Skip to main content

Carers Connect

Mae Carers Connect yn grŵp sy’n cwrdd yn rheolaidd i roi’r cyfle i chi drafod eich sefyllfa gofalu, pe hoffech chi wneud hynny. Mae’r grŵp yma’n edrych ar ffyrdd o ofalu am eich lles, yn ogystal â strategaethau a all ei gwneud hi’n haws i edrych ar ôl eich hun tra eich bod chi’n gofalu am rywun arall.

Caiff y grŵp yma ei gynnal gan ymgynghorydd y Cynllun Cynnal y Cynhalwyr.

Caiff y grŵp yma ei gynnal gan staff y Cynllun Cynnal y Cynhalwyr, gydag amrywiaeth o siaradwyr gwadd.

Mae’n cael ei gynnal bob ail ddydd Mawrth o’r mis, rhwng 10am a 11.30am yn Hyb Cynllun Cynnal y Cynhalwyr, 11-12 Heol Gelliwastad, Pontypridd CF37 2BW.

Rhaid cadw lle.

 

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â ni ar:

Cynllun Cynnal y Cynhalwyr Rhondda Cynon Taf

Ffôn: 01443 281463

E-bost: cynnalycynhalwyr@rctcbc.gov.uk