Skip to main content

Cae chwaraeon wedi'i uwchraddio yng Nghwm Clydach yn rhan o fuddsoddiad mewn ysgol newydd

Ysgol Cambrian web

Mae'r ffotograffau yma'n dangos cae chwaraeon sydd newydd ei uwchraddio yn Cwm Clydach. Mae'r cae'n rhan o'r buddsoddiad yn Ysgol Cambrian mewn partneriaeth ag Ymddiriedolaeth Pentref Cambrian.

Mae'r Cyngor yn buddsoddi yn Ysgol Cambrian, a fydd yn dod yn bumed ysgol Anghenion Dysgu Ychwanegol Rhondda Cynon Taf pan fydd yn agor yn ddiweddarach yr hydref yma. Bydd gan yr ysgol fodern 176 o leoedd ar gyfer disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol, a bydd yn cynnwys cyfleusterau arbenigol fel pwll hydrotherapi a chanolfan les. Dyma ragor o wybodaeth.

Bydd modd i ddisgyblion sy'n mynychu'r ysgol newydd ddefnyddio'r cae chwarae newydd yn ystod y dydd. Bydd yr Ymddiriedolaeth yn ei reoli ar gyfer defnydd y gymuned gyda'r nos ac ar benwythnosau.

Mae'r cae chwaraeon sydd wedi'i uwchraddio wedi'i leoli yn union wrth ymyl y prif gae 4G, sy'n cael ei reoli gan yr Ymddiriedolaeth ac sy'n gartref i glwb pêl droed Cambrian United. Yn ystod y gwaith adeiladu'r ysgol, cafodd y cae llai ei ail-wynebu a'i uwchraddio gyda haen amsugno sioc, cafodd y ffens ei hadnewyddu a chafodd llwybr troed ei ychwanegu.

Diolch i Ymddiriedolaeth Pentref Cambrian a'r gymuned am ganiatáu'r gwaith yma!

Meddai llefarydd ar ran Ymddiriedolaeth Pentref Cambrian: "Rydyn ni'n falch ein bod wedi gweithio mewn partneriaeth â'r Cyngor er mwyn darparu'r gwelliannau sylweddol yma i gyfleusterau chwaraeon Cwm Clydach, fydd yn creu ased cymunedol fydd yn para.

"Bydd y cae wedi'i uwchraddio yn rhoi mynediad i blant sy'n mynychu'r ysgol at gyfleusterau o'r radd flaenaf yn ystod y diwrnod ysgol, gan hefyd gynorthwyo twf parhaus Clwb Pêl-droed Cambrian United, ei Academi, ei adran Unigolion ag Anableddau, a'i adran Merched, y tu allan i oriau ysgol. Bydd y gwelliannau yma'n helpu i gynyddu'r nifer sy'n cymryd rhan mewn chwaraeon, yn creu cyfleoedd newydd ar gyfer pobl ifainc, ac yn cynorthwyo cymunedau iachach, sy'n fwy heini."

Dysgwch ragor am ein buddsoddiad parhaus mewn cyfleusterau addysg newydd ar gyfer ein hysgolion, drwy'r tudalennau gwe pwrpasol #TrawsnewidRhCT

Wedi ei bostio ar 17/09/2026