Skip to main content

Cymwyseddau Gofal Cymdeithasol a Fframweithiau Cymwysterau

Wyddoch chi fod y Gwasanaeth Datblygu Gweithlu Gofal Cymdeithasol yn cynnwys canolfan asesu galwedigaethol?

Mae'r Garfan Cymwysterau Galwedigaethol yn cynnwys Rheolwr y Ganolfan, tri Swyddog Sicrhau Ansawdd Mewnol Arweiniol a charfan o 8 aseswr sy'n cefnogi staff i ddysgu pob agwedd ar ofal cymdeithasol. Mae dysgu’n digwydd drwy’r rhaglen sefydlu, diogelu oedolion sy’n wynebu risg a phobl ifainc sy'n agored i niwed, sesiynau gwybodaeth sylfaenol ac asesiadau ffurfiol a gaiff eu cyflwyno i gefnogi taith ddysgu ymgeiswyr sy’n gweithio tuag at eu cymwysterau.

Rhaglen Sefydlu Gofal Cymdeithasol

Mae'r Garfan Cymwysterau Galwedigaethol yn gweithio'n agos â chydweithwyr sefydliad Gofal Cymdeithasol Cymru i lunio rhaglen sefydlu ar gyfer staff gofal uniongyrchol. Mae'r rhaglen ar gyfer staff sy'n newydd i'r byd gofal cymdeithasol, neu staff sy'n symud i wasanaeth newydd.

Nod – Rhoi'r wybodaeth sydd ei hangen ar staff sy'n newydd i'r byd gofal cymdeithasol i ymgymryd â'u dyletswyddau. Mae'r rhaglen sefydlu yn darparu'r holl wybodaeth sydd ei hangen ar yr holl staff sy'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol ac mae'n cwmpasu Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, ac yn rhoi cymorth i staff i gwblhau Fframwaith Sefydlu Cymru Gyfan (AWIF) a'r cymhwyster craidd. Mae mynediad at asiantaethau partner ar gael i gydweithwyr sy'n gweithio yn y sectorau preifat a gwirfoddol.

Diogelu Oedolion

Mae'r garfan Cymwysterau Galwedigaethol yn rhan o'r is-grŵp hyfforddiant diogelu. Rydyn ni'n cefnogi’r gwaith o gynllunio a chyflwyno’r hyfforddiant diogelu oedolion; mae hyn yn cynnwys hyfforddiant ar gyfer staff rheng flaen ar lefel 2 i hyfforddiant lefel 3 ar gyfer staff ar lefel uwch. Mae ein safonau hyfforddi yn cyd-fynd â Gweithdrefnau Diogelu Cymru ac mae'n nodi'r disgwyliadau o ran gwybodaeth, sgiliau, agweddau a gwerthoedd ar gyfer pobl sy’n gweithio gydag oedolion a phlant a allai fod mewn perygl o gael eu cam-drin, eu niweidio neu eu hesgeuluso.

Cymwysterau Iechyd a Gofal Cymdeithasol:

Mae'r ganolfan Cymwyseddau Galwedigaethol yn darparu'r cymwysterau Iechyd a Gofal Cymdeithasol, mae hyn yn cynnwys cynllunio a chyflwyno sesiynau gwybodaeth greiddiol i gefnogi'r daith ddysgu.Mae'r cymwysterau wedi'u hachredu drwy City and Guilds.

Craidd - Lefel 2

Mae'r cymhwyster wedi'i ddatblygu ar gyfer unigolion sy'n gweithio yn, neu'n bwriadu gweithio, yn y sectorau gofal iechyd a gofal cymdeithasol. Bydd yn galluogi dysgwyr i wneud cais i gofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru fel gweithiwr gofal cymdeithasol mewn gofal cartref neu ofal plant preswyl ar yr amod eu bod yn bodloni unrhyw ofynion cofrestru ychwanegol.

Iechyd a Gofal Cymdeithasol Lefel 2: Ymarfer (Oedolion)

Mae'r cymhwyster yn seiliedig ar ymarfer ac yn asesu gwybodaeth a chymhwysedd y dysgwyr yn ymarferol. Mae'n datblygu gallu'r dysgwyr i gynnal anghenion iechyd a gofal oedolion mewn ystod o leoliadau, a bydd yn eu galluogi i ddatblygu a dangos eu gwybodaeth, eu dealltwriaeth, eu hymddygiad, eu sgiliau a'u hymarfer mewn lleoliad iechyd a gofal cymdeithasol.

Mae'r cymhwyster yn addas ar gyfer:

  • Dysgwyr sydd wedi cwblhau cymhwyster Lefel 2 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Craidd
  • Dysgwyr sy’n gyflogedig yn y Sectorau Gofal Iechyd a Gofal Cymdeithasol
  • Dysgwyr sydd wedi cwblhau’r cymhwyster Lefel 2 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Egwyddorion a chyd-destunau (Oedolion)

Iechyd a Gofal Cymdeithasol Lefel 3: Ymarfer (Oedolion)

Mae’r cymhwyster yn seiliedig ar ymarfer ac mae’n asesu gwybodaeth a chymhwysedd i ymarfer y dysgwyr mewn cyflogaeth. Mae'n darparu cyfle i gyfoethogi gwybodaeth a sgiliau gan ddefnyddio cynnwys gorfodol ac unedau dewisol. Bydd o ddiddordeb i ddysgwyr sy'n gweithio mewn gwasanaethau cymorth cartref, gofal preswyl, darpariaeth anabledd dysgu, gan gynnwys gwasanaethau gofal iechyd yn y gymuned.

