Ystyr 'eiriolaeth' yw cael cymorth gan berson arall i'ch helpu chi i fynegi'ch sylwadau a'ch dymuniadau, ac i helpu i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed.
Mae rhywun sy'n eich helpu chi yn y ffordd yma yn cael ei alw'n 'eiriolwr'. Mae eiriolwr yn rhywun fydd yn codi'i lais ar eich rhan, yn eich helpu chi i gael eich llais wedi'i glywed a helpu i gael pobl eraill i wrando ar yr hyn rydych chi'i eisiau. Mae swyddogaeth eiriolwr yn cynnwys dadlau eich achos pan fo angen, a sicrhau bod y gweithdrefnau cywir yn cael eu dilyn gan eich gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.
Mae gwasanaethau eiriolaeth yn helpu pobl (yn enwedig y rhai sy'n fwyaf agored i niwed mewn cymdeithas) i wneud y canlynol:
- manteisio ar wybodaeth a gwasanaethau
- bod â rhan mewn penderfyniadau am eu bywydau
- archwilio dewisiadau ac opsiynau
- amddiffyn a hyrwyddo eu hawliau a'u cyfrifoldebau
- dweud eu dweud am faterion sydd o bwys iddyn nhw
Mae Canolfan Dewis ar gyfer Byw'n Annibynnol yn sefydliad gwirfoddol sy'n darparu gwasanaethau Eiriolaeth yn Rhondda Cynon Taf.
Bydd modd i chi gael eiriolwr drwy gysylltu â Gwasanaeth Eiriolaeth Dewis
Canolfan Dewis ar gyfer Byw'n Annibynnol
Amber House,
Parc Busnes Glan-bad
Glan-bad
Pontypridd
CF37 5BP
Ffôn: 01443 827930