Skip to main content

Taliadau Uniongyrchol ar gyfer gofal

Taliadau Uniongyrchol yw taliadau arian rydyn ni’n eu rhoi yn lle gwasanaethau. Rydyn ni’n rhoi’r taliadau yma ar gyfer defnyddwyr gwasanaethau, cynhalwyr, plant, pobl ifainc a theuluoedd oherwydd ein bod ni o’r farn, gan ddibynnu ar ganlyniadau asesiad, eu bod nhw angen y taliadau. Bwriad y taliadau yw rhoi rhagor o ddewis iddyn nhw ynghylch y ffordd mae’u hanghenion yn cael eu diwallu.

Os ydych chi’n gymwys i dderbyn y gwasanaeth, bydd Taliadau Uniongyrchol yn rhoi cymorth i chi fyw’n annibynnol. Eu hamcan yw cwrdd â’ch anghenion gofal personol drwy roi mwy o ddewis i chi ynghylch y gwasanaethau rydych chi’n eu derbyn.

Manteision Taliadau Uniongyrchol:

  • Chi sy’n dewis pwy sy’n darparu gofal i gwrdd â’ch anghenion
  • Chi sy’n dewis pryd mae gwasanaethau yn cael eu darparu

Sut mae defnyddio Taliadau Uniongyrchol?

Bydd modd i chi ddefnyddio’r Taliadau Uniongyrchol i ddiwallu’ch anghenion fel sy’n cael eu nodi yn eich cynllun gofal. Fel arall, fe gewch chi ddefnyddio cyfuniad o’r taliadau yma a gwasanaethau’r Cyngor at y diben yma. Mae modd defnyddio’r arian i dalu am amryw o wasanaethau drwy gyflogi rhywun neu dalu asiantaeth gofal i ddarparu cymorth.  Bydd arian sy’n cael ei dderbyn fel taliad uniongyrchol yn ddarostyngedig i bolisi codi tâl gwasanaethau dibreswyl y Cyngor, a bydd asesiad ariannol yn cael ei gynnal i bennu’ch cyfraniad wythnosol hyd at uchafswm wythnosol o £100.

Mae Taliadau Uniongyrchol yn rhoi rhyddid i chi reoli’ch trefniadau gofal eich hun.

Mae Canolfan Dewis ar gyfer Byw Bywyd Annibynnol yn rhoi cymorth i bobl sydd â diddordeb defnyddio Taliadau Uniongyrchol neu sy’n eu defnyddio’n barod. Mae’n cynnig cyngor, gwybodaeth, hyfforddiant a chefnogaeth i bobl.

Os oes diddordeb gyda chi, bydd ein staff yn ceisio ateb unrhyw gwestiynau sydd gyda chi wrth i chi gymryd y cam cyntaf yn y Cynllun Taliadau Uniongyrchol. 

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â;

Taliadau Uniongyrchol i Oedolion

Ffon: 01443 425003

Taliadau Uniongyrchol i Blant

Ffon: 01443 425006

Fel arall, cysylltwch â'r gwasanaeth cymorth taliadau uniongyrchol yn;

Canolfan Dewis ar gyfer Byw Bywyd Annibynnol

 

Dewis Centre for Independent Living

No 1 & 2 Melin Corrwg

Upperboat

PONTYPRIDD

CF37 5BE

 

Ffôn: 01443 827930

Mae Cyngor Gofal Cymru wedi lansio pecyn cymorth ar gyfer cyflogwyr a chynorthwywyr personol sydd yn cymryd rhan yn y Cynllun Taliadau Uniongyrchol. Mae’r pecyn yn rhoi arweiniad, enghreifftiau a dulliau ymarferol i helpu cyflogwyr i gefnogi’u cynorthwywyr personol i ennill y sgiliau sydd angen arnyn nhw a chyflawni eu swyddogaethau.