Skip to main content

Mae ailgylchu yn RhCT yn ofnadwy o hawdd y Calan Gaeaf yma

Caiff trigolion ledled Rhondda Cynon Taf eu hannog i ailgylchu mwy y Calan Gaeaf yma, wrth i'r Cyngor lansio ei ymgyrch ddiweddaraf "Mae ailgylchu yn RhCT yn hawdd iawn". Mae'r ymgyrch yn cynnwys nifer o newidiadau sy'n gwneud ailgylchu'n haws nag erioed.

Y newid mwyaf yw cyflwyno ailgylchu plastigau meddal *a gaiff eu derbyn i wasanaeth ailgylchu Bagiau Clir y Cyngor. Mae hynny'n golygu bod modd ailgylchu'r holl fagiau plastig a phecynnau lapio bwyd plastig yn eich bagiau ailgylchu clir nawr - ac nid tric yw hynny!

O hyn ymlaen, bydd modd i drigolion ailgylchu ystod o eitemau plastig meddal sy'n cael eu derbyn trwy eu casgliad arferol o ymyl y ffordd, yn ogystal â phapur, cardfwrdd, caniau, cartonau, poteli a jariau.

Mae'r Cyngor hefyd wedi ei gwneud i'n haws ailgylchu papur, gan nad oes angen rhoi papur mewn bag ar wahân mwyach.

Mae'r newidiadau'n golygu bod modd i drigolion ailgylchu rhagor o ddeunyddiau gartref, gyda llai o ddidoli a llai o gynwysyddion - mae wir yn HAWDD!

Rhagor o ddeunyddiau. Un bag. Llawer yn haws.

*Mae plastigau meddal a gaiff eu derbyn yn cynnwys eitemau bob dydd megis:

  • Bagiau bara
  • Bagiau ffrwythau a llysiau
  • Bagiau salad
  • Bagiau bwyd wedi'u rhewi
  • Leininau bocsys grawnfwyd
  • Deunydd lapio aml-becyn (dim leinin arian)
  • Deunydd lapio ar gyfer papur cegin a phapur tŷ bach

Dyma atgoffa trigolion y dylai'r holl ddeunydd ailgylchu fod yn lân, yn wag ac yn sych cyn iddyn nhw gael eu rhoi yn y Bag Clir.

Mae'r Cyngor hefyd yn gofyn i'w drigolion barhau â'u hymdrechion gwyrdd drwy lenwi eu cadis gwastraff bwyd gyda'u holl fwyd parti dychrynllyd a'u perfedd llysnafeddog pwmpen ar ôl i ddathliadau Calan Gaeaf ddod i ben.

Y newyddion gwych yw rydyn ni'n gwybod bod ein trigolion yn frawychus o dda am ailgylchu eu gwastraff bwyd, felly fydd hyn ddim yn anodd iddyn nhw. Mae'r ffigyrau ailgylchu diweddaraf yn dangos bod mwy a mwy ohonom ni'n ailgylchu ein bwyd anfwytadwy a bwyd dros ben - mae bron i 300 tunnell o wastraff bwyd nawr yn cael ei gasglu yn fwy aml mewn wythnos* - mae hynny'n pwyso'r un faint ag awyren Boeing 747, sydd bellach yn gallu cael ei droi'n ddigon o ynni i bweru 27 o gartrefi!

Pan ddaw hi’n amser cerfio eich pwmpenni, cofiwch ei bod hi’n debygol bod miliynau o gartrefi eraill yn gwneud yr un peth! Dyna lawer o hadau a pherfedd pwmpen! Beth am ei ddefnyddio i greu’r pryd hydrefol perffaith – gallai cnawd y bwmpen fod yn brif gynhwysyn mewn pryd blasus fel cawl pwmpen, pei pwmpen neu risoto pwmpen rost. Mae modd defnyddio pwmpen hefyd fel dewis rhad a blasus yn lle tatws melys – dewch o hyd i ragor o ryseitiau yn https://www.lovefoodhatewaste.com/cy. 

Unwaith y bydd eich pwmpen wedi dechrau colli ei gwên fwganllyd, cofiwch ei thorri i fyny a’i rhoi yn eich cadi gwastraff bwyd neu ei rhoi’n gyfan ar ben eich cadi gwastraff bwyd allanol i’w chasglu – cofiwch dynnu unrhyw oleuadau/canhwyllau.

