Mae angen trwydded o’r Swyddfa Gartref i ddatgladdu gweddillion rhywun, boed wedi’u claddu neu
wedi’u hamlosgi.
Dyma rai o’r rhesymau am ddatgladdu gweddillion dynol:-
- Eu symud i fedd (neu lain) arall brynodd y teulu’n ddiweddarach yn yr un fynwent neu fynwent newydd
- Mynd â gweddillion pobl yn ôl i’w gwledydd brodorol
- Eu symud allan o fynwent sydd ar fin cael ei datblygu i fynwent arall
- Gorchymyn llys yn gofyn am archwiliad fforensig pellach
Cofiwch, mae rhaid cyflwyno rheswm sy’n ddilys ym marn y Swyddfa Gartref os am gael caniatâd i ddatgladdu corff.
Mae hi yn erbyn y gyfraith i ddatgladdu gweddillion dynol heb gael pob caniatâd angenrheidiol.
- Rhaid cael trwydded o’r Swyddfa Gartref ac mae rhaid parchu’r amodau sy ynghlwm wrth y drwydded.
- Rhaid cael Swyddog Iechyd yr Amgylchedd yn bresennol i sicrhau nad oes perygl i iechyd y cyhoedd.