Skip to main content

Cynhalwyr sy'n Oedolion Ifainc

Mae cynhalwyr sy'n oedolion ifainc yn bobl ifainc rhwng 18 a 25 oed sy'n helpu i ofalu am aelod o'r teulu, ffrind neu gymydog. Heb gymorth y cynhalwyr, fyddai'r unigolion yma ddim yn gallu ymdopi oherwydd salwch, henaint neu anabledd.
Dydych chi ddim ar eich pen eich hun. Mae 2,000 o gynhalwyr sy'n oedolion ifainc yn Rhondda Cynon Taf, sef 5–7% o'r grŵp oedran.

Ble galla i ddod o hyd i gymorth, cefnogaeth a chyngor?

Mae'r Gweithiwr Datblygu i Gynhalwyr sy'n Oedolion Ifainc yn gallu darparu amrywiaeth o wybodaeth a chyngor i gynhalwyr sy'n oedolion ifainc a'r bobl hynny sy'n gweithio gyda nhw. Mae hyn yn gallu cynnwys ymweld â theuluoedd er mwyn cynnal Asesiad Cychwynnol i Gynhalwyr sy'n Oedolion Ifainc. Rydyn ni'n gwybod pa mor bwysig mae'r gwaith mae cynhalwyr yn ei wneud, a phe na bai cymorth ar gael i gynhalwyr, mae'n bosibl y bydden nhw'n cael trafferth o ran ymdopi â gofynion emosiynol a chorfforol eu dyletswyddau, gan arwain at deimlo'n unig. 
 
Mae modd i chi atgyfeirio eich hunan i'r cynllun drwy lenwi'r ffurflen hunan atgyfeirio.  Os oes gweithiwr proffesiynol yn gwneud yr atgyfeiriad ar eich rhan, dylai ddefnyddio'r ffurflen briodol.  Dylai pob atgyfeiriad ar gyfer sylw'r Gwasanaeth i Gynhalwyr sy'n Oedolion Ifainc gael ei anfon at y Gweithiwr Datblygu i Gynhalwyr sy'n Oedolion Ifainc. 

Ar sail yr hyn mae cynhalwyr sy'n oedolion ifainc wedi'i ddweud wrthon ni am eu diddordebau a'r hyn a allai fod o fantais iddyn nhw, mae'r rhaglen yn cynnig ystod o brofiadau, gweithgareddau ac achlysuron.

Mae modd i bobl ifainc roi cynnig ar weithgareddau awyr agored newydd, cymryd rhan mewn gweithgareddau adeiladu tîm, gwneud ffrindiau newydd, ennill sgiliau a chymwysterau, yn ogystal â chael tipyn bach o fwynhad.

Cysylltu â ni

Gweithiwr Datblygu i Gynhalwyr sy'n Oedolion Ifainc

Cynllun Cynnal y Cynhalwyr,

11-12 Gelliwastad Road

Pontypridd

CF37 2BW

Ffôn: 01443 281463