Mae modd ailgylchu gwastraff bwyd megis bwyd dros ben, croen llysiau a bwyd parti hefyd gan ddefnyddio'r gwasanaeth gwastraff bwyd yn hytrach na'i roi yn y bag du.

Mae'r newidiadau'n rhan o ymgyrch ehangach y Cyngor "Mae ailgylchu yn RhCT yn hawdd iawn", sy'n hyrwyddo'r tri gwasanaeth ailgylchu allweddol sydd ar gael i drigolion:

  • Cadi bwyd. Ailgylchu. Ac eto.
  • Bag clir. Ailgylchu. Ac eto.
  • Sach werdd. Ailgylchu. Ac eto.

Meddai Arweinydd y Cyngor gyda chyfrifoldeb dros Wastraff ac Ailgylchu, y Cynghorydd Ann Crimmings:

"Rydyn ni wedi mynd ati i wneud ailgylchu hyd yn oed yn HAWS i drigolion RhCT, a hynny pan oedd trigolion yn meddwl na allai ailgylchu yn RhCT fod yn haws, diolch i'w gasgliadau ailgylchu wythnosol, diderfyn.

“Rydyn ni’n gwybod bod trigolion RhCT yn parhau i fod ymhlith yr ailgylchwyr gorau yng Nghymru ac maen nhw eisoes wedi ein helpu ni i gyflawni cyfraddau ailgylchu dros 70%. Rydyn ni am wneud ailgylchu mor syml a chyfleus â phosibl, a dyna pam rydyn ni'n parhau i chwilio am ffyrdd o wneud ein gwasanaethau hyd yn oed yn haws i'w defnyddio.

"Drwy gyflwyno ailgylchu plastigau meddal *a gaiff eu derbyn i wasanaeth ailgylchu Bagiau Clir y Cyngor a dileu'r angen i gadw papur ar wahân, gall trigolion ailgylchu rhagor o ddeunyddiau gartref nag erioed."

"Wrth i Galan Gaeaf agosáu, rydyn ni'n annog pawb i wneud y gorau o'r gwasanaethau ailgylchu sydd ar gael iddyn nhw a chofio bod ailgylchu yn RhCT yn hawdd iawn - a does dim triciau cudd."

 Dim triciau, dim ond danteithion... Mae ailgychu'n HAWDD!

Pwmpenni, croen llysiau, gwastraff bwyd,
mae yna wasanaeth ailgylchu yn aros amdanoch chi!
Plastigau meddal yw'r seren ddiweddaraf
- rhowch nhw yn eich Bag Clir lle bynnag ydych chi!

P'un a ydych chi'n cerfio pwmpenni, yn cynnal parti neu'n mwynhau ychydig o ddanteithion Calan Gaeaf, mae digon o gyfleoedd i ailgylchu.

Dyma atgoffa trigolion hefyd am newidiadau tymhorol sydd ar ddod i wasanaethau gwastraff ac ailgylchu wrth i'r gaeaf agosáu.

Casgliadau Gwastraff Gwyrdd

Bydd casgliadau Gwastraff Gwyrdd yn wasanaeth mae angen ei drefnu o ddydd Llun, 23 Tachwedd 2026 tan ddydd Llun, 15 Mawrth 2027.

Mae modd i drigolion barhau i drefnu casgliadau yn ôl yr angen drwy gydol y gaeaf drwy fynd i www.rctcbc.gov.uk/GwastraffGwyrdd.

Canolfannau Ailgylchu yn y Gymuned

Mae pob Canolfan Ailgylchu yn y Gymuned ledled Rhondda Cynon Taf bellach yn gweithredu yn unol ag oriau agor y gaeaf.

Bydd oriau agor y gaeaf yn parhau ar waith tan ddydd Llun, 29 Mawrth, 2027, pan fydd safleoedd yn gweithredu yn unol ag oriau yr haf.

Caiff trigolion eu hannog i wirio gwefan y Cyngor (www.rctcbc.gov.uk/CanolfannauAilgylchu) cyn teithio i gael yr amseroedd agor a gwybodaeth am y safle diweddaraf.

Os ydych chi'n dal yn ansicr beth a ble i'w ailgylchu, ewch i www.rctcbc.gov.uk/ChwilioAilgylchu

Am ragor o wybodaeth ynglŷn ag ailgylchu yn RhCT, dilynwch y Cyngor ar Facebook ac Instagram neu ewch i www.rctcbc.gov.uk/AilgylchuHAWDD.

Wedi ei bostio ar 27/10/2026