Skip to main content

Cymorth gyda budd-daliadau eraill

Adran Gwaith a Phensiynau sy'n gyfrifol am Gredyd Cynhwysol, fodd bynnag, mae modd i ni, fel Cyngor, ddarparu'r cymorth a'r gefnogaeth ganlynol:

Treth y Cyngor – gostyngiadau, rhyddhad ac eithriadau

Taliadau Disgresiwn at Gostau Tai

Mae Taliadau Disgresiwn at Gostau Tai yn cynnig swm atodol i fudd-daliadau. Maen nhw'n cael eu hystyried os oes angen cymorth ychwanegol ar rywun o ran costau tai. Mae unrhyw daliad yn ychwanegol i'r Budd-dal Tai sydd wedi'i roi.

Dim ond hyn a hyn o arian sydd ar gael i'w wario ar y taliadau hyn, felly, mae eisiau cyflwyno cais er mwyn penderfynu a oes modd gwneud Taliadau Disgresiwn at Gostau Tai.
Mae Taliadau Disgresiwn at Gostau Tai yn cynnig cymorth tymor byr; dydyn nhw ddim yn ateb tymor hir. 

Prydau ysgol am ddim

Mae prydau ysgol am ddim ar gael i blant y mae eu rhieni neu warcheidwaid yn derbyn budd-daliadau penodol ar hyn o bryd. 

Mae pobl ifainc sy'n derbyn Cymhorthdal Incwm a Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Incwm hefyd yn gymwys i dderbyn prydau ysgol am ddim. 

Grantiau gwisg ysgol

Mae'r grant ar gael i ddisgyblion sy'n gymwys ar gyfer prydau ysgol am ddim neu ddisgyblion sy'n derbyn gofal ac sydd:

  • ar drothwy dechrau yn y dosbarth derbyn mewn ysgolion cynradd a gynhelir ym mis Medi 2018;
  • ar drothwy dechrau ym mlwyddyn 7 mewn ysgolion uwchradd a gynhelir ym mis Medi 2018; neu
  • yn ddisgyblion mewn ysgolion arbennig, canolfannau adnoddau anghenion arbennig ac unedau atgyfeirio disgyblion sy'n 4 neu 11 oed ym mis Medi 2018.

Cynnig gofal plant 30 awr

Mae'r Cynnig Gofal Plant yn cynnig 30 awr yr wythnos o addysg gynnar a gofal plant rhad ac am ddim i rieni plant sy'n dair oed a phedair oed am hyd at 48 awr yr wythnos. Mae'n gyfuniad o'r ddarpariaeth Meithrinfa Cyfnod Sylfaen sy'n agored i bob plentyn tair oed a phedair oed a gofal plant ychwanegol wedi'i ariannu ar gyfer teuluoedd cymwys.