Rydyn ni’n gwybod bod trefnu priodas yn gallu bod yn waith mawr. Serch hynny, mae’n carfan ni yma i roi cymorth ichi drefnu seremoni bersonol ac ystyrlon yn unol â’r gyfraith.
Gall ystyriaethau pwysig gynnwys trefnu seremoni sy’n bersonol i chi, trefnu darlleniadau neu farddoniaeth, cerddoriaeth a blodau, a dod o hyd i ganolfan o’ch dewis.
Mae modd i barau i drefnu seremoni sifil unigryw sy wedi’i theilwra’n arbennig, naill ai yn y swyddfa gofrestru neu mewn canolfan o’u dewis. Dydy’r wybodaeth yma ddim yn cynnwys yr holl wybodaeth ynglŷn â Chyfraith neu Ddeddfwriaeth Priodas sydd ohoni.
Os hoffech chi weld bwrdd Hysbysiad o Briodas/Partneriaeth Sifil tra bod yr adeilad ar gau, mae modd i chi gysylltu â’n swyddfa ym Mhontypridd ar 01443 494024 i drefnu apwyntiad i ddod i’r swyddfa i weld y bwrdd presennol
Y diweddaraf am coronafeirws
O ddydd Llun 29Mehefin, bydd modd i chi briodi neu ymrwymo i bartneriaeth sifil yn y Swyddfa Gofrestru. Oherwydd gofynion cadw pellter cymdeithasol, does dim modd cael mwy na 10 o westeion yn ystafell fach y swyddfa gofrestru, a dim mwy na 28 o westeion yn Ystafell Evan James a dim mwy na 33 o westeion yn Siambr Sifil; efallai y bydd y niferoedd hyn yn lleihau, gan ddibynnu ar sut yr hoffech chi fynd i mewn i ystafell y seremoni. Byddwch chi hefyd yn gweld mesurau diogelwch ychwanegol ar waith, caiff y rhain eu hegluro i chi wrth drefnu'ch seremoni.
Os oeddech chi wedi symud eich seremoni i ddyddiad arall, ond yn dymuno ei symud yn ôl i'r dyddiad gwreiddiol, neu os ydych chi wedi trefnu dyddiad ar gyfer eich priodas ond yn awyddus i'w gohirio nes bydd pethau'n gwella o ran cadw pellter cymdeithasol, ffoniwch y Swyddfa am sgwrs, a byddwn ni'n gwneud ein gorau i'ch helpu.
Os oeddech chi wedi bwriadu priodi neu ymrwymo i bartneriaeth sifil mewn Canolfannau wedi'u Cymeradwyo, fel gwesty, gyda Chofrestrydd yn bresennol, cofiwch fod cyfyngiadau o ran agor eiddo o'r fath o hyd. Mewn achosion o'r fath, dylech gysylltu â'r Ganolfan sydd wedi'i Chymeradwyo yn gyntaf os oes gyda chi unrhyw gwestiynau ynglŷn â'ch priodas.
Gofynnwn i unrhyw un sydd â symptomau COVID, neu sy'n ynysu ar ôl i aelod o'r teulu fod â symptomau, beidio â dod i'r seremoni. Yn ogystal â hynny, gofynnwn i chi gadw at bellter cymdeithasol a chadw'n ddiogel wrth deithio i'r Swyddfa Gofrestru, yn ystod seremoni, ac wedi hynny.
Swyddfa Gofrestru Pontypridd
Mae Rhondda Cynon Taf yn un o ranbarthau cofrestru mwyaf Cymru. Mae ein staff profiadol sydd wedi cael hyfforddiant, yn cynnig gwasanaeth proffesiynol o’r radd flaenaf, i barau sy’n priodi yn yr ardal.
Mae parau’n gallu dewis cynnal y seremoni yn y Swyddfa Gofrestru, sydd â’i chanolfan yng nghanol tref hanesyddol Pontypridd, neu yn un o westai gwledig ledled y fwrdeistref sirol.
