Skip to main content

Y Cabinet yn Cymeradwyo Model Cymorth Newydd ar gyfer Cynhalwyr Di-dâl

Mae Cabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi cymeradwyo model newydd i wella’r cymorth sy’n cael ei gynnig i Gynhalwyr Di-dâl ledled y Fwrdeistref Sirol, a hynny’n dilyn gwaith ymgysylltu helaeth ac ymgynghoriad cyhoeddus a gafodd ei gynnal rhwng 12 Awst a 5 Hydref 2025.

Prif nod y model arfaethedig yw gwella hygyrchedd yr wybodaeth a’r cyngor sydd ar gael i Gynhalwyr Di-dâl a darparu llwybr cymorth - gan gynnwys gwybodaeth anffurfiol, cyfeirio at wasanaethau a chymorth ffurfiol. 

Mae'r model newydd yn cynnwys dull tair haen:

  1. Cymorth yn y Gymuned - Wedi'i ddarparu mewn modd cydweithredol gan lyfrgelloedd sy'n 'effro i gynhalwyr' a Charfan Datblygu’r Gymuned RhCT Gyda’n Gilydd. Bydd modd i staff ddarparu gwybodaeth wedi'i thargedu, a chyfeirio cynhalwyr at bartneriaid Llwybr Cymorth i Drigolion, grwpiau cymorth cyfoedion penodol a llinellau cymorth cenedlaethol/lleol. Bydd Cydlynwyr Cymunedol hefyd yn darparu cymorth ar y lefel yma drwy gynnal asesiad lles gwirfoddol sy'n ystyried eich anghenion personol ac anghenion eich teulu.
  2. Cymorth wedi'i Dargedu ar gyfer Cynhalwyr - Dyma gymorth ar gyfer cynhalwyr sydd angen cymorth mwy penodol, bydd Swyddogion Arbenigol Cymorth i Gynhalwyr, sy’n rhan o'r Gwasanaethau i Oedolion, yn darparu cymorth wedi'i deilwra. Bydd hyn yn cynnwys trefnu mynediad at grwpiau cymorth cyfoedion lleol a gweithgareddau eraill y mae’r Cynhalwyr wedi’u nodi’n werthfawr iddyn nhw yn rhan o’u rôl gofalu. Byddan nhw hefyd yn cyflawni rôl Hyrwyddwr ar gyfer Cynhalwyr Di-dâl, gan rannu canllawiau ac arfer da gyda charfanau gwaith cymdeithasol.
  3. Gwasanaethau Statudol Ffurfiol - Dyma wasanaethau ar gyfer y cynhalwyr hynny sydd angen cymorth ffurfiol, bydd Carfanau Gwaith Cymdeithasol Gwasanaethau i Oedolion y Cyngor yn darparu gwasanaethau statudol gan gynnwys Asesiadau Cynhalwyr, gofal seibiant, a chynlluniau cymorth ffurfiol.

Mae'r cynigion yn adeiladu ar waith ymgysylltu gafodd ei gyflawni yn 2024. Tynnodd y gwaith yma sylw at y ffaith bod nifer o Gynhalwyr Di-dâl yn ceisio cymorth hyblyg a pherthnasol yn lleol - yn enwedig yn ystod camau cynnar eu rôl yn gynhaliwr. Derbyniwyd 181 o ymatebion (94% gan Gynhalwyr Di-dâl) yn rhan o’r ymgynghoriad cyhoeddus (gweler Atodiad 1 Adroddiad y Cabinet am fanylion pellach) ac roedd nifer fawr o blaid y newidiadau arfaethedig:

  • Roedd 82% yn cytuno’n gryf ac 18% yn cytuno ar bwysigrwydd un pwynt cyswllt.
  • Roedd 83% yn cytuno’n gryf ac 16% yn cytuno bod angen cymorth lles ar gynhalwyr.
  • Roedd 76% yn cytuno’n gryf a 21% yn cytuno y dylai’r cymorth sy’n cael ei ddarparu fod yn agos i'w cartref.
  • Roedd 78% yn cytuno’n gryf ac 19% yn cytuno bod angen llwybr clir at asesiad ffurfiol.

Roedd yr ymatebwyr hefyd wedi tynnu sylw at heriau penodol, megis unigrwydd, straen, diffygiad, ac roedden nhw hefyd wedi nodi eu bod nhw eisiau cyfleoedd i gysylltu ag eraill a chael mynediad at gofal seibiant rheolaidd a hyblyg. Mae'r cynnig presennol, sy'n cael ei ddarparu gan garfan fach yng Nghanolfan Cynllun Cynnal y Cynhalwyr ym Mhontypridd, hefyd yn cael ei werthfawrogi gan rai, ond nodwyd nad oedd yn hygyrch i bawb.

Mae'r cynnig newydd yn ceisio manteisio i’r eithaf ar y staff arbenigol sydd gyda ni, gwella mynediad cyhoeddus at wybodaeth, a chryfhau rôl ein llyfrgelloedd wrth fynd ati i gefnogi cymunedau cydnerth.

Meddai'r Cynghorydd Gareth Caple, Aelod o'r Cabinet ar faterion Gofal Cymdeithasol: "Mae Cynhalwyr Di-dâl yn gwneud aberthau personol anhygoel er mwyn gofalu am eu hanwyliaid, a dydy nifer ohonyn nhw ddim yn derbyn cydnabyddiaeth am eu gwaith.

"Bydd y model cymorth newydd yma’n ei gwneud hi’n haws i Gynhalwyr Di-dâl ledled Rhondda Cynon Taf ddod o i gyngor a chymorth o ran lles, a llwybr clir at asesiad ffurfiol pan fo angen. Mae'n galonogol gweld yr adborth eithriadol o gadarnhaol sydd wedi’i nodi yn yr ymatebion i’r ymgynghoriad mewn perthynas â'r newidiadau yma, sy'n ceisio gwella'r gwasanaeth hanfodol yma.

"Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i ddarparu cymorth a chyngor wedi'u targedu ar gyfer Cynhalwyr Di-dâl, gan sicrhau eu bod nhw yn cael eu trin â'r urddas a'r parch y maen nhw'n ei haeddu. Rwy'n edrych ymlaen at weld sut y bydd hyn yn cael ei gyd-gynhyrchu â Chynhalwyr Di-dâl lleol ac yn cael ei weithredu dros y misoedd sydd i ddod."

Bydd y Cyngor nawr yn gweithio â Chynhalwyr Di-dâl er mwyn cyd-gynhyrchu'r model ac i ddatblygu cynllun gweithredu fesul cam erbyn mis Mehefin 2026. Bydd y dull dim ond yn cael ei ddarparu gan y llyfrgelloedd i ddechrau, gyda’r nod o ehangu’r cynllun i gynnwys lleoliadau eraill yn y gymuned, megis canolfannau hamdden, yn y dyfodol.

Cliciwch ar y ddolen isod i gael rhagor o wybodaeth am y cymorth lleol sydd ar gael i Gynhalwyr Di-dâl: Cymorth i Gynhalwyr | Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf

Ddim yn siŵr a ydych chi'n Gynhaliwr Di-dâl? Rhagor yma: Ydych chi'n gynhaliwr? | Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf

Cliciwch ar y ddolen isod i gael gwybodaeth am ein Llwybr Cymorth i Drigolion: Cymorth i Drigolion | Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf

Wedi ei bostio ar 14/01/2026