Mae Siôn Corn wrthi'n paratoi ei sled ac yn edrych ymlaen at ddod â hwyl yr ŵyl i ganol trefi ledled Rhondda Cynon Taf!
Gyda dathliadau canol tref Nadoligaidd yn cael eu cynnal yn nhrefi Porth, Glynrhedynog, Aberdâr ac Aberpennar, mae modd i chi ddisgwyl goleuadau disglair, reidiau Nadoligaidd, llawr sglefrio synthetig, paentio wynebau, glôb eira enfawr ac, wrth gwrs, y cyfle i gwrdd â'r dyn ei hun!
Gyda gweithgareddau'n costio dim ond £1 y tocyn, mae'n ddiwrnod Nadoligaidd fforddiadwy i'r teulu cyfan.
Dyma lle mae modd i chi weld Siôn Corn a'i griw llawen…
|
Porth
|
26 Tachwedd
3pm–6pm
|
Maes Parcio Plasa'r Porth
|
|
Glynrhedynog
|
27 Tachwedd
3pm–6pm
|
Maes Parcio Stryd y Leimwydden
|
|
Aberdâr
|
4 Rhagfyr
3pm–6pm
|
Sgwâr y Llyfrgell
|
|
Aberpennar
|
5 Rhagfyr
12pm–5pm
|
Maes Parcio (Isaf) Stryd Henry
|
Mae digon i ddiddanu eich corachod bach!
Am £1 y tocyn yn unig (ar gael ar y diwrnod), mae modd i deuluoedd fwynhau ystod wych o atyniadau Nadoligaidd:
- Glôb Eira Enfawr – Gwenwch! Dewch i wlad hudol, aeafol i dynnu llun Nadoligaidd!
- Llawr Sglefrio Synthetig – Byddwch yn barod am hwyl a sbri! Sglefrio Nadoligaidd ar gyfer pawb o bob oedran!
- Ffair Hwyl i Blant – Mae modd i'r rhai bach fwynhau tair reid, gyda digon o gyffro Nadoligaidd ar hyd y ffordd.
- Paentio Wynebau – Ydych chi am fod yn garw â thrwyn coch neu'n angel y Nadolig?
- Ogof Siôn Corn – Am ddau docyn yn unig, dewch i ogof Siôn Corn i gwrdd â'r dyn ei hun ac i dderbyn anrheg yn syth o Begwn y Gogledd!
Cadwch olwg ar yr awyr i weld os bydd hi'n bwrw eira!
Nid dyma'r cyfan – mae hyd yn oed rhagor o hud y Nadolig ledled Rhondda Cynon Taf!
Bydd canol trefi Pontypridd, Treorci, Tonypandy, Pont-y-clun a Llantrisant hefyd yn dathlu'r Nadolig gydag achlysuron yng nghanol y trefi a byddan nhw'n derbyn cymorth ariannol gan y Cyngor er mwyn eu cynnal.
Bwytwch, Siopwch a Byddwch Lawen!
Tra byddwch chi'n mwynhau'r dathliadau, beth am wneud diwrnod ohono? Dewch i gynhesu gyda thamaid i'w fwyta, mwynhewch ddanteithion Nadoligaidd, neu prynwch anrhegion oddi ar eich rhestr siopa Nadolig. Dewch i ni gefnogi busnesau lleol.
Boed hyn yn cynnwys dod o hyd i'r anrheg berffaith o farchnad Aberdâr neu Bontypridd, siopa am anrheg aeafol yn Nhreorci neu Donypandy neu brynu'r eitemau olaf ar gyfer y Cinio Nadolig, mae pob rheswm i siopa, bwyta a dathlu yn ein strydoedd mawr y Nadolig yma.
Meddai'r Cynghorydd Scott Emanuel, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Cymunedau: “Gall tymor yr ŵyl gyflwyno heriau ariannol i lawer o unigolion a theuluoedd. Mewn ymateb, mae'r Cyngor yn parhau i ymrwymo i ddarparu achlysuron cost isel yng nghanol ein trefi, sy'n cynnig ystod eang o adloniant a gweithgareddau tymhorol. Mae'r achlysuron yma wedi'u cynllunio i fod yn hwyl i bawb, gan hefyd gefnogi ein busnesau lleol. Rydyn ni'n annog trigolion i ddod, cymryd rhan, a manteisio ar y cyfle i siopa’n lleol y Nadolig yma.”
Dilynwch @besymlaenrhct ar Facebook ac Instagram i dderbyn y newyddion diweddaraf ac am gyhoeddiadau gan Siôn Corn a'i griw!
Wedi ei bostio ar 27/10/2026