â chyfrifoldeb am y Gwasanaethau i Oedolion: “Bydd y prosiect cyffrous yma yn Aberpennar yn darparu cymysgedd o lety gofal o fewn un safle modern y gallwn ni i gyd fod yn falch ohono – gan ddarparu ar gyfer trigolion sydd angen gofal ychwanegol, gofal dementia, a chymorth o ran 'Byw'n Hwyrach'. Roeddwn i wrth fy modd yn ymuno â'r achlysur diweddar i 'dorri'r dywarchen' gyda phartner y Cyngor, Grŵp Codi, a'r contractwr Grŵp JG Hale, i ddathlu'r gwaith cychwynnol wrth i ni edrych ymlaen at drawsnewid y safle dros yr wythnosau a'r misoedd nesaf.
“Mae llety gofal modern fel y rhain yn gwneud gwahaniaeth enfawr i fywydau pobl hŷn, fel y gwelwn bob dydd yn ein safleoedd gofal ychwanegol yn Aberaman, Tonysguboriau a’r Graig. Maen nhw'n rhoi cymorth bob awr o'r dydd, yn ogystal â gofal wedi'i dargedu sy'n diwallu anghenion asesedig, a hynny oll mewn amgylchedd modern ac agored sydd â chyfleusterau da. Maen nhw bellach yn ganolfannau sefydledig sy'n darparu cyfleoedd pwysig i drigolion ryngweithio, gydag ymdeimlad o gymuned yn ffynnu o fewn yr adeilad.
“Mae’r Cyngor wedi ymrwymo i ehangu rhagor ar yr opsiynau o ran gofal preswyl i bobl hŷn yn Rhondda Cynon Taf. Mae ein pedwerydd safle gofal ychwanegol yn y Porth bron yn barod i groesawu ei drigolion cyntaf wrth i'r gwaith adeiladu ddirwyn i ben, tra ein bod ni wrthi'n adeiladu llety gofal arbenigol yn y Gelli ar gyfer oedolion a phobl hŷn sydd ag anableddau dysgu. Rydyn ni hefyd wrthi'n datblygu cynlluniau ar gyfer cyfleuster gofal dementia pwrpasol yng Nglynrhedynog a llety i oedolion ag anableddau dysgu ym Mhentre'r Eglwys. Rydyn ni wedi ymrwymo i gyflawni'r ddau brosiect yma yn y dyfodol.
“Hoffwn ddiolch i drigolion Aberpennar am eu cydweithrediad wrth i'r prosiect fynd rhagddo oddi ar Heol y Darren. Dechreuodd y gweithgarwch cychwynnol ym mis Ionawr, a bydd y prif gam adeiladu yn dilyn hynny'n fuan. Byddwn ni'n gweithio'n agos gyda Grŵp Codi a'n contractwr i leihau'r aflonyddwch, ac rydw i'n edrych ymlaen at ddychwelyd ar adegau allweddol i weld sut mae'r safle'n newid.”
Meddai Rhys Parry, Cyfarwyddwr Datblygu (Dwyrain) Grŵp Codi: “Mae Grŵp Codi yn falch iawn o fod yn gweithio mewn partneriaeth â Chyngor Rhondda Cynon Taf a Grŵp JG Hale i gyflawni’r datblygiad pwysig newydd yma ar gyfer Aberpennar. Mae cynlluniau fel hyn yn chwarae rhan hanfodol wrth gefnogi pobl i fyw'n dda wrth iddyn nhw heneiddio, gan gynnig cartrefi o ansawdd uchel ochr yn ochr â'r gofal a'r gefnogaeth y gallai fod eu hangen ar y trigolion.
“Mae Codi wedi ymrwymo i greu cartrefi a chymunedau lle mae modd i bobl ffynnu, a bydd y datblygiad yma'n sicrhau amgylchedd croesawgar a chefnogol i drigolion tra hefyd yn dod yn rhan bwysig o'r gymuned leol. Rydyn ni'n edrych ymlaen at weld y prosiect yn datblygu dros y misoedd nesaf ac at groesawu'r trigolion cyntaf pan fydd y gwaith wedi'i gwblhau.”
Dysgwch ragor am gynlluniau'r Cyngor yn y gorffennol, y rhai sy'n mynd rhagddyn nhw nawr, a chynlluniau'r dyfodol ar ein tudalen Prosiectau Buddsoddi mewn Gofal Preswyl ar wefan y Cyngor.
Wedi ei bostio ar 20/03/2026