Bydd y Model Llyfrgelloedd sy'n Ystyriol o Gynhalwyr newydd yn cael ei lansio yn Llyfrgell Treorci ddydd Iau, 19 Tachwedd er mwyn helpu cynhalwyr di-dâl i fanteisio ar wybodaeth, cyngor a chymorth yn nes at adref.
Cymeradwyodd Cabinet y Cyngor y model cymorth newydd ym mis Ionawr 2026, yn dilyn ymarfer ymgysylltu helaeth ac ymgynghoriad cyhoeddus. Ers hynny, mae'r gwaith wedi mynd rhagddo er mwyn datblygu'r dull newydd a pharatoi ar gyfer ei gyflwyno mewn llyfrgelloedd.
Bydd yr achlysur lansio yn digwydd ym mhrif gyntedd Llyfrgell Treorci rhwng 10.30am a 2.30pm, gan gyd-fynd â Diwrnod Hawliau Cynhalwyr.
Bydd y Cynghorydd Gareth Caple, Aelod o'r Cabinet ar faterion Gofal Cymdeithasol, a'r Cynghorydd Bob Harris, Aelod o'r Cabinet ar faterion Cymunedau, Diwylliant a Hamdden, yn lansio'r model yn swyddogol gan rannu ambell i air.
Wedyn, bydd modd i gynhalwyr di-dâl alw heibio'n anffurfiol ac ymweld â stondinau gwybodaeth, siarad yn uniongyrchol â gwasanaethau a sefydliadau partner, a dysgu rhagor am y model newydd a'r cymorth sydd ar gael. Bydd yr Ymddiriedolaeth Gofalwyr, sydd wedi gweithio mewn partneriaeth â'r Cyngor er mwyn datblygu'r model, yno hefyd.
Nod y Model Llyfrgelloedd sy'n Ystyriol o Gynhalwyr yw ei gwneud yn haws manteisio ar wybodaeth a chyngor drwy ddarparu cymorth mewn lleoliadau cymunedol cyfarwydd a hygyrch. Mae llyfrgelloedd yn lleoedd dibynadwy lle mae pobl yn ymweld â nhw yn rheolaidd i geisio gwybodaeth a chymorth, dod i gysylltiad ag eraill a chael sgwrs. Mae hyn oll yn golygu bod llyfrgelloedd mewn sefyllfa dda i helpu i adnabod pobl a allai fod â dyletswyddau gofal, a'u cefnogi.
Mae llawer o bobl yn helpu aelod o'r teulu, ffrind neu gymydog yn rheolaidd ond dydyn nhw ddim yn ystyried eu hunain yn gynhalwyr nac yn sylweddoli bod cymorth ar gael iddyn nhw.
Mae staff y llyfrgelloedd wedi cwblhau hyfforddiant wedi'i ddatblygu gan yr Ymddiriedolaeth Gofalwyr, gan eu helpu i:
- Adnabod pryd y gallai rhywun fod yn gynhaliwr di-dâl
- Dechrau sgwrs gefnogol â nhw a gwrando ar yr hyn sy'n bwysig iddyn nhw
- Rhannu gwybodaeth ac adnoddau perthnasol
- Cysylltu a'u cyfeirio nhw at y cymorth lleol mwyaf priodol
Mae hyn yn ffurfio elfen cefnogaeth yn y gymuned model tair haen ehangach y Cyngor. Mae modd cysylltu cynhalwyr di-dâl sydd angen cymorth mwy penodol â chymorth wedi'i dargedu, tra bydd gan y rhai sydd angen gwasanaethau ffurfiol lwybr clir at adran y Gwasanaethau i Oedolion, gan gynnwys Asesiadau Cynhalwyr a chymorth ffurfiol lle bo'n briodol.
Bydd hyn yn helpu i nodi cynhalwyr di-dâl yn gynharach a'u cysylltu â'r lefel gywir o gymorth pan fydd ei angen arnyn nhw.
Meddai'r Cynghorydd Bob Harris, Aelod o'r Cabinet ar faterion Cymunedau, Diwylliant a Hamdden: “Mae llyfrgelloedd yn lleoedd croesawgar, cyfarwydd yng nghanol ein cymunedau, lle mae pobl eisoes yn teimlo’n gyfforddus yn gofyn i staff am wybodaeth neu gyngor.
“Trwy ein Model Llyfrgelloedd sy'n Ystyriol o Gynhalwyr, mae staff y llyfrgelloedd wedi cwblhau hyfforddiant wedi'i ddatblygu gan yr Ymddiriedolaeth Gofalwyr, gan eu helpu i adnabod pryd y gallai rhywun fod yn gynhaliwr di-dâl, gwrando ar yr hyn sy'n bwysig iddyn nhw, rhannu gwybodaeth berthnasol â nhw a'u cysylltu â chymorth lleol priodol.
“Bydd y rôl bwysig newydd yma i’n llyfrgelloedd yn sicrhau bod cymorth yn fwy gweladwy a hygyrch, yn enwedig i bobl sydd ddim efallai hyd yn oed yn cydnabod eu bod nhw'n gynhalwyr di-dâl eu hunain.
“Rwy’n edrych ymlaen at lansio’r model yn ffurfiol yn Llyfrgell Treorci ar 19 Tachwedd, ac rwy’n annog cynhalwyr di-dâl a’u teuluoedd i ddod draw, cwrdd â’r sefydliadau dan sylw a dysgu rhagor am y cymorth sydd ar gael.”
Meddai'r Cynghorydd Gareth Caple, Aelod o'r Cabinet ar faterion Gofal Cymdeithasol: “Mae cynhalwyr di-dâl yn gwneud cyfraniad amhrisiadwy at fywydau’r bobl maen nhw’n eu helpu, yn aml heb weld eu hunain yn gynhalwyr nac yn sylweddoli bod cymorth ar gael iddyn nhw.
“Bydd y model tair haen newydd yma'n ei gwneud hi’n haws i gynhalwyr di-dâl ddod o hyd i’r lefel gywir o gymorth ar gyfer eu hamgylchiadau unigol, boed hynny’n wybodaeth yn eu cymuned, cymorth wedi'i dargedu'n well neu lwybr clir at Asesiad Cynhaliwr ffurfiol lle bo angen. Ar ôl misoedd o waith, rwy'n falch iawn ein bod ni bellach yn lansio'r model yn swyddogol.
“Drwy ddarparu cymorth mewn lleoliadau cymunedol dibynadwy fel llyfrgelloedd, gallwn ni nodi mwy o gynhalwyr di-dâl yn gynharach, gan eu helpu i deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a'u cefnogi, a sicrhau eu bod yn hyderus wrth geisio cymorth. Rwy'n edrych ymlaen at nodi'r cam pwysig yma yn Llyfrgell Treorci ar 19 Tachwedd.”
Manylion yr achlysur:
- Dyddiad: Dydd Iau, 19 Tachwedd
- Amser: 10.30am tan 2.30pm
- Lleoliad: Llyfrgell Treorci, Heol yr Orsaf, Treorci, CF42 6NN
- Fformat: Achlysur lansio ffurfiol gydag areithiau ac yna sesiwn galw heibio anffurfiol gyda stondinau gwybodaeth a chyfleoedd i siarad â gwasanaethau a sefydliadau partner.
- Does dim angen dod i'r holl achlysur. Bydd modd i ymwelwyr alw heibio ar amser sy'n gyfleus iddyn nhw rhwng 10.30am a 2.30pm.
Cofrestrwch yn gynhaliwr di-dâl yma.
Wedi ei bostio ar 29/10/2026