Skip to main content

Hyfforddiant Darparwyr Gofal Plant

 

Ers 1 Ebrill 2026, mae canllaw hyfforddiant Gofal Plant a Chwarae ar gael sy'n ymgorffori holl hyfforddiant Gofal Plant a Chwarae Rhondda Cynon Taf mewn un lle.

Mae'r canllaw yn cynnwys hyfforddiant gan y carfanau canlynol:

  • Gofal Plant Cyffredinol
  • Dechrau'n Deg
  • Darparwyr Addysg Cofrestredig
  • Therapi Iaith a Lleferydd
  • Mynediad a Chynhwysiant
  • Amlasiantaeth (MAT)
  • Gwasanaethau Chwarae RhCT

Er mwyn gallu manteisio ar hyfforddiant sydd wedi'i ariannu, MAE RHAID i chi fod yn gweithio mewn lleoliad gofal plant cofrestredig AGC neu gyda darparwr gwasanaeth chwarae wedi'i gomisiynu gan RCT.

Yn y canllaw hyfforddiant fe welwch chi wybodaeth am yr holl gyrsiau hyfforddiant sy'n cael eu cynnig, a bydd pob cwrs wedi'i nodi'n glir. Byddan nhw naill ai'n ymwneud â hyfforddiant arbenigol ar gyfer darparwyr Dechrau'n Deg yn unig, neu'n gwrs hyfforddiant sydd ar gael i bob lleoliad.

Cyfeiriwch at y canllaw hyfforddiant sy'n nodi'r broses cadw lle'n glir.

Sylwch:

  • Carfan Gofal Plant RhCT sy'n cyflwyno hyfforddiant gorfodol
  • Carfan Dechrau'n Deg sy'n cyflwyno hyfforddiant datblygiad proffesiynol parhaus

Bydd meini prawf eraill yn berthnasol i garfanau sy'n cyflwyno'u hyfforddiant nhw eu hunain

Cyfeiriwch at y canllaw i gael rhagor o wybodaeth.

Mae'r canllaw yn cynnwys yr holl hyfforddiant sydd wedi'i drefnu ar gyfer y flwyddyn ariannol ar hyn o bryd, a bydd yn cael ei ddiweddaru bob tymor. Mae'n bwysig eich bod yn gwirio'r canllaw bob tymor oherwydd mae'n bosibl bydd dyddiadau'n newid, neu bydd sesiynau ychwanegol yn cael eu hychwanegu, yn dibynnu ar y cyllid sydd ar gael.

Os oes gennych chi gwestiynau ynghylch y canllaw yma, e-bostiwch: carfangofalplant@rctcbc.gov.uk.

Training Guide Apr-Mar CY