Skip to main content

Grant Hanfodion Ysgolion (Y Grant Datblygu Disgyblion - Mynediad 23/24 yn flaenorol) ar gyfer grwpiau blwyddyn Medi 2023

Mae'r cynllun yma'n darparu cymorth grant i deuluoedd ar incwm isel er mwyn prynu:

Mae'r cynllun yma'n darparu cymorth grant i deuluoedd ar incwm is er mwyn prynu:

  • Gwisg ysgol gan gynnwys cotiau ac esgidiau;
  • Gwisg chwaraeon ysgol gan gynnwys esgidiau;
  • Offer TG: gliniaduron a llechi YN UNIG (dim ond mewn sefyllfa gyfyngedig y dylai Grant Hanfodion Ysgolion gael ei ddefnyddio, lle nad oes modd i ysgol fenthyg offer i'r teulu);
  • Gwisg ar gyfer gweithgareddau cyfoethogi, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i, Scouts; Guides; Cadetiaid; crefftau ymladd; chwaraeon; y celfyddydau perfformio neu ddawns;
  • Offer, e.e. bagiau ysgol a deunydd ysgrifennu;
  • Offer arbenigol lle mae gweithgareddau cwricwlwm newydd yn cychwyn megis dylunio a thechnoleg; ac
  • Offer ar gyfer teithiau y tu allan i oriau ysgol megis dysgu awyr agored e.e. gwisg wrth-ddŵr.

Mae'r Cyllid ar gael i ddisgyblion sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim ac sy'n symud i'r canlynol:

  • Dechrau dosbarth Derbyn ym mis Medi 2023 - £125;
  • Dechrau Blwyddyn 1 ym mis Medi 2023 - £125;
  • Dechrau Blwyddyn 2 ym mis Medi 2023 - £125;
  • Dechrau Blwyddyn 3 ym mis Medi 2023 - £125;
  • Dechrau Blwyddyn 4 ym mis Medi 2023 - £125;
  • Dechrau Blwyddyn 5 ym mis Medi 2023 - £125;
  • Dechrau Blwyddyn 6 ym mis Medi 2023 - £125;
  • Dechrau Blwyddyn 7 ym mis Medi 2023 £200;
  • Dechrau Blwyddyn 8 ym mis Medi 2023 - £125;
  • Dechrau Blwyddyn 9 ym mis Medi 2023 - £125;
  • Dechrau Blwyddyn 10 ym mis Medi 2023 - £125;
  • Dechrau Blwyddyn 11 ym mis Medi 2023 - £125; neu
  • Ar gyfer dysgwyr mewn ysgolion arbennig, canolfannau adnoddau anghenion arbennig neu unedau cyfeirio disgyblion ac sy’n 4, 5, 6, 7, 8, 9, 10, 11, 12, 13, 14 neu 15 oed ym mis Medi 2023
  • Ar gyfer plant sy'n derbyn gofal o oedran ysgol gorfodol ac sy'n cael eu dosbarthu fel rhai sy'n derbyn gofal gan awdurdod lleol. Yr awdurdod lleol y mae’r plentyn sy’n derbyn gofal yn mynychu’r ysgol ynddo sy’n gyfrifol am y grant.
  • Mae’n bosibl y bydd cyllid hefyd ar gael i ddysgwyr sydd heb Hawlio Cronfeydd Cyhoeddus mewn grwpiau blwyddyn Derbyn i Flwyddyn 11.

Mae'r Cyllid hefyd ar gael i bob plentyn sy'n derbyn gofal sy'n gorfod mynychu'r ysgol. Yr Awdurdod Lleol lle mae'r plentyn sy'n derbyn gofal yn mynychu'r ysgol sy'n gyfrifol ar gyfer y grant.

Dydy disgyblion sy'n derbyn Prydau Ysgol am Ddim oherwydd trefniadau amddiffyn trosiannol ddim yn gymwys i gael y cyllid yma.

Bydd y cynllun ar gyfer y flwyddyn academaidd 2023/24 yn dechrau ar 1 Gorffennaf 2023 ac yn dod i ben ar 31 Mai 2024.

Mae modd gwneud cais am y cyllid ar gyfer disgyblion unigol unwaith bob blwyddyn academaidd yn unig.

Os ydych chi’n rhiant neu warcheidwad, bydd angen cod unigryw arnoch chi i brosesu’ch cais. Bydd ysgolion yn rhoi gwybod i deuluoedd am unrhyw hawl sy’n ddyledus cyn diwedd Tymor yr Haf ym mis Gorffennaf 2023. Ar gyfer ceisiadau disgyblion Blwyddyn 7 ac uwch bydd yr Ysgol Uwchradd/Ysgol Pob Oed yn eich hysbysu o unrhyw hawl sy'n ddyledus. Os nad oes gyda chi hwn a'ch bod yn meddwl y gallai fod hawl gyda chi i dderbyn grant, cysylltwch â'ch ysgol yn y lle cyntaf.

Os oes unrhyw broblemau gyda'r broses ymgeisio, e-bostiwch  YGrantHanfodionYsgol@rctcbc.gov.uk