Skip to main content

Gorchmynion Gwarcheidwaeth Arbennig

Mae Gorchymyn Gwarcheidwaeth Arbennig yn ffordd gyfreithiol o roi sicrwydd hirdymor i blentyn sydd methu dychwelyd i fyw gyda'i rieni geni a lle nad yw mabwysiadu yn addas.

Mae pob plentyn angen amgylchedd sefydlog, hirdymor llawn cariad lle mae modd iddyn nhw lwyddo a chyflawni'u potensial. Mae'r dudalen hon yn egluro un ffordd y mae modd sicrhau hyn ar gyfer plant sydd â rhieni sydd ddim yn gallu edrych ar eu hôl. Gorchymyn Gwarchodaeth Arbennig yw hyn.

Beth yw Gorchymyn Gwarchodaeth Arbennig?

Gorchymyn Gwarchodaeth Arbennig (SGO) yw modd o ddarparu sefydlogrwydd i blentyn sydd ddim yn gallu dychwelyd i fyw gyda'i riant biolegol ac sydd ddim yn addas ar gyfer y broses mabwysiadu.  Dyma ffordd gyfreithiol o drosglwyddo cyfrifoldebau clir, hir dymor o ran magwraeth y plentyn i'r person sy'n gofalu amdano. Ar yr un pryd, mae'n cadw'r cyswllt cyfreithiol rhwng y plentyn a'i rieni biolegol.

Mewn sawl achos, bydd y plentyn yn parhau i fod mewn cysylltiad â'i rieni. Ble y bo'n addas, efallai bydd y llys yn creu Gorchymyn Cyswllt ar yr un pryd â'r Gorchymyn Gwarchodaeth Arbennig.

Unwaith y bydd y Gorchymyn Gwarchodaeth Arbennig yn cael ei greu, fel arfer y Gwarcheidwad Arbennig fydd y cynhaliwr parhaol ar gyfer y plentyn nes iddo gyrraedd 18 oed. 

Ym mha fath o amgylchiadau byddai Gorchymyn Gwarchodaeth Arbennig yn addas?

Efallai bydd Gorchymyn Gwarchodaeth Arbennig yn addas ar gyfer:

  • Plant sydd wedi bod mewn gofal maeth ers cyfnod hir
  • Plant sy'n derbyn gofal ar sail barhaol gan aelod o'r teulu ehangach
  • Plant hŷn sydd eisiau cadw'r cyswllt cyfreithiol gyda'i deulu biolegol, ond sydd eisiau elwa o drefniadau gofal parhaol
  • Plant o deuluoedd sydd ag anawsterau diwylliannol neu grefyddol o ran agweddau cyfreithiol mabwysiadu.

Pwy all wneud cais am Orchymyn Gwarchodaeth Arbennig?

Mae Gorchymyn Gwarchodaeth Arbennig yn cael ei gyflwyno trwy wneud cais ffurfiol i'r llys. Gallwch chi wneud cais i ddod yn Warcheidwad Arbennig os ydych chi dros 18 oed ac rydych chi'n:

  • Warcheidwad i'r plentyn
  • Rhiant maeth yr Awdurdod Lleol ac mae'r plentyn wedi byw gyda chi am flwyddyn cyn i'r cais gael ei wneud
  • Berthynas i'r plentyn ac mae'r plentyn wedi byw gyda chi am flwyddyn cyn i'r cais gael ei wneud
  • Unrhyw un sydd wedi'i enwi mewn Gorchymyn Preswylio neu Orchymyn Trefniadau i Blant fel person y mae'r plentyn i fyw ag ef/hi, neu sydd â chaniatâd pawb sydd ynghlwm â gweithredu'r gorchymyn preswyl neu orchymyn trefniadau i blant
  • Unrhyw un sydd â chaniatâd gan:

Yr Awdurdod Lleol (os yw'r plentyn wedi 'derbyn gofal' dan adran 31 am gyfnod sy'n llai na 12 mis)

neu Bob person sydd â chyfrifoldeb rhiant ar gyfer y plentyn

neu'r  Llys.

