Skip to main content

Diweddariad ynghylch datblygiad ysgol darpariaeth ADY, wrth i ystafelloedd dosbarth gael eu paratoi

Ysgol Cambrian grid

Mae'r Cyngor wedi rhoi diweddariad ynghylch y datblygiadau cyffrous yn Ysgol Cambrian yng Nghwm Clydach. Pan gaiff ei hagor yn nhymor yr hydref 2026/27, yr ysgol yma fydd pumed ysgol darpariaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) y Fwrdeistref Sirol.

Mae'r datblygiad modern o'r radd flaenaf wedi cael ei rannu'n ddwy elfen at ddibenion adeiladu. O ran yr elfen gyntaf, mae yn ei chamau terfynol, gyda gwaith ar y tu allan bron â dirwyn i ben a'r ystafelloedd dosbarth cyntaf yn cael eu paratoi. O ran yr ail elfen, mae'r datblygiadau yma'n mynd rhagddyn nhw - y gwaith briciau, gosod y to, a gosod cyfleustodau.

Yn sgil y buddsoddiad sylweddol yma bydd cyfleusterau darpariaeth ADY Saesneg ar gael i 176 o ddisgyblion 3-19 oed. Mae'r datblygiad yn ymateb i'r nifer cynyddol o ddisgyblion ADY yn Rhondda Cynon Taf, cymhlethdod cynyddol anghenion disgyblion, a phwysau o ran capasiti yn y bedair ysgol darpariaeth ADY bresennol. Bydd yn yr ysgol newydd 23 ystafell ddosbarth, ynghyd â phwll hydrotherapi, canolfan les, a mannau ategol eraill. Ewch i'n gwefan am ragor o wybodaeth.

Mae'r contractwr Morgan Sindall Construction wedi bod yn gwneud cynnydd cyson ar y safle dros y gaeaf er y tywydd heriol. Yn ôl yr amserlen cwblhau ddiweddaraf, bydd yr ysgol yn barod i groesawu disgyblion a staff am y tro cyntaf ar ôl hanner tymor mis Hydref, yn ystod blwyddyn academaidd newydd 2026/27.

O ran gwaith yr elfen gyntaf ('Parth Un') - mae yn ei gamau olaf y tu allan, gyda'r gwaith ar symud y sgaffaldiau wedi dechrau, a'r ffenestri'n cael eu selio. Mae gwaith yn mynd rhagddo hefyd ar ardaloedd awyr agored y safle, yn ogystal â'r to gwyrdd. Y tu mewn, mae'r gwaith ar y nenfwd a'r lloriau wedi'i gwblhau bron â bod, ac mae'r ystafelleodd dosbarth yn cael eu paratoi nawr – ynghyd â'r toiledau, y system drydan a'r addurno terfynol.

Mae'r gwaith ar yr ail elfen ('Parth Dau') yn mynd rhagddo'n gyson o ran y gwaith briciau a gosod y sgaffaldiau. Mae'r to wedi'i orffen bron â bod tra bod y gwaith ar y cyfleustodau mawr i gyd megis cynhesu a gwaith pibellau'n mynd rhagddo.  Y tu mewn, mae'r waliau wedi'u cwblhau, ac mae gwaith allweddol yn ymwneud â'r system drydan ac offer arbenigol yn mynd rhagddo.

Mae llawer rhagor ar y gweill o ran y datblygiad ehangach hefyd. Fe ddaeth arweinwyr yr ysgol newydd i ymweld â'r ysgol yn ddiweddar, a bydd ei chorff llywodraethu dros dro yn ymweld fis Mehefin. Mae disgyblion o Ysgol Hen Felin wedi cymryd rhan mewn heriau dylunio ac adeiladu yn ddiweddar, gan arddangos gwaith tîm a sgiliau cyfathrebu arbennig. Ar yr un pryd, cymerodd staff Morgan Sindall, carfan ehangach y prosiect a'r gadwyn gyflenwi ran mewn sesiwn codi sbwriel ym Mharc Gwledig Cwm Clydach.

Mae'r mentrau yma'n ymwneud â phrosiectau gwerth cymdeithasol Morgan Sindall yn lleol, a'r hyn sydd dan sylw yw buddion parhaol ar gyfer y gymuned. Yn eu plith mae 'ysgol goedwig' newydd yn y parc gwledig - man cyffrous, newydd, ar gyfer dysgu yn yr awyr agored i blant ifainc. Mae ystafell drochi newydd wedi'i chreu yn Ysgol Hen Felin at ddibenion rhoi profiadau dysgu cyffrous i ddisgyblion. Mae'r contractwr yn gweithio hefyd gyda Cambrian Village Trust ar sawl menter yn y gymuned at ddibenion atgyfnerthu iechyd, lles a chynhwysiant. Mae pobl ifainc o Grŵp Ieuenctid Pen-rhys yn cael cymorth o ran cyflogaeth drwy hyfforddiant, datblygu sgiliau a llwybrau cyflogaeth; mae Bluewater Recruitment a Trivallis yn rhoi cymorth o ran y rhain.

