Skip to main content

Tai a Chymorth

Ble bydda i'n byw?

Pan fyddwch chi'n 16 oed, mae'n debygol byddwch chi'n dechrau meddwl am ble byddwch chi eisiau byw yn y dyfodol. Byddwn ni'n eich annog chi i ddechrau rheoli'ch bywyd eich hun trwy flaengynllunio a gosod nodau ar gyfer eich annibyniaeth.

Fflat hyfforddi

Os ydych chi'n ystyried symud a byw'n annibynnol, rydyn ni wedi sefydlu dau fflat hyfforddi. Cewch chi fyw yn y fflat ar eich pen eich hun am hyd at bedair wythnos er mwyn i chi gael ystyried eich opsiynau ar gyfer y dyfodol. Byddech chi'n cael lwfans wythnosol i brynu'ch bwyd eich hun ac i dalu am nwy a thrydan.  Byddai disgwyl i chi goginio eich bwyd eich hun, cadw'r fflat yn lân, golchi, a neilltuo arian ar gyfer teithio, y ffôn ac ati.

Llety â Chymorth

Mae rhai pobl ifainc rhwng 16 a 18 oed yn symud i gyfleusterau llety â chymorth. Mae'n golygu bod ganddyn nhw ragor o gyfrifoldebau ac mae'n eu paratoi nhw ar gyfer byw'n annibynnol. Mae’r  bobl ifainc yn rhentu'r ystafelloedd, yn cael eu harian eu hunain, ac yn dysgu sgiliau i'w helpu nhw i ymdopi'n well wrth fyw'n annibynnol, felly mae’n wahanol i ofal maeth. Serch hynny, byddai pob pryd a'ch bwyd yn cael ei ddarparu gan y person rydych chi’n byw gyda nhw.  Mae'r rhan fwyaf o'r bobl ifainc yn aros rhwng 6 a 12 mis cyn symud ymlaen, ond, mae'r cyfan yn dibynnu ar eu hamgylchiadau personol. Gweld rhagor o wybodaeth am Llety â Chymorth

Fflatiau

Dyma lle byddwch chi'n byw'n annibynnol

Fflat â Chymorth

Byddwch chi'n byw ar eich pen eich hun, ond, byddwch chi'n cael cymorth i wneud yn siŵr eich bod chi'n iawn.

Tai â Chymorth

Mae hyn yn golygu byddwch chi'n rhannu tŷ, ond, bydd lefelau gwahanol o gymorth ar gael, yn dibynnu ar eich anghenion. Mae rhai o'r opsiynau yma'n cynnwys:

Prosiect Tŷ Rhondda Llamau, Tonypandy

Dyma brosiect tai â chymorth 24 awr y dydd ar gyfer pobl ifainc sy'n gadael gofal. Fel arfer byddwch chi'n aros rhwng 6 a 12 mis, gan ddibynnu ar eich amgylchiadau. Mae'n cynnwys tri fflat hunangynhwysol, gan rannu lolfa.

Prosiect Stryd Dunraven Llamau, Tonypandy

Dyma dri fflat hunangynhwysol un ystafell wely lle byddwch chi’n derbyn cymorth hyblyg, gan ddibynnu ar eich anghenion. Mae pobl ifainc fel arfer yn aros rhwng 6 a 12 mis, gan ddibynnu ar eich amgylchiadau.

Stryd Hughes

Dyma brosiect llety â chymorth ar gyfer pobl ifainc sy'n gadael gofal. Mae'n cynnwys pum fflat hunangynhwysol ar gyfer pobl ifainc rhwng 16 a 21, bydd sesiynau cymorth, gweithdai, gweithgareddau, ac achlysuron i'ch helpu chi i ddatblygu eich sgiliau byw'n annibynnol.

Prosiect Bridget, Hafan Cymru, Tŷ Wedi'i Rannu

Dyma dai wedi'u rhannu ar gyfer pobl ifainc, lle byddwch chi'n derbyn sesiynau cymorth, gweithdai, gweithgareddau ac achlysuron er mwyn eich helpu chi i ddatblygu eich sgiliau byw'n annibynnol.