  • Unrhyw un y mae'r plentyn wedi byw ag ef/hi am dri allan o'r pum blwyddyn ddiwethaf.
  • Unrhyw un sydd â chaniatâd yr awdurdod lleol lle mae'r plentyn wedi derbyn gofal gan yr awdurdod lleol.
  • Unrhyw un sydd â chaniatâd pawb sydd â chyfrifoldeb rhiant ar gyfer y plentyn
  • Unrhyw un sydd â chaniatâd pawb sydd â chyfrifoldeb rhiant ar gyfer y plentyn
  • Unrhyw un sydd â chaniatâd y llys i gyflwyno cais.

Bydd angen i unrhyw un sydd ddim ar y rhestr uchod geisio caniatâd y llys cyn cael gwneud cais.

Os yw'r plentyn yn derbyn gofal gan yr Awdurdod Lleol rhaid i'r ymgeisydd rhoi hysbysiad ysgrifenedig i'r awdurdod sy'n gofalu am y plentyn.  Os nad yw'r plentyn yn derbyn gofal gan yr awdurdod lleol, rhaid i'r ymgeisydd roi hysbysiad ysgrifenedig i'r Awdurdod Lleol lle mae'r ymgeisydd yn byw fel arfer.

Beth yw'r weithdrefn ar gyfer gwneud cais am Orchymyn Gwarchodaeth Arbennig?

Rhaid i unrhyw berson sy'n dymuno gwneud cais am Orchymyn Gwarchodaeth Arbennig roi rybudd ysgrifenedig o dri mis i'r Awdurdod Lleol ynghylch ei fwriad i wneud cais am orchymyn. 

Yn ystod y cyfnod tri mis yma, bydd yr Awdurdod Lleol yn cynnal gwaith archwilio a pharatoi adroddiad i'r llys sy'n ymdrin ag addasrwydd yr ymgeisydd i fod yn Warcheidwad Arbennig, ymhlith materion eraill.

Bydd yr adroddiad yma hefyd yn asesu ai Gorchymyn Gwarchodaeth Arbennig yw'r ffordd orau o fodloni anghenion y plentyn. Rhaid iddo ystyried anghenion y plentyn a'i ddymuniadau; gwybodaeth ynghylch y darpar Warcheidwad Arbennig; barn y bobl sydd ynghlwm â bywyd y plentyn a pha wasanaethau cymorth efallai bydd eu hangen. Rhaid i'r adroddiad yma gael ei gwblhau os yw'r plentyn yn derbyn gofal gan yr Awdurdod Lleol ai peidio.

Efallai fydd y llys ddim yn gwneud Gorchymyn Gwarchodaeth Arbennig oni bai ei fod wedi derbyn adroddiad sy'n trafod addasrwydd yr ymgeiswyr.

Unwaith y bydd yr asesiad wedi'i gwblhau, penderfyniad y person sy'n dymuno gwneud cais i ddod yn Warcheidwad Arbennig yw cyflwyno cais ffurfiol i'r llys. Efallai byddwch chi eisiau ceisio cyngor cyfreithiol ynglŷn â hyn.

Pa gymorth sydd ar gael?

Yn rhan o broses y Gorchymyn Gwarchodaeth Arbennig, rhaid i'r Awdurdod Lleol ystyried pa gymorth bydd efallai ei angen.

Gallai cymorth fod ar ffurf:

  • Cymorth ariannol
  • Cymorth gan Gymheiriaid
  • Person Cyswllt
  • Gwasanaethau Therapiwtig
  • Cymorth o ran hyrwyddo sefydlogrwydd perthynas
  • Cyfryngu

Mae hawl gan y bobl ganlynol wneud cais am asesiad ar gyfer gwasanaethau cymorth:

  • Plentyn sy'n destun Gorchymyn Gwarchodaeth Arbennig neu riant y plentyn hwnnw
  • Plentyn sy'n destun hysbysiad a gyflwynwyd i'r Awdurdod Lleol o fwriad unigolyn i wneud cais am Orchymyn Gwarchodaeth Arbennig neu riant y plentyn hwnnw
  • Plentyn sy'n destun adroddiad Awdurdod Lleol y mae'r Llys wedi gwneud cais amdano, neu riant y plentyn hwnnw
  • Plentyn sy'n destun, neu a gaiff ei enwi, mewn adroddiad Awdurdod Lleol ar gyfer y Llys
  • Gwarcheidwad arbennig neu ddarpar warcheidwad arbennig
  • Plentyn gwarcheidwad arbennig neu ddarpar warcheidwad arbennig
  • Perthynas i blentyn sy'n cwympo o fewn y tri phwynt bwled cyntaf gyn belled â bod trefniadau cyswllt wedi bod ar waith cyn y cais am asesiad.

