I lawer ohonom ni, mae codi cofeb i rywun annwyl yn cynnig cysur. Mae sawl math o gofeb i'w chael, ac yn Rhondda Cynon Taf, rydym yn cynnig nifer o wahanol fathau o gofebau ac yn gwneud ein gorau i ddiwallu anghenion pawb.
Amlosgfa Glyntaf
Mae modd dewis y cofebau canlynol o Amlosgfa Glyntaf:
MEINCIAU
Dydyn ni ddim yn cynnig meiniciau â theyrngedau i unigolion mwyach, na chwaith yn caniatáu i deuluoedd osod eu meinciau eu hunain yn ein mynwentydd. Rydyn ni'n cynnig cynllun newydd lle all yr Awdurdod osod meinciau lle mae e'n teimlo sy'n briodol ac mae pedwar lle ar bob mainc ar gyfer coffáu unigolyn am gyfnod o ddeng mlynedd. Bydd yr Awdurdod yn darparu, yn gosod ac yn cynnal a chadw'r fainc drwy gydol y cyfnod yma. Mae modd adnewyddu'r gofeb am dâl. Byddwn ni'n ysgrifennu i'r cyfeiriad diwethaf sy'n hysbys i ni pan fydd hyn yn digwydd.
CROESAU PREN
Rydyn ni'n gallu cynnig croesau pren gyda phlac â lle i dair llinell o arysgrifen. Gallwn ni osod y groes ar y bedd - os ydyw o fewn ein mynwentydd. Mae tâl am y groes, ond nid am ei gosod.
LLECHI COFFA
Mae nifer o'n gerddi yn cynnwys llechi coffa all gynnwys teyrnged am gyfnod o ddeng mlynedd. Mae llechi o wahanol feintiau yn y gerddi ac os hoffech chi roi teyrnged ar lechen rydyn ni'n eich cynghori i gysylltu â Swyddog Diogelwch Cofebau yng Nglyntaf a fydd yn gallu eich helpu i ddewis lleoliad a rhoi cyngor ar gyfyngiadau ar gyfer yr ardal.
CADW MEWN CYSYLLTIAD
Gan y bydd angen i ni gysylltu â chi o bryd i'w gilydd - i roi gwybod o bosib bod angen adnewyddu cofeb - mae'n bwysig ein bod ni'n cadw manylion cyswllt cyfredol ar eich cyfer. Gallwch chi roi gwybod i ni os fydd unrhyw beth wedi newid drwy ffonio ein swyddfa ar 01443 402810 neu drwy e-bostio GlyntaffCrematorium@rctcbc.gov.uk
BIO-AMRYWIAETH
Mae ein cymoedd a'n bryniau yn gynefin i rywogaethau pwysig o blanhigion ac anifeiliaid ac rydyn ni'n gweithio gyda'n carfannau cadwraeth i annog ac ehangu ar ein cyfraniad i'r agwedd bwysig yma o'n hamgylchedd. Rydym eisoes wedi adnabod glaswelltir a blodau gwyllt ym Mynwent Cefn y Parc ac rydyn ni'n rheoli'r safle yma gyda Swyddog Cadwraeth Rhondda Cynon Taf. Rydyn ni'n adnabod ardaloedd newydd o bwys amgylcheddol ac yn datblygu cynlluniau newydd ledled y sir i wella ac annog ein bywyd gwyllt a blodau i ffynnu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
CYFAMOD Y LLUOEDD ARFOG
Mae Rhondda Cynon Taf yn falch o fod yn rhan o Gyfamod y Lluoedd Argog, ac wedi ymrwymo i wella bywydau milwyr heddiw a'r gorffennol. Ar hyn o bryd, mae'r Gwasanaethau Profedigaeth yn cydnabod rôl ein cyn-filwyr a milwyr presennol gan gynnig gostyngiad ar ffioedd ein gwasanaethau claddu ac amlosgi pan dderbyniwn yr wybodaeth yma.
BABANOD
Dydy'r Gwasanaethau Profedigaethau ddim yn codi tâl am gladdu nac amlosgi babanod nac unrhyw berson dan 18 oed. Mae hyn ar y cyd â Llywodraeth Cynulliad Cymru, sy'n benderfynol na ddylai unrhyw riant orfod poeni am gost angladd wedi iddyn nhw golli plentyn.
AILGYLCHU METELAU
Mae Gwasanaethau Profedigaethau yn aelod o gynllun ailgylchu ICCM sy'n caniatáu i fetelau gael eu casglu ar ôl y broses amlosgi a chael eu hailgylchu drwy gludydd wedi'i gymeradwyo gyda rhodd flynyddol yn cael ei roi i elusennau lleol sy'n cefnogi pobl wedi marwolaethau. Eleni, rydym wedi rhoi rhodd i elusen y Maer, Gofal Canser Felindre.
LLWYNI RHOSOD
Mae yna dros 12,000 o lwyni rhosod arbennig er cof am bobl yng Nghlyntaf. Mae modd gosod lludw o'r amlosgfa i orffwys yn y lleoliadau yma. Mae'n bosib talu i roi cofeb ger llwyn rhosod am ddeng mlynedd, gan ychwanegu plac gydag arysgrifiad o hyd at 50 llythyren unwaith y bydd wedi ei bennu'n gofeb. Ar ddiwedd y brydles, mae modd talu i ail-gyflwyno'r llwyn rhosod fel teyrnged am gyfnod pellach.
LLYFR COFFA
Mae Llyfr Coffa yn cael ei arddangos mewn ystafell arbennig yn Amlosgfa Glyntaf. Mae modd creu cofnodion ar gyfer unrhyw ddyddiad - pen-blwyddi arbennig neu ddyddiad y farwolaeth pe dymunech chi, ac mae hi hefyd yn bosib cadw llinellau ychwanegol ar gyfer rhagor o ysgrifen - mae tâl ar gyfer gwneud hynny a bydd rhaid i chi dalu am y cofnod wrth i chi ei wneud.
Mae dyddiadau penodol y Llyfr Coffa ar gael i'w gweld 365 diwrnod y flwyddyn. Mae ystafell y llyfr ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener, 09:00 tan 16:00 ac mae'r ystafell yn cael ei chloi dros nos ac mae'r llyfr sy'n cael ei arddangos yn cael ei gadw'n ddiogel rhyw le arall dros nos.
Ar benwythnosau, mae'n bosib bydd angen cod arbennig arnoch chi i fynd i ystafell y llyfr ac mae modd derbyn hwnnw dros y ffôn cyn eich ymweliad.
Mae pob llyfr yn cael ei anfon at y caligraffwyr unwaith y flwyddyn er mwyn creu cofnodion ychwanegol. Mae yna groeso i chi ddod i weld cofnod nad yw'n cael ei arddangos neu un ar ddyddiad gwahanol drwy drefniant. Byddwn yn rhoi gwybod i chi os nad yw'r llyfr yr ydych yn dymuno ei weld ar gael.
Manylion Cyswllt
Manylion Cyswllt
Mynwent ac Amlosgfa Glyntaf
Gwasanaethau Profedigaethau,
Cemetry Road,
Pontypridd,
CF37 4BE
Rhif Ffôn: 01443 402810
Facs: 01443 406052