Mae tai lloches yn cynnig llety, yn aml o fewn canolfannau, wedi'u cynllunio'n arbennig ag anghenion pobl hŷn mewn cof.
Ei nod yw darparu amgylchedd diogel lle y gall pobl wneud ffrindiau a mwynhau amrywiaeth o weithgareddau cymdeithasol tra'u bod nhw'n byw yn annibynnol. Mewn llawer o achosion, mae gwasanaeth warden yn cael ei ddarparu ar gyfer rhagor o sicrwydd a diogelwch gwell.
Mae pob cymdeithas â'i rheolau ei hun ynghylch pwy sy'n gymwys i wneud cais am lety lloches. Os oes diddordeb gyda chi mewn gwneud cais am y math yma o lety, cysylltwch â'r Gymdeithas sy'n rheoli'ch llety o ddewis. Gall fod yn ddefnyddiol i ymweld â sawl canolfan cyn gwneud cais ffurfiol, er mwyn i chi gael y cyfle i gwrdd â phreswylwyr eraill a chael sgwrs am eu profiadau nhw o'r llety.
Isod, mae dolenni i'r cymdeithasau tai sy'n cynnig tai lloches i bobl yn Rhondda Cynon Taf. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar eu gwefannau nhw.