Yn gyffredinol, dylai helpu i sicrhau amgylchedd cartref sefydlog a pherthnasau cefnogol ar gyfer y plentyn.

Os yw'r plentyn eisoes wedi derbyn gofal, bydd gan y rheiny sydd ynghlwm â'r cais ar gyfer Gwarcheidwaeth Arbennig, gan gynnwys y plentyn; rhiant y plentyn a'r Gwarcheidwad Arbennig arfaethedig, yr hawl i wneud cais am asesiad cymorth. Fydd yr hawl yma ddim yn bodoli os nad yw'r plentyn wedi derbyn gofal, ond bydd y Gwasanaethau Cymdeithasol yn dal i ystyried a ddylai cymorth gael ei ddarparu er budd y plentyn.

Os caiff cymorth ei ddarparu, bydd y manylion yma yn cael eu nodi mewn Cynllun Gwasanaethau Cymorth y Warcheidwaeth Arbennig.

Pwy sydd â chyfrifoldeb rhiant am y plentyn?

Yn wahanol i Orchymyn Mabwysiadu, dydy Gorchymyn Gwarchodaeth Arbennig ddim yn golygu y bydd cyfrifoldebau'r rhiant biolegol, neu unrhyw un arall sydd â chyfrifoldeb rhiant, yn dod i ben.

Fodd bynnag, mae'r Gorchymyn Gwarchodaeth Arbennig yn gwella cyfrifoldeb rhiant y Gwarcheidwad Arbennig ar gyfer y plentyn. Mae hyn yn golygu y bydd gan y Gwarcheidwad Arbennig gyfrifoldeb am ofalu ar gyfer y plentyn o ddydd i ddydd a gwneud penderfyniad ynglŷn â sut mae'r plentyn yn cael ei fagu a chân nhw ddiystyru dymuniadau'r rhiant biolegol os oes angen.

A chithau'n rhiant biolegol, byddwch chi'n parhau i fod yn rhiant cyfreithiol ar gyfer y plentyn.  Fodd bynnag, bydd eich cyfrifoldeb rhiant wedi'i gyfyngu.  Tra bydd y Gorchymyn Gwarchodaeth Arbennig mewn grym, bydd angen i bob person sydd â chyfrifoldeb rhiant ar gyfer y plentyn roi caniatâd ysgrifenedig neu sicrhau caniatâd gan y llys er mwyn i'r plentyn:

  • Gael ei adnabod gan gyfenw gwahanol
  • Symud o'r DU am fwy na thri mis
  • Dderbyn triniaeth feddygol ar sail grefyddol neu ddiwylliannol
  • Mewn perthynas â'r Gwarcheidwad Arbennig yn gwneud cais am Orchymyn Mabwysiadu

Beth all Gwarcheidwad Arbennig ei ddisgwyl gan yr Awdurdod Lleol?

Bydd y Gwasanaethau i Blant yn cadw mewn cysylltiad â'r Gwarcheidwad Arbennig, bydd hyn yn digwydd o leiaf unwaith y flwyddyn i sicrhau bod popeth yn iawn. Os yw gwasanaethau cymorth yn cael eu darparu, efallai y bydd y cyswllt yma'n fwy cyson.

Os yw gwasanaethau cymorth neu gymorth ariannol yn cael eu darparu, bydd y rhain yn cael eu hadolygu o leiaf unwaith y flwyddyn i sicrhau eu bod nhw'n parhau i gwrdd ag anghenion y plentyn.

Mae'n bosibl y bydd y Gwasanaethau i Blant yn cysylltu o bryd i'w gilydd i roi gwybod i Warcheidwaid Arbennig am newidiadau sy'n effeithio ar drefniadau cymorth lleol y Warcheidwaeth Arbennig, er enghraifft newid i fanylion cyswllt fel bod pob Gwarcheidwad Arbennig yn gwybod lle i fynd er mwyn cael cyngor a chymorth pe bai angen.

Os oes gyda chi unrhyw bryderon neu ymholiadau, mae croeso i chi gysylltu â ni ar unrhyw bryd.

Beth mae'r Awdurdod Lleol yn ei ddisgwyl gan Warcheidwad Arbennig?