Mae'r Cyngor wedi sicrhau cyfraniad o 75% o'r cyllid gan Lywodraeth Cymru drwy ei Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy ar gyfer adeiladu Ysgol Cambrian; mae'r Awdurdod Lleol yn cyfrannu'r hyn sy'n weddill.

Meddai'r Cynghorydd Sharon Rees, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Addysg a Phobl Ifainc: "Dyma gyfnod hynod gyffrous gyda datblygiad Ysgol Cambrian yng Nghwm Clydach yn wirioneddol ddechrau siapio.  Mae'n wych gweld yr ystafelloedd dosbarth cyntaf yn cael eu paratoi yn un rhan o'r adeilad; maen nhw'n rhoi argraff dda i ni o sut y bydd yr ysgol yn edrych pan fydd y gwaith arni wedi'i gwblhau. Mae'r Cyngor wedi buddsoddi yn yr adeilad modern newydd yma ar gyfer disgyblion sydd ag Anghenion Dysgu Ychwanegol wrth i ni ymateb i dwf yn nifer y disgyblion, ac, anghenion sy'n fwyfwy cymhleth ym mhob un o'n hysgolion darpariaeth ADY. Bydd amgylchedd dysgu o'r radd flaenaf yn cael ei gynnig yn y broses.

“Mae'r buddsoddiad pwysig yma gyda Llywodraeth Cymru'n rhan o ymrwymiad gwerth £414 miliwn ar gyfer cyflawni o leiaf naw buddsoddiad sylweddol mewn ysgolion ledled Rhondda Cynon Taf dros y blynyddoedd nesaf. Mae Ysgol Cambrian ymhlith y cyntaf i gael eu cwblhau, yn ogystal ag Ysgol Gynradd Gymraeg Glyn-coch, yn ystod blwyddyn academaidd 2026/27. Yn sgil y trefniadau diweddaraf, bydd Ysgol Cambrian yn agor ar ôl hanner tymor mis Hydref, gyda threfniadau dros dro ar waith o fis Medi 2026 hyd nes y bydd drysau'r adeilad newydd gwych yn barod i gael eu hagor.

“Un yn unig o'r mesurau rydyn ni wedi'u cymryd at ddibenion cynyddu capasiti darpariaeth ADY a gwella ein darpariaeth bresennol ledled y Fwrdeistref Sirol, yw'r prosiect yng Nghwm Clydach. Mae gwelliannau hefyd wedi bod yn digwydd  ym mhob un o'n hysgolion darpariaeth ADY presennol. Mae canolfan ategol y Blynyddoedd Cynnar wedi'i chreu yn hen adeilad Canolfan Cymuned Tonyrefail. Yn ogystal â hynny, cafodd Ysgol Arbennig Maesgwyn estyniad gwerth £1.5 miliwn mewn pryd ar gyfer y flwyddyn academaidd yma, ynghyd â mannau modern. Yn ogystal â hynny, mae estyniad chwe ystafell ddosbarth, mawr, yn cael ei ddatblygu ym Muarth y Capel yn Ynys-y-bwl, er mwyn gwella cyfleusterau presennol y safle yn sylweddol.

“Fe hoffwn i ddiolch i'n contractwr Morgan Sindall am ei ymroddiad wrth wireddu Ysgol Cambrian ac rydw i'n edrych ymlaen at weld y safle'n cael ei drawsnewid ymhellach - bydd y tywydd gwell dros y gwanwyn a'r haf yn gymorth mawr o ran hyn.  Rydw i hefyd yn ddiolchgar am y gwaith effaith gymdeithasol sy'n cael ei gynnal yn y gymuned leol, gyda phrosiectau'n amrywio o ddarparu mannau dysgu newydd i gynnal sesiynau ymgysylltu â phobl ifainc a chreu cyfleoedd cyflogaeth yn lleol.”

Dyma roi gwybod bod modd i rieni a gwarcheidwaid plant sydd ag Anghenion Dysgu Ychwanegol, sy'n byw yn y dalgylch ac sy'n gymwys i gael lle yn yr ysgol darpariaeth ADY newydd i ddisgyblion 3 i 19 oed yng Nghwm Clydach, gysylltu â ni i gael rhagor o wybodaeth. Nodwch fod angen cymeradwyaeth trwy banel Anghenion Dysgu Ychwanegol yr awdurdod lleol i gael lle mewn ysgol darpariaeth ADY. Mae manylion llawn ar gael ar ein gwefan.

Cewch wybod rhagor am fuddsoddiad sylweddol y Cyngor yn ein pobl ifainc - sef darparu cyfleusterau ysgol newydd yn ein cymunedau ledled y Fwrdeistref Sirol, drwy'r dudalen #TrawsnewidRhCT ar ein gwefan.

Wedi ei bostio ar 21/05/2026