I drefnu’ch priodas yn Rhondda Cynon Taf, boed cynnal y seremoni naill ai yn y Swyddfa Gofrestru ym Mhontypridd, neu mewn Mangre sy wedi’i Chymeradwyo, neu i drefnu i Gofrestrydd i fynychu Seremoni Briodas mewn Eglwys neu Ganolfan Crefyddol arall, cysylltwch â’r Cofrestrydd Arolygu yn Swyddfa Gofrestru Pontypridd.
I drefnu’ch priodas ym Mhontypridd, neu i drefnu apwyntiad i alw heibio i’r Swyddfa Gofrestru i roi Hysbysiad Cyfreithiol, cysylltwch â’ch Swyddfa Gofrestru leol.
Rhagarweiniadau cyfreithiol i briodas yng Nghymru a Lloegr
Cyn bod hawl gyda chi i briodi mewn Seremoni Sifil yng Nghymru a Lloegr, rhaid rhoi Hysbysiad o’r Bwriad i Briodi i Gofrestrydd Arolygu’r ardal rydych chi’n byw ynddi yn y lle cyntaf.
Mae Hysbysiad o Briodas yn Ddogfen Gyfreithiol sy’n ddilys am flwyddyn.
Mae gofyn bod y ddau ohonoch chi wedi byw mewn Cylch Cofrestru yng Nghymru neu Loegr, am o leiaf saith diwrnod cyn rhoi Hysbysiad Cyfreithiol. Os ydy’r ddau ohonoch chi yn byw yn yr un cylch, mae gofyn bod y naill a’r llall yn galw heibio i’ch swyddfa gofrestru leol mewn person, i roi Hysbysiad Cyfreithiol i’r Cofrestrydd Arolygu.
Rhaid rhoi Hysbysiad Cyfreithiol yn annibynnol ac mewn person.
Os ydych chi’n byw mewn ardaloedd gwahanol, mae gofyn bod y ddau ohonoch chi’n rhoi Hysbysiad Cyfreithiol i’r Ardaloedd Cofrestru perthnasol.
Ar ôl ichi gyflwyno Hysbysiad Cyfreithiol, rhaid aros 15 niwrnod clir, cyn priodi. Mae’r cyfnod aros yn elfen hanfodol o’r Gyfraith ac mae disgwyl i bawb gydymffurfio â hi.
Mae ffi ar gyfer y sawl sy’n bwriadu Priodi a rhaid talu’r gost adeg rhoi Hysbysiad. Rydyn ni’n derbyn arian parod, siec, cardiau credyd neu ddebyd. Mae gofyn i chi dalu ffi’r Seremoni o flaen llaw bryd hynny hefyd.
Os penderfynwch chi dalu â siec, mae gofyn ichi gyflwyno cerdyn gwarantu sieciau.
Os ydych chi’n byw ym Mwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, mae modd ichi roi Hysbysiad Cyfreithiol o’r Bwriad i Briodi yn y Swyddfa Gofrestru, Adeiladau’r Cyngor, Heol Gelliwastad, Pontypridd, CF37 2DP. Mae’n swyddfeydd i gyd yn gweithredu ar system apwyntiadau. Byddwch gystal â ffonio i drefnu amser cyfleus cyn galw heibio ar (01443) 494024 neu drwy e-bost: cofrestrydd@rctcbc.gov.uk
Unigolion dan 18 mlwydd oed
Os ydy’r sawl sy’n bwriadu priodi dan 18 mlwydd oed, a heb fod yn ŵr gweddw neu’n wraig weddw, mae gofyn bod rhieni neu warcheidwaid yn cyflwyno ffurflen gydsynio ar gyfer sylw’r Cofrestrydd Arolygu, cyn bod modd rhoi Hysbysiad Cyfreithiol o’r Bwriad i Briodi. Mae ffurflen i’r diben yma ar gael yn y Swyddfa Gofrestru.
Os ydy’ch rhieni wedi ysgaru, efallai bydd gofyn ichi gyflwyno gorchymyn llys sy’n rhoi gwarchodaeth i un ohonyn nhw’n ogystal.