Dim ond hyn o hyn o gyfrifoldebau ffurfiol i'r Awdurdod Lleol sydd gan Warcheidwaid Lleol. Fodd bynnag, yn ôl y gyfraith, mae rhaid i chi roi gwybod i'r Awdurdod Lleol (ar unrhyw adeg)

  • Os rydych chi'n newid eich cyfeiriad
  • Os nad yw'r plentyn yn byw gyda chi bellach
  • Os yw'r plentyn yn marw
  • Os yw'r plentyn yn derbyn cymhorthdal incwm neu Lwfans Ceisio Gwaith (JSA)
  • Os yw'r plentyn wedi cychwyn swydd llawn amser
  • Os rydych chi'n bwriadu symud i awdurdod lleol arall
  • Os oes newid i'ch amgylchiadau ariannol neu anghenion ac adnoddau ariannol y plentyn.

Rhaid i Warcheidwaid Arbennig sy'n derbyn cymorth ariannol hefyd gyflwyno datganiad o amgylchiadau blynyddol. 

Fodd bynnag, os oes angen i chi drafod unrhyw faterion ar ôl cymeradwyo'r Gorchymyn, mae croeso i chi gysylltu â ni ar unrhyw adeg.

Pa mor hir fydd Gorchymyn Gwarchodaeth Arbennig yn para?

Bydd y Gorchymyn Gwarchodaeth Arbennig fel arfer yn para hyd nes i'r plentyn droi'n 18 oed.

Os yw'r plentyn yn Blentyn sy'n Derbyn Gofal, fydd y plentyn ddim yn parhau i dderbyn gofal unwaith y bydd y Gorchymyn Gwarchodaeth Arbennig yn cael ei gymeradwyo.

Efallai bydd y llys yn cytuno i derfynu ('rhyddhau') neu newid ('amrywio') Gorchymyn Gwarchodaeth Arbennig os yw rhai pobl, fel y Gwarcheidwad Arbennig, rhywun sydd â chyfrifoldeb rhiant neu'r person ifanc, yn gwneud cais i'r llys.

Mae modd i riant biolegol wneud cais i'r llys am ryddhau'r gorchymyn os oes newidiadau sylweddol wedi'u gwneud ers i'r gorchymyn gael ei greu.

Am ragor o wybodaeth

Os ydych chi eisiau rhagor o wybodaeth, neu os ydych chi eisiau siarad am wneud cais am Orchymyn Gwarchodaeth Arbennig, siaradwch â'ch gweithiwr cymdeithasol, os oes gyda chi un.  Fel arall, mae modd i chi gysylltu â'r Garfan Wybodaeth, Cyngor a Chymorth (GCC). Y Garfan GCC yw'r man cyswllt cyntaf ar gyfer pob ymholiad gan y cyhoedd a gweithwyr proffesiynol i Wasanaethau i Blant RhCT.

Ffôn: 01443 425006

E-bost CarfanGCC@rctcbc.gov.uk

Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol

Pan fyddwch chi'n cysylltu â'r Gwasanaethau i Blant, byddwn ni'n cadw gwybodaeth amdanoch chi ar ffurf cofnodion ysgrifenedig a ffeiliau ar gyfrifiaduron. Byddwn ni'n cadw'r wybodaeth yma'n gyfrinachol, ac eithrio lle bydd angen i ni'i rhannu â phobl eraill sy'n darparu gofal i chi, neu er mwyn eich amddiffyn chi neu bobl eraill.

Mae hawl gyda chi i ofyn i weld cofnodion amdanoch chi rydyn ni'n eu cadw.

Mae modd i ni roi rhagor o wybodaeth i chi ynglŷn â sut rydyn ni'n trin gwybodaeth bersonol.

Ffôn: 01443 425006

Sylwadau a Chwynion

Rydyn ni'n croesawu unrhyw sylwadau ynghylch ein gwasanaethau - boed hynny'n dda neu'n ddrwg. Rydyn ni eisiau gwybod sut gallwn ni wneud yn well, ac rydyn ni'n hoffi gwybod pan rydyn ni'n gwneud yn dda.

Os ydych chi'n anhapus am y gwasanaethau gewch chi, mae croeso i chi wneud cŵyn

Manylion Cyswllt:

Rhif Ffôn: 01443 42540

E-bost: gwrando.cwynion@rctcbc.gov.uk