Mae modd cofrestru’n gynhaliwr di-dâl gyda Chyngor Rhondda Cynon Taf. Rydyn ni yma i'ch cefnogi chi yn eich rôl ofalu.
Mae gan gynhalwyr di-dâl hawl gyfreithiol i gael asesiad i gynhalwyr. Byddwn ni’n edrych ar eich anghenion a sut mae modd i ni eich cefnogi.
Mae modd i chi gael cefnogaeth, cymryd rhan mewn gweithdai, achlysuron cymdeithasol, gweithgareddau awyr agored, ennill cymwysterau newydd a llawer yn rhagor. 
Mae modd i ni eich helpu i wneud pethau'n haws yn eich cartref, rhoi seibiant o'ch dyletswyddau gofalu, yn ogystal â chynnig llawer o weithgareddau i chi er mwyn i chi gael mwynhau.

Mae gwasanaethau gofal seibiant yn rhoi gofal i'r person rydych chi'n gofalu amdano fel bod modd i chi gael seibiant. 

Gostyngiad o 40% oddi ar wasanaethau hamdden RhCT, gan gynnwys campfeydd, pyllau nofio, dosbarthiadau ffitrwydd a chwaraeon dan do.

Gwnewch gais am gerdyn argyfwng i gynhalwyr fel bod modd i ni drefnu cymorth i'r person rydych yn gofalu amdano os bydd argyfwng.
Cymorth i greu cynllun argyfwng i gynhalwyr fel bod modd i chi baratoi a nodi pwy all helpu'r person rydych chi'n gofalu amdano os dydych chi ddim yn gallu gwneud hynny.