Noder: rhaid cyflwyno dogfennau gwreiddiol yn unig. Fyddwn ni ddim yn derbyn dogfennau wedi’u llungopïo. I gael rhagor o fanylion/cyngor, cysylltwch â’ch swyddfa gofrestru leol.
Ein Priodasau Sifil
Rydyn ni’n cynnig ystod eang o seremonïau ar sawl ffurf, yn amrywio o seremoni syml anffurfiol ar gyfer ychydig o westeion, i seremonïau mwy ffurfiol gyda morwynion a gweision bychain a nifer o westeion.
Beth bynnag fo’ch dymuniad, bydd ein carfan o arbenigwyr ymroddedig yn rhoi cymorth ichi gynllunio ar gyfer seremoni’ch breuddwydion, a’i gwneud hi’n achlysur hapus a bythgofiadwy.
Seremoni mewn Swyddfa Gofrestru
Mae’r ystafell ar gyfer cynnal seremonïau yn Swyddfa Gofrestru Pontypridd wedi’i haddurno’n chwaethus ac mae lle ar gyfer hyd at 40 o westeion. Yn ogystal â hynny, mae ystafell aros fawr mae modd i westeion eistedd ynddi hi ac ymlacio ychydig cyn eich tywys i’r ystafell ar gyfer cynnal seremonïau.
Gwerthfawrogwn y dylai eich diwrnod priodas fod yn achlysur arbennig, bythgofiadwy. Mae ein carfan o gofrestryddion yn ymroi i ofalu y bydd eich seremoni yn chwarae rhan bwysig yn hynny o beth.
I ofalu ein bod ni ar y trywydd iawn, byddwn ni’n anfon holiadur atoch chi ymlaen llaw. Fyddech gystal â llenwi’r holiadur yma a’i anfon yn ôl aton ni, (cyn pen wythnos o ddyddiad eich priodas man lleiaf), fel bod modd inni drefnu seremoni yn unol â’ch dymuniadau.
Ar ddiwrnod y briodas, fyddech gystal â gofalu bod y parti cyfan yn cyrraedd y Swyddfa Gofrestru o leiaf 10 munud cyn amser penodol y seremoni.
Noder: ar ddiwrnod y briodas, mae gofyn bod dau o dystion hygred, man lleiaf, yn gwmni ichi.
Mangreoedd sy wedi’u Cymeradwyo ar gyfer cynnal Seremonïau
Mae diwrnod eich priodas yn ddiwrnod unigryw ac arbennig iawn ac efallai bydd dewis canolfan i gynnal y seremoni yn gymorth i wneud y diwrnod yma’n achlysur bythgofiadwy ar eich cyfer chi a’ch gwesteion. Dychmygwch wneud eich addunedau mewn canolfannau hanesyddol deniadol. Beth am dynnu lluniau mewn gerddi godidog llawn coed a blodau lliwgar. Mae ein canolfannau yn rhoi cyfle i barau i fwynhau diwrnod rhamantaidd, yn cynnig atgofion sy’n para am byth.
Os byddwch chi’n penderfynu priodi mewn un o’n Mangreoedd sy wedi’u Cymeradwyo, mae gofyn eich bod chi’n cysylltu â’r ganolfan o’ch dewis i wneud trefniadau dros dro gyda’r swyddog sydd â chyfrifoldeb. Mae’n RHAID i chi gadarnhau’r trefniadau yma gyda’r Cofrestrydd Arolygu yn Swyddfa Gofrestru Pontypridd, i ofalu bod swyddogion cofrestru ar gael ar y diwrnod, i gynnal y seremoni a chofrestru’r briodas.
Noder: mae hi’n hollbwysig eich bod chi’n cytuno ar ddyddiad ac amser eich priodas gyda’r Cofrestrydd Arolygu a Swyddog sydd â chyfrifoldeb yn y ganolfan o’ch dewis ILL DAU, CYN gwneud unrhyw drefniadau eraill ar gyfer eich priodas.
