Skip to main content

Cofrestrwch yn gynhaliwr di-dâl

Mae modd cofrestru’n gynhaliwr di-dâl gyda Chyngor Rhondda Cynon Taf yn rhad ac am ddim. Rydyn ni yma i'ch cefnogi chi yn eich rôl ofalu.

Byddwch chi'n derbyn y canlynol ar ôl i chi gofrestru:

  • Pecyn gwybodaeth sy'n cynnwys manylion cyswllt a chyngor defnyddiol
  • Cylchlythyr sy'n cynnwys newyddion ac achlysuron sy'n ymwneud â chynhalwyr (mae modd optio allan ar unrhyw adeg)
  • Mynediad at gyllid grant i chi gymryd seibiannau byr o'ch dyletswyddau gofalu
  • Gostyngiad o 40% oddi ar wasanaethau hamdden RhCT gan gynnwys campfeydd, pyllau nofio, dosbarthiadau ffitrwydd a chwaraeon dan do
  • Cerdyn argyfwng i Gynhalwyr, fel bod modd i ni drefnu cymorth i'r person rydych chi'n gofalu amdano mewn argyfwng.

Cofrestru’n gynhaliwr di-dâl