Skip to main content

Asesiadau i Gynhalwyr

Os ydych chi'n gofalu am rywun, mae gyda chi hawl i ofyn am asesiad cynhaliwr. Bydd yr asesiad yn edrych ar yr effaith mae gofalu yn ei chael arnoch chi a'r cymorth efallai fydd eisiau arnoch chi.

Yn aml, gall darparu gofal ar gyfer un annwyl fod yn llethol a llawn straen ar adegau. Er mwyn nodi'ch anghenion fel cynhaliwr a'n helpu ni i gynllunio sut gallwn ni'ch cefnogi chi, bydden ni'n cynnal asesiad cynhaliwr. Mae'r asesiad yn rhoi cyfle i chi drafod cefnogaeth a fyddai'n gwneud eich gwaith cynnal yn haws.   Dydy'r asesiad ddim yn mesur nac yn barnu'r gofal rydych chi'n ei ddarparu. Yn hytrach, ei nod yw cefnogi'r gofal rydych chi'n ei roi.

A ddylwn i boeni am gael asesiad?

Na ddylech, yn bendant Nid prawf ar eich gallu i fod yn gynhaliwr (gofalwr) yw'r asesiad. Mae'r asesiad yn wasanaeth ynddo'i hun ac yn rhoi cyfle i chi drafod unrhyw broblemau sydd gennych chi. Gall hyn fod yn brofiad cadarnhaol ynddo'i hun.

Beth fydd yn digwydd yn ystod yr asesiad?

Bydd gweithiwr profiadol yn trefnu apwyntiad i ddod i gyfarfod â chi, a thrafod ystod eang o bynciau sy'n berthnasol i chi fel cynhaliwr.

Bydd y cyfarfod ar adeg sy’n addas i chi, a does dim rhaid i’r person rydych chi’n gofalu amdanyn nhw fod yno, os dyna fyddai orau gennych chi.

Ble bydd yr asesiad yn cael ei gynnal?

Mae pob asesiad yn cael ei gynnal mewn lle preifat a chyfleus. Gallai hyn fod mewn swyddfa gwasanaethau cymdeithasol neu yn eich cartref – Ble bynnag y byddech chi'n teimlo fwyaf cyfforddus.

Pa fath o bethau all gael eu trafod?

Gallech chi siarad am y math o ofal rydych chi'n ei ddarparu a faint o amser mae hyn yn ei gymryd, unrhyw gymorth rydych chi'n ei dderbyn ar hyn o bryd, unrhyw anawsterau rydych chi'n eu cael, ac am unrhyw gymorth fyddai efallai yn eich helpu chi wrth i chi ofalu am rywun arall.

Pam ddylwn i gael asesiad?

  • Efallai y gallai'r asesiad roi cyfle prin i chi siarad am sut rydych chi'n teimlo.
  •  Bydd yn rhoi'r cyfle i'r person sy'n cynnal yr asesiad ddarparu gwybodaeth am y cymorth sydd ar gael. Gallai hyn fod yn gymorth gyda budd-daliadau, manylion am wasanaethau a all fod ar gael, cyfle i fynychu sesiynau bwrw bol, cyngor ar sicrhau cydbwysedd rhwng gwaith a rhoi gofal ac ati.
  • Bydd e hefyd yn ein helpu ni i ddeall eich anghenion chi yn well ac i gynllunio gwasanaethau i'ch cefnogi chi yn y dyfodol.

Faint o amser fydd yr asesiad yn ei gymryd?

Bydd hyn yn dibynnu ar yr hyn rydych chi eisiau ei drafod ond bydd e'n para tua awr neu ddwy fwy na thebyg.

Beth fydd rhaid i mi ei wneud nesaf?

Pe hoffech chi gael asesiad (ar ôl darllen yr wybodaeth uchod), cysylltwch â'ch gweithiwr cymdeithasol neu os nad oes gennych chi weithiwr cymdeithasol, ffoniwch Carersline ar 0808 100 1801.

Hoffwn i ofyn cwestiwn cyn bwrw 'mlaen.

Mae'n gyffredin iawn i fod â chwestiynau. Ffoniwch Gynllun Cynnal y Cynhalwyr Rhondda Cynon Taf ar 01443 281463 i drafod unrhyw bryderon sydd gennych chi. Bydd y Swyddog Prosiect yn fwy na pharod i ateb eich cwestiynau.

Cynllun Cynnal y Cynhalwyr

E-bostcynnalycynhalwyr@rhondda-cynon-taf.gov.uk
Ffôn: Rhadffon 01443 281463