Skip to main content

Y newyddion diweddaraf ar gynnydd y datblygiad gofal preswyl modern newydd yn ardal Gelli

Gelli web 1

Mae gwaith parhaus i adeiladu llety gofal arbenigol yn ardal Gelli yn gwneud cynnydd da, wrth i'r cyfnod adeiladu gyrraedd y misoedd olaf. Mae to'r adeilad bron wedi'i gwblhau, ac mae gwaith yn canolbwyntio ar osod mecanyddol a thrydanol, gwaith allanol, a chyfleustodau sy'n dod i mewn ar hyn o bryd.

Mae'r buddsoddiad pwysig i adfywio hen safle Cartref Gofal Preswyl Bronllwyn yn Heol Colwyn yn rhan o ymrwymiad parhaus y Cyngor i foderneiddio'r cynnig llety gofal presennol yn y Fwrdeistref Sirol. Mae contractwr y prosiect, Langstone Construction Group, yn symud y datblygiad modern yn ei flaen tuag at ei ddyddiad cwblhau disgwyliedig yn gynnar yn 2027.

Bydd y llety'n cynnwys 14 ystafell â chyfleusterau en-suite gyda darpariaeth gofal seibiant, wedi'u hadeiladu ar draws tri llawr. Bydd ganddo gyfleusterau o'r radd flaenaf i bobl ag anabledd dysgu, gan gynnwys ystafelloedd oriau dydd ac ystafelloedd synhwyraidd, ystafelloedd ymolchi â chymorth, cegin fasnachol, siop trin gwallt ac ystafell hyfforddi. Y tu allan, bydd ardal awyr agored fywiog, a bydd y maes parcio a'r mynediad i'r safle yn cael eu cadw.

Fel y dangosir yn y lluniau diweddaraf o'r safle, mae to'r adeilad bron wedi'i gwblhau a chan fod y ffenestri wedi'u gosod, mae'r adeilad bron â chyrraedd y pwynt lle mae'n wrth-ddŵr. Unwaith y bydd y gwaith terfynol sy'n weddill wedi'i gwblhau ar y to uchaf, bydd modd tynnu'r rhan berthnasol o sgaffaldiau. Bydd y craen twr hefyd yn cael ei symud yn dilyn y gweithgarwch hwn.

Mae gwaith mecanyddol, gwaith trydanol a gwaith yn ymwneud â chyfleustodau yn mynd rhagddo, gyda Dŵr Cymru wrthi'n gosod y cyflenwad dŵr sy'n dod i mewn i'r safle. Y tu mewn, mae plastrfwrdd yn cael ei osod, ac mae gwaith allanol o amgylch yr adeilad yn parhau.

Meddai'r Cynghorydd Gareth Caple, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Gofal Cymdeithasol: “Mae’n wych gweld y safle gwaith yn ardal Gelli yn dechrau edrych yn debyg iawn i’r prosiect gorffenedig rydyn ni wedi’i weld mewn argraffiadau arlunydd, wrth i’r Cyngor fuddsoddi mewn llety preswyl o’r radd flaenaf sy’n arbenigo mewn darparu gofal i oedolion a phobl hŷn anabl. Mae'r prosiect hefyd yn sicrhau bod safle'r hen gartref gofal yn cael ei ddefnyddio eto, gan ei atal rhag mynd yn adfail.

“Mae ymrwymiad y Cyngor i foderneiddio opsiynau gofal preswyl ledled Rhondda Cynon Taf yn parhau i gael ei ddangos trwy ein buddsoddiad. Yn dilyn agoriad diweddar Dan-y-mynydd yn ardal Porth, rydyn ni bellach wedi darparu tri llety gofal ychwanegol newydd ers 2020 – sydd hefyd yn cynnwys Maes-y-ffynnon yn Aberaman a Chwrt yr Orsaf yn y Graig. Rydyn ni hefyd yn adeiladu datblygiad gofal cymysg cyffrous yn Aberpennar ar hyn o bryd, ac rydyn ni wedi ymrwymo i brosiectau yn y dyfodol yng Nglynrhedynog a Phentre'r Eglwys. Derbyniodd prosiect Glynrhedynog, sy'n canolbwyntio ar ofal dementia, ganiatâd cynllunio ym mis Awst.

“Mae’r cyfnod adeiladu yn ardal Gelli yn gwneud cynnydd pwysig, ac mae’n gadarnhaol bod to’r adeilad bron wedi’i gwblhau, bod y ffenestri’n cael eu gosod, a bod gwaith pwysig ar wasanaethau cyfleustodau yn mynd rhagddo. Bydd trigolion yn sylwi bod y craen tŵr mawr yn cael ei symud dros y cyfnod nesaf. Mae'r prosiect ar y trywydd iawn i'w gyflawni ar ddechrau 2027. Rwy'n ddiolchgar i'n contractwr am ei ymrwymiad i gyflawni'r prosiect, ac i'r gymuned am ei chydweithrediad. Edrychaf ymlaen at gamau nesaf y gwaith wrth i ni wneud cynnydd tuag at gwblhau'r adeilad.”

Mae modd i chi gael rhagor o wybodaeth am fuddsoddiad mawr y Cyngor mewn gofal preswyl a gofal ychwanegol ar dudalennau gwe pwrpasol #TrawsnewidRhCT.

Wedi ei bostio ar 17/09/2026