Rydyn ni i gyd yn gwybod bod strwythur y gymdeithas yn gallu rhwsytro eich plentyn rhag gwneud yr hyn sy'n bwysig iddo ac yn cyfyngu ar y dewisiadau sydd ar gael.
Byddwn ni'n gweithio gyda chi er mwyn ceisio goresgyn rhai o'r rhwystrau yma. Bydd y manylion wedi'u nodi yn y Cynllun Gofal a Chymorth. Bydd y cynllun yn cael ei lunio gyda’ch mewnbwn chi ac yn ystyried yr holl gryfderau a gwendidau sy’n berthnasol i’ch teulu. Bydd yn cael ei adolygu'n rheolaidd a bydd yn newid wrth i anghenion newydd godi, neu efallai na fydd ei angen mwyach os yw'r deilliannau'n cael eu cyflawni.