Skip to main content

Pecyn Cymorth Cynllunio

Beth yw argyfwng?

Argyfwng yw salwch, creisis personol neu ddigwyddiad annisgwyl neu fyr rybudd sydd naill ai'n arwain at y cynhaliwr yn cael ei wahanu oddi wrth y person sy'n derbyn gofal ar sail tymor byr neu dymor hir, neu anghenion gofal yr unigolyn yn tyfu. Gallai hyn gynnwys angladd teuluol, oedi o ran trafnidiaeth, salwch yn y teulu, cyfnod yn yr ysbyty, apwyntiad munud olaf gyda'r doctor neu ddeintydd, neu ddigwyddiad personol sy'n effeithio ar y cynhaliwr.

Beth yw buddion cynllunio ar gyfer argyfyngau?

Mae cynhalwyr sydd wedi cynllunio ar gyfer argyfyngau ymlaen llaw yn teimlo sicrwydd gan eu bod nhw'n gwybod y bydd yr unigolyn dan sylw yn parhau i dderbyn gofal os oes argyfwng yn digwydd. Rydyn ni'n argymell cynllunio cyn gynted â phosibl gan nad oes modd rhagweld argyfyngau.

Pecyn Cymorth Cynllunio ar gyfer Argyfyngau i Gynhalwyr

Mae'r Pecyn Cymorth yma wedi'i gynllunio i'ch cefnogi chi i lunio eich Cynllun ar gyfer Argyfyngau i Gynhalwyr eich hun. Bydd y pecyn yn eich annog chi i ystyried pob ffactor wrth gynllunio ar gyfer argyfyngau.

Mae modd cwblhau'r Pecyn Cymorth yn eich amser eich hun ac mae'n eich annog chi i gynnwys eich teulu, ffrindiau, gweithwyr proffesiynol a rhwydweithiau cymorth yn eich cynllun. Mae canllaw wedi'i gynnwys er eglurder ac er mwyn eich annog chi i ystyried eich rôl ofalu.

Pam cynllunio ymlaen llaw? Trwy gynllunio ymlaen llaw, mae modd cofnodi eich dealltwriaeth, arbenigedd, anghenion a dymuniadau er mwyn sicrhau bod gan bwy bynnag sy'n darparu gofal yn eich lle chi'r holl adnoddau sydd eu hangen. Dylai hyn sicrhau bod y person rydych chi'n gofalu amdano’n derbyn gofal cyn gynted â phosibl, a'ch bod chi'n teimlo sicrwydd bod yr unigolyn yn derbyn yr holl gymorth sydd ei angen.

Cafodd y Pecyn Cymorth ei gynllunio fel bod modd ei rannu â phobl sy'n rhan o gynllun gofal yr unigolyn dan sylw, a'r rheiny y bydd galw arnyn nhw i gamu i'r adwy mewn argyfwng.

Rydyn ni'n eich annog chi i gadw'r ddogfen yma gydag unrhyw wybodaeth a dogfennau pwysig eraill a'i diweddaru yn sgil unrhyw newidiadau.

Cofiwch mai eich dogfen chi yw hon ac rydyn ni'n eich annog i'w llenwi mor agored a gonest ag sy'n bosibl.

Cysylltu â ni

  • E-bost: CynnalyCynhalwyr@rctcbc.gov.uk
  • Ffôn: 01443 281463