Unwaith eich bod chi wedi cadarnhau dyddiad ac amser ar gyfer cynnal y briodas, bydd gofyn ichi drefnu apwyntiad i roi Hysbysiad Cyfreithiol o’ch Bwriad i Briodi, ar gyfer sylw Cofrestrydd Arolygu’r ardal rydych chi’n byw ynddi hiMae Rhondda Cynon Taf yn un o ranbarthau cofrestru mwyaf Cymru. Mae ein staff profiadol sydd wedi cael hyfforddiant, yn cynnig gwasanaeth proffesiynol o’r radd flaenaf, i barau sy’n priodi yn yr ardal.
Rhybudd o Dywydd Garw
Mewn rhai ardaloedd o Rondda Cynon Taf, gall y tywydd droi’n arw yn sydyn iawn. Fe wnawn ni bob ymdrech i gyrraedd eich seremoni. Serch hynny, cofiwch y gallai tywydd eithafol ei gwneud hi’n amhosibl weithiau i Weinydd fod yn bresennol mewn seremoni. Dim ond mewn amgylchiadau difrifol iawn y bydd y sefyllfa hon yn codi. Er hynny, fe ddylech chi ystyried o ddifrif y byddai raid canslo taith Gweinyddion i’r lleoliad. Fydd y Cyngor ddim yn cymryd unrhyw gyfrifoldeb yn y fath amgylchiadau
Seremonïau Mannau Cymeradwy
Mae 4 rhan i’w dalu:
Ffi Trefnu/Cadw Dyddiad – tâl bach ar wahân yw’r ffi yma, i sicrhau y cewch chi’r dyddiad ac amser o’ch dewis ymlaen llaw cyn eich seremoni. Does dim modd ei ad-dalu.
Hysbysiad o Briodi – Hon sydd i’w thalu i’r Cofrestrydd Arolygu pan ddewch chi i roi eich hysbysiad cyfeithiol lle’r ydych yn byw. Does dim modd ei had-dalu os caiff y seremoni ei chanslo wedi rhoi’r hysbysiad cyfreithiol.
Ffi Seremoni – Dyma ffi am bresenoldeb y Gweinydd yn eich seremoni. Rhaid talu hon ymlaen llaw, 6 wythnos cyn y seremoni. Caiff y ffi gael ei had-dalu os derbyniwn hysbys o’r canslad yn ysgrifenedig o leiaf mis cyn y seremoni.
Ffi am dystysgrif - Croeso ichi brynu Tystysgrif Goffaol i nodi’r achlysur, os dymunwch chi.
Yr Awdurdod Lleol sy’n gosod y ffioedd yma. Caiff y ffioedd eu hadolygu bob blwyddyn, ac maen nhw’n agored i gael eu newid.
Nodwch: Bydd hi’n debyg y bydd perchnogion yr eiddo yn codi tâl am y defnydd.
Priodi mewn Adeilad Crefyddol
Mae 4 rhan i’w dalu:
Ffi Trefnu/Cadw Dyddiad – tâl bach ar wahân yw’r ffi yma, i sicrhau y cewch chi’r dyddiad ac amser o’ch dewis ymlaen llaw cyn eich seremoni. Does dim modd ei ad-dalu.
Hysbysiad o Briodi – Hon sydd i’w thalu ir Cfrestrydd Arolygu pan ddewch chi i roi eich hysbysiad cyfeithiol lle’r ydych yn byw. Does dim modd ei had-dalu os caiff y seremoni ei chanslo wedi rhoi’r hysbysiad cyfreithiol.
Ffi Seremoni – Dyma ffi am bresenoldeb y Gweinydd yn eich seremoni. Rhaid talu hon ymlaen llaw, adeg yr ymgynghoriad. Caiff y ffi gael ei had-dalu os derbyniwn hysbys o’r canslad yn ysgrifenedig o leiaf mis cyn y seremoni.
Ffi am dystysgrif - Croeso ichi brynu Tystysgrif Goffaol i nodi’r achlysur, os dymunwch chi.
Yr Awdurdod Lleol sy’n gosod y ffioedd yma. Caiff y ffioedd eu hadolygu bob blwyddyn, ac maen nhw’n agored i gael eu newid.
