Sylwch y bydd trefniadau bws dros dro ar waith yn Tonysguboriau dros y pythefnos nesaf, oherwydd cau ffordd sy'n angenrheidiol ar gyfer gwaith ar y brif bibell nwy yn Heol Talbot.
Bydd angen cau'r ffordd ar gyfer gwaith ailosod prif bibell nwy gan Wales & West Utilities, o ddydd Llun, 21 Medi, i ddydd Gwener, 2 Hydref.
Bydd y ffordd ar gau yn Heol Talbot, o ochr ddwyreiniol ei chyffordd â Heol y Gyfraith, i'r ddau gyfeiriad am 39 metr – fel sydd i'w weld ar y map canlynol.
Bydd y llwybr amgen i fodurwyr, sydd hefyd i'w weld ar y map, wedi'i nodi'n glir ar hyd Heol Talbot, Heol Glan-elái, yr A473 a'r A4119.
Bydd mynediad ar gael i gerddwyr ac i eiddo, ond fydd dim mynediad ar gael i gerbydau'r gwasanaethau brys. Fydd mynediad i'r parc manwerthu cyfagos ddim yn cael ei effeithio.
Mae'r gwasanaethau bws sy'n cael eu heffeithio gan y gwaith yn cynnwys Gwasanaeth 100 Edwards, ynghyd â Gwasanaethau 122 (Tonypandy i Gaerdydd), 124 (Caerdydd i Faerdy) a 404 (Pontypridd i Ben-y-bont ar Ogwr) Stagecoach.
Bydd bws gwennol AM DDIM, wedi'i drefnu gan y Cyngor, yn cael ei weithredu gan Jarvis Coaches Ltd. Bydd y bws yn gwasanaethu Gorsaf Fysiau Tonysguboriau, Arhosfan Fysiau L’Oreal ac Ysbyty Brenhinol Morgannwg, gan deithio ar hyd yr A473 a’r A4119.
Mae modd i deithwyr ar bob llwybr ddefnyddio'r arhosfan yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg i drosglwyddo i'r bws gwennol, ar gyfer teithio ymlaen i Orsaf Fysiau Tonysguboriau. Bydd Arhosfan Bysiau L’Oreal hefyd yn cael ei defnyddio i gludo teithwyr i Donysguboriau ac oddi yno.
Bydd dau fws gwennol yn gweithredu o ddydd Llun i ddydd Sadwrn (5am i 11.34pm) a bydd un bws yn gweithredu ddydd Sul, 27 Medi (5am i 10pm). Mae'r amserlen lawn i'w gweld yma.
O ran cludiant y Cyngor i ysgolion a cholegau, cysylltir yn uniongyrchol â myfyrwyr sy'n defnyddio Llwybr 025/10 (Llanharan i Ysgol Gyfun Bryncelynnog) a Llwybr 201/01 (Tyla Garw i Ysgol Llanhari) – ac sydd fel arfer yn defnyddio safleoedd yn yr ardal sy'n cael eu heffeithio – i roi manylion am drefniadau cludiant dros dro.
Bydd pob bws ysgol a choleg arall yn teithio ar hyd llwybr y dargyfeiriad. Efallai bydd hyn yn arwain at oedi wrth wasanaethu arosfannau yn yr ardal lle mae'r ffordd ar gau ac o'i hamgylch.
Diolch ymlaen llaw i drigolion a defnyddwyr y ffordd am eich cydweithrediad.
Wedi ei bostio ar 18/09/2026