Skip to main content

Cadarnhau prosiect coffa cyffrous newydd wrth i waith treftadaeth Rhyfel Cartref Sbaen ar y cyd barhau

Spanish Civil War Project - School Sessions

Yn dilyn ein newyddion yn ddiweddar am y prosiect cloddio yng Nghatalwnia, dyma gadarnhau cam nesaf gwaith rhyngwladol ar y cyd y Cyngor sy'n ymwneud â threftadaeth Rhyfel Cartref Sbaen, gyda disgyblion o Ysgol Gymuned y Porth yn dylunio cofeb sy'n cysylltu Rhondda Cynon Taf ag afon Ebro a Malgrat de Mar, a hynny drwy gofio ar y cyd.

Erbyn hyn mae'r cyllid wedi'i gymeradwyo, ac mae'r Cyngor yn gweithio gyda phartneriaid gan gynnwys Cymdeithas Ddiwylliannol Porta De la Història a Chymdeithas Solidarity Park i greu cyfres o gofebau cysylltiedig ar y cyd. Bydd y gofeb gyntaf yn Rhondda Cynon Taf. Y bwriad yw gosod cofeb gyfatebol yng Nghatalwnia ger Bryn 481, yr ardal sy'n gysylltiedig â lle cafodd y glöwr a gafodd ei eni yn Nhonypandy, Harry Dobson, yr anaf a arweiniodd at ei farwolaeth.

Y bwriad wedyn yw creu gosodwaith cyfatebol arall yn Solidarity Park yn Malgrat de Mar yn 2027. Bydd y gosodwaith yma'n deyrnged greadigol i'r gwirfoddolwyr a wnaeth gefnogi Gweriniaeth Sbaen, gan gynnwys y rhai a fu farw pan gafodd llong Cuidad de Barcelona (llong y Brigadau Rhyngwladol) ei suddo.

Wrth wraidd y prosiect yma mae disgyblion o Ysgol Gymuned y Porth, a gymerodd ran yn ddiweddar mewn 2 sesiwn greadigol dan arweiniad y cerflunydd a sylfaenydd prosiect Solidarity Park, Rob MacDonald. Cafodd y disgyblion gyflwyniad i'r prosiect a'i hanes, ac yna gweithdy ymarferol yng nghwmni Rob lle aethon nhw ati i drin a thrafod technegau cerflunio a gwaith maen ymarferol. Yn ystod y sesiynau, dysgodd y disgyblion sut i drin yr offer yn ddiogel a'i ddefnyddio i gerfio carreg.

Datblygodd disgyblion eu gwaith celf gwreiddiol eu hunain hefyd ar gyfer disgiau 30cm, wedi'u hysbrydoli gan ddyluniadau'r portyllau sydd i'w gweld ar gofeb fyw Solidarity Park. Bydd panel o feirniaid yn cael gweld pob dyluniad, a byddan nhw'n dewis un enillydd i'w ychwanegu at y gofeb.

Bydd achlysur i'r cyhoedd yn cael ei gynnal am 10am ar 13 Mehefin ym Mharc Treftadaeth Cwm Rhondda a fydd yn cynnwys arddangosfa o ddyluniadau'r holl ddisgyblion, yn ogystal â chyhoeddi'r cais buddugol. Bydd yr achlysur yn cyd-fynd â dathlu 90 mlynedd ers  Brwydr Maes De Winton (11 Mehefin). Bydd plac glas yn cael ei ddadorchuddio wedyn yn y prynhawn, gan ddechrau am 12.30pm yng Nghlwb Cymdeithasol Glofa Cambrian (yr 'NUM' gynt) yn Nhonypandy. Mae croeso i bawb yn y ddau achlysur, ac mae'r Cyngor yn annog pobl leol i ddod draw, cymryd rhan a chofio ar y cyd.

Byddwn ni'n rhannu rhagor o newyddion am y prosiect treftadaeth cyffrous ar y cyd yma wrth i'r gwaith fynd rhagddo.

Meddai'r Cynghorydd Maureen Webber BEM, Dirprwy Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf a Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog: “Mae’r bennod nesaf yma'n ymwneud â chynnwys plant ysgol lleol yn y broses o lunio rhywbeth i gofio am y rhai a fu farw yn Rhyfel Cartref Sbaen. Drwy gydweithio â Chymdeithas Ddiwylliannol Porta De la Història a phrosiect Solidarity Park, rydyn ni gwahodd disgyblion o Ysgol Gymuned y Porth sydd â diddordeb mewn hanes a chelf i ddylunio cofeb yn arddull portwll sy'n cysylltu Rhondda Cynon Taf ag Afon Ebro a Malgrat de Mar.

"Dyma brosiect treftadaeth rhyngwladol pwerus ar y cyd sy’n anrhydeddu’r rhai a safodd yn erbyn ffasgiaeth bron i 90 mlynedd yn ôl. Mae'n rhoi'r cyfle i ni gysylltu ystafelloedd dosbarth yng Nghwm Rhondda â thirweddau Sbaen trwy gofio ar y cyd.

“Rwy’n falch bod ein Gwasanaeth Treftadaeth yn helpu ystafelloedd dosbarth i droi dysgu’n waddol ac yn edrych ymlaen at weld creadigrwydd y bobl ifainc leol yn ein hachlysuron cymunedol.”

Prosiect cymdeithasol-ddiwylliannol gan yr artist Rob MacDonald yw Solidarity Park. Cafodd ei lansio yn 2016 ar ôl iddo ddarllen am frigadydd o'r Alban â'r un enw ag ef, a foddodd gyda'r Cuidad de Barcelona, ochr yn ochr ag aelodau eraill y Brigadau Rhyngwladol. Arweiniodd hyn at greu heneb fyw ar y traeth ym Malgrat de Mar yn 2022. Yn ystod gwyliau stryd a gweithdai cyhoeddus daeth dros 700 o bobl ynghyd i gerfio'r ffigyrau o garreg, gan helpu Rob i ddod â'r heneb i fodolaeth. Wedi'i osod gyferbyn â lle suddodd y Ciudad de Barcelona, mae'r safle'n cael ei ddefnyddio i gynnal gŵyl ryngwladol flynyddol sy'n ein hatgoffa o werthoedd y Brigadau Rhyngwladol (undod, rhyddid a chydraddoldeb) trwy gelf, addysg a chofio.

Am ragor o wybodaeth, ewch i'w gwefan: Solidarity Park

Menter gydweithredol sydd wrthi'n cael ei ffurfio ar hyn o bryd yw Cymdeithas Ddiwylliannol Porta de la Història. Dyma griw o unigolion sy'n byw yng Nghatalwnia, Sbaen a thramor sydd â diddordeb mawr yn Rhyfel Cartref Sbaen (1936–1939) a'r brwydrau cymdeithasol a ddaeth cyn ac ar ei hôl.

Mae modd dysgu rhagor amdanyn nhw ar-lein yma:

I gael rhagor o wybodaeth am ein harddangosfeydd a'n casgliadau treftadaeth, ewch i: Rhondda Cynon Taf | Ein Treftadaeth

Wedi ei bostio ar 28/05/2026