Cadw lle am y tro
Mae Hysbysiad o’r Bwriad i Briodi yn ddilys am flwyddyn, ond mae hi bob amser yn syniad da i gadw lle cyn gynted ag sy’n bosibl - boed priodi mewn Swyddfa Gofrestru neu Ganolfan sy wedi’i Chymeradwyo.
Mae’r rhan fwyaf o’r canolfannau yn y cylch yn rhedeg system cadw lle dros dro, sy’n rhoi cyfle ichi gadw lle ymlaen llaw, ac sy’n rhoi cyfle i barau i wneud y trefniadau i gyd mewn da bryd.
I gadw lle ymlaen llaw, mae gofyn eich bod chi’n ysgrifennu at Gofrestrydd Arolygu’r ardal rydych chi’n bwriadu priodi ynddi hi. Mae gofyn eich bod chi’n rhoi Hysbysiad Cyfreithiol o’r Bwriad i Briodi i Gofrestrydd Arolygu’r ardal rydych chi’n byw ynddi hi, cyn pen blwyddyn o ddyddiad y briodas, pa le bynnag le yng Nghymru neu Loegr bydd y briodas yn digwydd lle.
Noder: Mae Rhondda Cynon Taf yn codi ffi i gadw’r dyddiad ac amser eich seremoni dros dro. Does dim modd ei ad-dalu.
Priodi rhywle arall
O bryd i’w gilydd, efallai bydd parau’n dymuno priodi y tu allan i’r ardal maen nhw’n byw ynddi hi.
Ar wahân i briodi mewn Eglwys, mae modd ichi briodi mewn unrhyw Swyddfa Gofrestru yng Nghymru a Lloegr. Mae modd ichi briodi mewn eiddo eraill sy wedi’u cymeradwyo ar gyfer Seremonïau Sifil.
Os ydych chi wedi penderfynu trefnu Seremoni Sifil gyda Swyddfa Gofrestru arall neu mewn Canolfan sy wedi’i Chymeradwyo y tu allan i ddalgylch Rhondda Cynon Taf, bydd gofyn ichi gysylltu â’r Cofrestrydd Arolygu yn y Swyddfa Gofrestru berthnasol i ofalu’u bod nhw ar gael ar y dyddiad a’r amser rydych chi wedi’u dewis ar gyfer y briodas.
Os ydy’r naill neu’r llall, neu’r ddau ohonoch, sy’n bwriadu priodi yn byw yng nghyffiniau Rhondda Cynon Taf, bydd gofyn iddyn nhw i drefnu apwyntiad i weld Cofrestrydd Arolygu’r cylch i roi Hysbysiad Cyfreithiol o’r Bwriad i Briodi.
Rhaid i’r sawl sy’n bwriadu priodi, ill dau, i roi Hysbysiad Cyfreithiol o’r Bwriad i Briodi i Gofrestrydd Arolygu’r ardal maen nhw’n byw ynddi hi.
Unigolion sy’n byw dramor
Os ydy’r sawl sy’n bwriadu priodi yn byw y tu allan i Gymru a Lloegr a’u bod nhw’n dymuno priodi mewn eglwys neu gapel, neu gynnal seremoni sifil yng Nghymru a Lloegr, cysylltwch â’r Swyddfa Gofrestru am ragor o fanylion/cyngor.
Unigolion sy’n amodol ar reolaeth fewnfudo
Os ydych chi’n bwriadu priodi yn y DU ar ôl 1 Chwefror 2005 ac rydych chi’n amodol ar reolaeth fewnfudo tra’ch bod chi yn y DU, bydd gofyn ichi ddilyn y rheolau newydd.
Rydw i eisiau priodi yn y DU ac rydw i’n byw dramor
Bydd gofyn ichi gael teitheb fisa neu drwydded fynediad yn ddyweddi neu’n ymwelydd priodas.
Hyd yn oed os ydych chi’n ddinesydd gwlad lle does dim gofyn ichi gael fisa i ddod i wledydd Prydain fel rheol, mae’r rheolau yma i’w cymhwyso. Fydd dim modd ichi roi hysbysiad o’r bwriad i briodi i gofrestrydd heb fod gyda chi sticer ddilys yn eich pasbort neu ddogfen deithio.
