Mae Swyddfa Gofrestru Pontypridd yn cynnig gwasanaeth "Newid Enw"
Does dim rhaid dilyn proses cyfreithiol i ddefnyddio enw newydd yn Lloegr neu Gymru. Ond, efallai y bydd angen newid enw drwy 'weithred newid enw' er mwyn newid eich enw ar ddogfennau swyddogol fel pasbort neu drwydded yrru.
Nodwch: mae yna reolau gwahanol ar gyfer newid eich enw yn Yr Alban.
Mae Gweithred Unrhan yn ddogfen gyfreithiol sy'n profi eich bod chi wedi newid eich enw. Mae modd i chi newid rhan o'ch enw, ychwanegu neu dynnu enwau a chysylltnodau, neu newid sillafiadau.
Mae modd newid eich enw eich hunain os ydych chi'n 18 oed neu'n hŷn.
Am ragor o wybodaeth ynglŷn â newid eich enw drwy weithred unrhan, cysylltwch â Swyddfa Gofrestru Pontypridd drwy ffonio (01443) 494024.