Skip to main content

Gofyn am gefnogaeth

Gall Cynllun Cynnal y Cynhalwyr Rhondda Cynon Taf roi Pecyn Gwybodaeth i Gynhalwyr i chi.

Nod y pecyn yw rhoi gwybodaeth allweddol i chi sy'n ymwneud â'r cymorth sydd ar gael i gynhalwyr. I ofyn am Becyn Cynhalwyr, cliciwch ar y ddolen a rhoi'r wybodaeth ofynnol.

Gofyn am Becyn Cynhalwyr ar-lein er mwyn cael gwybodaeth a chyngor.

Drwy gofrestru gyda Chynllun Cynnal y Cynhalwyr, bydd modd i chi gael:

  • Cylchlythyron rheolaidd sy'n rhoi'r newyddion diweddaraf am faterion, gwasanaethau a datblygiadau newydd a all effeithio arnoch chi, neu'r person rydych chi'n gofalu amdano

  • Pecyn Gofalwyr gyda gwybodaeth bwrpasol i'ch cefnogi yn eich rol ofalu

  • Sesiynau hyfforddi a gwybodaeth fydd o gymorth i chi yn eich gwaith gofalu, er enghraifft, sut i godi person yn ddiogel, sut i ymlacio a bwrw'ch blinder ar ôl diwrnod caled, dysgu sgiliau newydd a diweddariadau ynglŷn â'ch hawliau yn gynhaliwr

  • Grwpiau a fforymau i gynhalwyr 

  • Defnyddio'r Gwasanaeth Bwrw Bol / Estyn Cyngor i Gynhalwyr

  • Mynediad gostyngol i wasanaethau a chanolfannau hamdden y Cyngor 

  • Cymorth, cyngor, eiriolaeth ac arweiniad gan ein swyddog prosiect

Gwnewch atgyfeiriad i'r Prosiect Cefnogi Gofalwyr

Hefyd, a chithau'n gynhaliwr, mae hawl gyda chi i gael asesiad o'ch anghenion ac os yw'r person rydych chi'n gofalu amdano'n hysbys i'r gwasanaethau cymdeithasol, yna, dylai'r gofal rydych chi'n ei ddarparu gael ei gofnodi yn ei asesiad i sicrhau bod anghenion y ddau ohonoch chi yn cael eu cynrychioli yn y broses cynllunio gofal. 

I gael gwybod mwy, neu i ofyn am Asesiad Gofalwr, ffoniwch 01443 425003