Skip to main content

Bydd modd parcio am ddim yng nghanol ein trefi unwaith eto yn ystod mis Rhagfyr

shop-local-2026-WELSH

Unwaith eto eleni, bydd modd i chi barcio AM DDIM yng nghanol trefi Aberdâr a Phontypridd wrth i ni nesáu at y Nadolig, a hynny am y drydedd flwyddyn ar ddeg yn olynol! Fydd y Cyngor ddim yn codi tâl am ddefnyddio ein meysydd parcio o 10am bob dydd ym mis Rhagfyr 2026 er mwyn annog ein trigolion i Siopa'n Lleol a rhoi hwb i'r busnesau gwych yng nghanol ein trefi.

Mae rhywbeth at ddant pawb yn nhrefi a siopau Rhondda Cynon Taf - p'un a ydych chi'n chwilio am anrheg perffaith, eisiau mwynhau achlysur Nadoligaidd neu am lenwi'ch bol. Fydd y Cyngor ddim yn codi tâl ar drigolion nac ymwelwyr sy'n defnyddio ein meysydd parcio yng nghanol trefi Aberdâr a Phontypridd o 10am bob dydd rhwng dydd Mawrth, 1 Rhagfyr, a dydd Iau, 31 Rhagfyr.

Nod y cynllun blynyddol yma yw annog ein trigolion i wneud cymaint o'u siopa Nadolig â phosibl yn lleol, er mwyn cefnogi ein busnesau ar yr adeg bwysig yma o'r flwyddyn. Yn ogystal â chynnig parcio AM DDIM, bydd y Cyngor hefyd yn rhoi uchafswm pris o £1.50 ar bob taith fws sy'n dechrau ac yn gorffen o fewn y Fwrdeistref Sirol yn ystod mis Rhagfyr 2026, gan roi rhagor o fudd i'r rheiny sy'n teithio i'n trefi.

Yn Aberdâr, bydd modd parcio AM DDIM ym meysydd parcio Adeiladau'r Goron, y Stryd Las, y Llyfrgell, Stryd y Dug, Stryd Fawr, Rhes y Nant, Rock Grounds a'r Ynys. Ym Mhontypridd, bydd modd defnyddio meysydd parcio Heol y Weithfa Nwy, Yr Iard Nwyddau (y rhan sy'n eiddo i'r Cyngor yn unig), Dôl-y-felin, Heol Sardis a Stryd y Santes Catrin.

Nodwch: Mae meysydd parcio'r Llyfrgell, y Stryd Las, Stryd y Dug a'r Stryd Fawr, yn Aberdâr, a maes parcio Heol y Weithfa Nwy ym Mhontypridd, yn rhai cyfnod byr - does dim modd i chi adael eich cerbyd yno am fwy na phedair awr. Mae rhagor o wybodaeth am feysydd parcio'r Cyngor i'w gweld ar ein gwefan.

Bydd angen i'r rheiny sy'n defnyddio'r meysydd parcio cyn 10am arddangos tocyn sy'n ddilys hyd at 10am ar y diwrnod hwnnw. Bydd peiriannau tocynnau’r Cyngor yn derbyn taliadau cerdyn digyswllt ac arian parod.

Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan OBE, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion yr Amgylchedd a Seilwaith Cyfalaf: “Mae ein cynllun parcio poblogaidd yng nghanol trefi Aberdâr a Phontypridd yn dychwelyd am flwyddyn arall ym mis Rhagfyr 2026, gan helpu trigolion ac ymwelwyr i barcio'u cerbydau am ddim wrth iddyn nhw fwynhau popeth sydd gan ein trefi rhagorol i’w gynnig. Dyma annog trigolion i Siopa'n Lleol lle bo modd, er mwyn cefnogi'r nifer o fasnachwyr sy'n gwneud cymaint i helpu canol ein trefi i ffynnu – ac mae hyn yn arbennig o bwysig o gwmpas y Nadolig, sy'n gyfnod allweddol i'r gymuned fusnes.

"Rydw i'n falch bod modd i'r Cyngor gynnig lleoedd parcio am ddim eto, ochr yn ochr â theithiau bws â chymhorthdal, lle bydd teithiau sy'n dechrau ac yn gorffen yn Rhondda Cynon Taf ar gael am uchafswm o £1.50 drwy gydol mis Rhagfyr 2026. Mae'r ddau gynllun yma'n boblogaidd iawn ymysg ein trigolion, ac rydyn ni'n gobeithio y byddan nhw o fudd i drigolion a theuluoedd, yn ogystal â'n busnesau, ar adeg ddrud o'r flwyddyn pan mae costau byw eisoes yn uchel iawn.

“Bydd digonedd o achlysuron i ddathlu'r Nadolig i'w mwynhau yn Aberdâr a Phontypridd, yn ogystal â'n trefi eraill, drwy gydol mis Rhagfyr 2026. P'un a ydych chi'n siopa, yn dathlu neu'n gwledda - mae modd i bawb fanteisio ar ein cynllun parcio am ddim o 10am yn holl feysydd parcio'r Cyngor."

Wedi ei bostio ar 18/11/2026