Mae'n drosedd i beidio â rhoi gwybod am newid yn eich amgylchiadau. Os na ddywedwch chi wrthon ni am newidiadau, mae'n bosibl y byddwch chi'n derbyn gormod o fudd-dal / gostyngiad. Gall hyn arwain at golli'ch budd-dal / gostyngiad.
Os oes unrhyw newidiadau yn eich amgylchiadau (neu'r rheini sy'n byw gyda chi) dylech chi roi gwybod i ni cyn gynted ag y bydd y newid yn digwydd, hyd yn oed os ydych chi newydd hawlio.
Os na fyddwch chi'n dweud wrthon ni neu'n dweud wrthon ni yn syth, mae'n bosibl y byddwn ni wedi talu gormod i chi. Bydd angen i chi dalu'r swm yn ôl neu bydd modd i ni dynnu'r swm o unrhyw fudd-dal rydyn ni'n dal i'w dalu i chi.
Os ydych chi'n ansicr, mae modd i chi weld enghreifftiau o'r mathau o newidiadau y mae'n rhaid rhoi gwybod amdanyn nhw.
Mae'n bosibl rhoi gwybod am newidiadau yn eich amgylchiadau, mewn perthynas â Budd-daliadau Tai / Gostyngiad Treth y Cyngor, ar-lein
Noder: Efallai y byddwn ni'n cysylltu â chi o bryd i bryd, i wirio nad oes newid wedi bod yn eich amgylchiadau. Os byddwn ni'n gwneud hyn, byddwn ni naill ai'n ymweld â chi, yn anfon ffurflen drwy'r post neu'n rhoi galwad ffôn i chi.
Os ydych chi'n dymuno rhoi gwybod eich bod chi wedi newid cyfeiriad ac rydych chi'n derbyn Budd-daliadau Tai / Gostyngiad Treth y Cyngor, cwblhewch ffurflen gan ddefnyddio'r ddolen isod:
Rydym yn anelu at ymateb i chi o ran newid yn eich hawliad amgylchidau o fewn 10 diwrnod gwaith.
Landlord - Tenant Gwahanol:
Llenwch ein ffurflen Newid Mewn Tenantiaeth i roi gwybod am newid mewn tenantiaeth yn eich eiddo.