Mae gofyn eich bod chi’n cyflwyno cais am deitheb fisa neu drwydded fynediad i Lysgenhadaeth Brydain, Swyddfa Conswl, neu Uchel Gomisiwn yn y wlad lle rydych chi’n byw ynddi, neu’r wlad dramor rydych chi’n byw ynddi fel rheol.
Os mai’r ddau ohonoch chi’n sy’n bwriadu priodi yn amodol ar reolaeth fewnfudo, mae gofyn bod y ddau ohonoch chi’n cyflwyno ceisiadau ar wahân a thalu ffi tystysgrif gymeradwyo.
Rydw i eisiau priodi yn y DU ac rydw i yn y wlad eisoes
Os oes gyda chi statws wedi ymgartrefu yn y DG, megis caniatâd amhenodol i ddod i mewn i’r wlad neu aros, does dim rhaid ichi gyflwyno tystysgrif cymeradwyo priodas i roi hysbysiad o’r bwriad i briodi ar gyfer sylw’r Cofrestrydd. Fodd bynnag, os ydych chi heb statws wedi ymgartrefu yn y DG, bydd gofyn ichi gyflwyno cais am dystysgrif o gymeradwyaeth oddi wrth y Swyddfa Gartref.
Mae ffurflenni cais am dystysgrifau ar gael gan y Gyfarwyddiaeth Mewnfudo a Chenedligrwydd ar 0870 241 0645.
Rhoi hysbysiad o’r bwriad i briodi mewn Swyddfa Gofrestru benodedig
Os ydych chi’n amodol ar reolaeth fewnfudo, mae gofyn eich bod chi a’r sawl rydych chi’n bwriadu priodi i roi hysbysiad o’r Bwriad i Briodi mewn Swyddfa Gofrestru benodol. Mae’r Swyddfeydd Cofrestru yn yr Alban a Gogledd Iwerddon yn swyddfeydd penodol, ynghyd â 76 o Swyddfeydd Cofrestru sy wedi’u dewis yng Nghymru a Lloegr.
Mae rhestr o’r 76 o swyddfeydd penodol yng Nghymru a Lloegr ar gael ar wefan Swyddfa Gofrestru Gyffredinol a gwefan y Gyfarwyddiaeth Mewnfudo a Chenedligrwydd.
Seremoni Ddwyieithog
Weithiau, bydd parau’n dymuno bod y seremoni yn cael ei chynnal trwy gyfrwng y Gymraeg. Efallai bydd eraill yn dymuno cael Tystysgrif Briodas yn y Gymraeg a’r Saesneg a chyda seremoni trwy gyfrwng y Saesneg yn unig.
Os ydych chi’n rhugl yn y Gymraeg a hoffech chi gynnal eich seremoni trwy gyfrwng y Gymraeg, neu os hoffech chi gofrestru’r briodas, gan gynnwys eich tystysgrif briodas, yn y Gymraeg a’r Saesneg, fyddech gystal â thrafod eich anghenion â’r Cofrestrydd Arolygu pan fyddwch chi’n cysylltu â ni i drefnu’ch priodas.
Os bydd angen cymorth arbennig arnoch chi
Os nad Saesneg ydy’ch iaith gyntaf, efallai bydd gofyn cael cyfieithydd i ddod yn gwmni ichi i’r Swyddfa Gofrestru i roi’ch Hysbysiad Cyfreithiol o’r Bwriad i Briodi, a hefyd ar ddiwrnod y briodas yn ystod y seremoni’i hun.
Mae modd i aelod o’r teulu neu gyfaill i weithredu’n gyfieithydd ar eich rhan, ond cofiwch, mae gofyn eich bod chi’n galw heibio i’r Swyddfa Gofrestru mewn person i roi Hysbysiad Cyfreithiol, does dim hawl i aelod o’r teulu i ddod ar eich rhan.
Cofrestrydd Arolygu
Swyddfa Gofrestru
Adeiladau’r Cyngor
Gelliwastad Road
Pontypridd