Skip to main content

Mae'r Nadolig ar ei ffordd, ac mae Siôn Corn yn dod â llond sled o hwyl i ganol ein trefi!

Town-Centre-Christmas-Thumbnail-500x500 small

Mae Siôn Corn wrthi'n paratoi ei sled ac yn edrych ymlaen at ddod â hwyl yr ŵyl i ganol trefi ledled Rhondda Cynon Taf!

Gyda dathliadau canol tref Nadoligaidd yn cael eu cynnal yn nhrefi Porth, Glynrhedynog, Aberdâr ac Aberpennar, mae modd i chi ddisgwyl goleuadau disglair, reidiau Nadoligaidd, llawr sglefrio synthetig, paentio wynebau, glôb eira enfawr ac, wrth gwrs, y cyfle i gwrdd â'r dyn ei hun!

Gyda gweithgareddau'n costio dim ond £1 y tocyn, mae'n ddiwrnod Nadoligaidd fforddiadwy i'r teulu cyfan.

Dyma lle mae modd i chi weld Siôn Corn a'i griw llawen…

 

Porth

26 Tachwedd

3pm–6pm

Maes Parcio Plasa'r Porth 

Glynrhedynog

27 Tachwedd

3pm–6pm

Maes Parcio Stryd y Leimwydden 

Aberdâr

4 Rhagfyr

3pm–6pm

Sgwâr y Llyfrgell

Aberpennar

5 Rhagfyr

12pm–5pm

Maes Parcio (Isaf) Stryd Henry

 

Mae digon i ddiddanu eich corachod bach!

Am £1 y tocyn yn unig (ar gael ar y diwrnod), mae modd i deuluoedd fwynhau ystod wych o atyniadau Nadoligaidd: 

  • Glôb Eira Enfawr – Gwenwch! Dewch i wlad hudol, aeafol i dynnu llun Nadoligaidd!
  • Llawr Sglefrio Synthetig – Byddwch yn barod am hwyl a sbri! Sglefrio Nadoligaidd ar gyfer pawb o bob oedran!
  • Ffair Hwyl i Blant – Mae modd i'r rhai bach fwynhau tair reid, gyda digon o gyffro Nadoligaidd ar hyd y ffordd.
  • Paentio Wynebau – Ydych chi am fod yn garw â thrwyn coch neu'n angel y Nadolig?
  • Ogof Siôn Corn – Am ddau docyn yn unig, dewch i ogof Siôn Corn i gwrdd â'r dyn ei hun ac i dderbyn anrheg yn syth o Begwn y Gogledd!

Cadwch olwg ar yr awyr i weld os bydd hi'n bwrw eira!

Nid dyma'r cyfan – mae hyd yn oed rhagor o hud y Nadolig ledled Rhondda Cynon Taf!

Bydd canol trefi Pontypridd, Treorci, Tonypandy, Pont-y-clun a Llantrisant hefyd yn dathlu'r Nadolig gydag achlysuron yng nghanol y trefi a byddan nhw'n derbyn cymorth ariannol gan y Cyngor er mwyn eu cynnal.

Pontypridd

20 Tachwedd

4.30pm–7.30pm 

Cewch ragor o wybodaeth yma neu ar dudalen Facebook @Pontypriddtowncouncil

Treorci

28 Tachwedd

10am–6pm

Rhagor o wybodaeth ar gael yma

Tonypandy

5 Rhagfyr

1pm–5pm

Rhagor o wybodaeth ar gael yma

Pont-y-clun

5 Rhagfyr

12pm–5pm

Cewch ragor o wybodaeth yma neu ar dudalen Facebook @PontyclunTownCouncil

Llantrisant

I'w gadarnhau

Rhagor o wybodaeth ar gael yma

 

Bwytwch, Siopwch a Byddwch Lawen!

Tra byddwch chi'n mwynhau'r dathliadau, beth am wneud diwrnod ohono?  Dewch i gynhesu gyda thamaid i'w fwyta, mwynhewch ddanteithion Nadoligaidd, neu prynwch anrhegion oddi ar eich rhestr siopa Nadolig. Dewch i ni gefnogi busnesau lleol.

Boed hyn yn cynnwys dod o hyd i'r anrheg berffaith o farchnad Aberdâr neu Bontypridd, siopa am anrheg aeafol yn Nhreorci neu Donypandy neu brynu'r eitemau olaf ar gyfer y Cinio Nadolig, mae pob rheswm i siopa, bwyta a dathlu yn ein strydoedd mawr y Nadolig yma.

Meddai'r Cynghorydd Scott Emanuel, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Cymunedau: “Gall tymor yr ŵyl gyflwyno heriau ariannol i lawer o unigolion a theuluoedd. Mewn ymateb, mae'r Cyngor yn parhau i ymrwymo i ddarparu achlysuron cost isel yng nghanol ein trefi, sy'n cynnig ystod eang o adloniant a gweithgareddau tymhorol. Mae'r achlysuron yma wedi'u cynllunio i fod yn hwyl i bawb, gan hefyd gefnogi ein busnesau lleol. Rydyn ni'n annog trigolion i ddod, cymryd rhan, a manteisio ar y cyfle i siopa’n lleol y Nadolig yma.”

Dilynwch @besymlaenrhct ar Facebook ac Instagram i dderbyn y newyddion diweddaraf ac am gyhoeddiadau gan Siôn Corn a'i griw!

Wedi ei bostio ar 27/10/2026