Iechyd a Gofal Cymdeithasol Lefel 3: Ymarfer (Plant a Phobl Ifainc)

Mae’r cymhwyster yn seiliedig ar ymarfer ac mae’n asesu gwybodaeth a chymhwysedd dysgwyr i ymarfer mewn cyflogaeth. Mae'n rhoi'r cyfle i gyfoethogi gwybodaeth a sgiliau gan ddefnyddio cynnwys gorfodol ac unedau dewisol mewn lleoliadau sy'n canolbwyntio ar blant a phobl ifainc, megis gofal plant yn y cartref neu ofal preswyl, canolfannau preswyl i deuluoedd neu ofal maeth a lleoliadau gofal iechyd yn y gymuned.

Mae'r cymhwyster yma'n addas ar gyfer:

  • Dysgwyr sydd wedi eu cyflogi ar hyn o bryd mewn lleoliadau megis gofal cartref neu ofal preswyl i blant, canolfannau preswyl i deuluoedd neu ofal maeth neu leoliadau gofal iechyd yn y gymuned
  • Dysgwyr sydd wedi cwblhau un o'r cymwysterau canlynol yn llwyddiannus:
  • Lefel 2 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Craidd
  • Lefel 2 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Ymarfer (Oedolion)
  • Lefel 2 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Egwyddorion a Chyd-destunau

Lefel 4 Paratoi ar gyfer Arwain a Rheoli ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Mae'r cymhwyster yma'n seiliedig ar wybodaeth ac mae ar gyfer dysgwyr sy'n ddarpar reolwyr ond sydd ddim eto mewn rôl arwain a rheoli yn y sector Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

Mae'n addas ar gyfer y bobl ganlynol:

  • Y rheiny sydd wedi cwblhau cymhwyster Lefel 2 Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn llwyddiannus, neu gymhwyster cyfwerth cydnabyddedig;
  • Y rheiny sydd wedi cwblhau cymhwyster Lefel 3 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Ymarfer (Oedolion), neu gymhwyster cyfwerth cydnabyddedig
  • Y rheiny sydd wedi cwblhau cymhwyster Lefel 3 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Ymarfer (Plant a Phobl Ifainc), neu gymhwyster cyfwerth cydnabyddedig.

Lefel 4 Ymarfer proffesiynol ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Nod y cymhwyster yma yw datblygu'r wybodaeth, y ddealltwriaeth, yr ymddygiadau a'r sgiliau sy'n sail i Ymarfer Proffesiynol yn y sector Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Mae’r cymhwyster yma wedi’i ddatblygu mewn cydweithrediad agos â rhanddeiliaid allweddol yn y sector, gan gynnwys Gofal Cymdeithasol Cymru ac Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC).

Mae'r Cymhwyster yma'n seiliedig ar ymarfer ac yn asesu gwybodaeth ac ymarfer dysgwyr. Mae wedi'i gynllunio ar gyfer dysgwyr mewn dysgu sy'n seiliedig ar waith, addysg bellach ac addysg uwch.

Mae'r cymhwyster yma'n darparu dilyniant i ddysgwyr sydd wedi cwblhau unrhyw un o'r cymwysterau canlynol:

  • Lefel 2 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Ymarfer (Oedolion)
  • Lefel 3 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Ymarfer (Oedolion)
  • Lefel 3 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol Ymarfer (Plant a Phobl Ifainc).

Lefel 5 Arwain a Rheoli Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Ymarfer

Mae'r cymhwyster yma'n seiliedig ar ymarfer ar gyfer y rheiny sydd â phrofiad o arwain neu reoli yn y sector Iechyd a Gofal Cymdeithasol, sy'n bodloni gofynion rheoleiddiol ychwanegol sy'n berthnasol i rai lleoliadau gwaith.

Mae'n addas ar gyfer y rheiny sydd:

  • am ddangos y cymwyseddau sydd wedi'u nodi yn y cymhwyster yn rhan o'u rôl yn eu swydd, ac sy'n bodloni unrhyw reoliadau mewn perthynas â lleiafswm oedran yn y gweithle
  • wedi cwblhau cymhwyster Lefel 4 Arwain a Rheoli priodol, sydd â'r cyfle i roi'r theori ar waith, a bodloni unrhyw ofynion rheoleiddio ychwanegol.

Am ragor o wybodaeth, mae croeso i chi e-bostio Jillian Davies: Jillian.Davies@rctcbc.gov.uk

Fframwaith Cymhwysedd ar gyfer y Gweithlu Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth (IAA).

Mae’r Fframwaith Cymhwysedd ar gyfer y Gweithlu Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth (y fframwaith) yn nodi’r safonau y dylid eu defnyddio i lywio ymarfer ar gyfer y rhai sy’n rhan o ddarparu gwybodaeth a/neu gyngor a/neu gymorth ar gyfer gofal a chymorth.

Fframwaith Cymwyseddau ar gyfer y Gweithlu Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth | Gofal Cymdeithasol Cymru