Tai â Chymorth i Deuluoedd Agored i Niwed Hafan Cymru

Dyma fflatiau neu dai ar gyfer teuluoedd neu fenywod sy'n 16 oed neu'n hŷn. Fel arfer, byddwch chi'n aros am rhwng 6 a 12 mis, gan ddibynnu ar eich amgylchiadau.

Prosiect The Old Bakery

Dyma Llety â Chymorth 24 awr y dydd â phum ystafell wely ar gyfer pobl ifainc sy'n gadael gofal. Byddech chi'n derbyn fflat hunangynhwysol eich hun.

Prosiect Llety Gwasgaredig Bridget Hafan Cymru

Dyma brosiect tai ar gyfer pobl ifainc sy'n gadael gofal. Byddech chi'n byw mewn eiddo hunangynhwysol. Fel arfer, byddwch chi'n aros rhwng 6 a 12 mis, gan ddibynnu ar eich amgylchiadau.

Beth yw Cynllun 'Pan fydda i'n barod'?

Llywodraeth Cymru sydd wedi datblygu'r cynllun ‘Pan fydda i'n barod’. Nod y cynllun yma yw cynnig rhagor o gymorth i bobl ifainc sy'n gadael gofal fel bod gyda chi'r hyder i symud i fyd oedolion a byw'n annibynnol.

Os ydw i'n byw gyda fy rhieni maeth ar hyn o bryd, beth fydd yn digwydd?

Pan fyddwch chi'n cyrraedd eich pen-blwydd yn 18 oed, dan y cynllun ‘Pan Fydda i'n Barod’, byddwch chi'n cael dewis aros gyda'ch rhieni maeth os:

  • Byddwch chi eisiau byw gyda nhw a/neu os fyddwch chi ddim yn barod i fyw ar eich pen eich hun,
  • Bydd eich rhieni maeth yn cytuno bod croeso i chi aros,
  • Hynny fydd y dewis gorau.

Beth fydd yn digwydd os bydda i eisiau aros mewn gofal ar ôl fy mhen-blwydd yn 18 oed, ond fydd dim modd i mi aros lle rydw i ar hyn o bryd?

Os ydych chi'n byw mewn gofal preswyl, neu os does dim modd i chi aros yn eich lleoliad presennol, mae'n bwysig iawn eich bod chi'n dweud wrth eich rhiant maeth, eich gweithiwr cymdeithasol, eich ymgynghorydd personol neu'ch Swyddog Adolygu Annibynnol fod y cynllun ‘Pan Fydda i'n Barod’ o ddiddordeb i chi o leiaf 6 mis cyn eich pen-blwydd yn 18 oed .  Bydd rhaid eich bod chi'n byw yn eich lleoliad maeth newydd cyn eich pen-blwydd yn 18 oed, er mwyn i chi gael cyfle i feithrin perthynas gyda'ch rhieni maeth newydd.

Pa gymorth arall alla i ei dderbyn?

Mae sawl ffordd arall o gael mynediad at gymorth, gan gynnwys:

Cynllun Cymorth Ieuenctid Gweithredu dros Blant

Dyma gymorth fel y bo angen ar gyfer pobl ifainc sydd rhwng 16 a 24 oed, a byddan nhw'n eich cynorthwyo chi os ydych chi'n sengl neu os ydych chi'n rhiant sengl.

Gwasanaeth Cymorth fel y bo Angen yn yr Ardal Leol

Dyma gymorth sy’n cael ei ddarparu yn eich cartref eich hun er mwyn eich helpu chi i fagu hyder a ddatblygu eich sgiliau byw'n annibynnol.

Gwasanaeth Cymorth Cyfryngu Person Ifanc a Theulu Llamau

Bydd y cymorth yn helpu drwy weithio gyda chi a'ch teulu.

Cymorth Mentora Gadael Gofal

Bydd y mentoriaid yn eich helpu chi drwy ddarparu cyngor a chymorth er mwyn datblygu eich sgiliau byw'n annibynnol, a’ch paratoi i fyw ar eich pen eich hun gyda’ch tenantiaeth eich hun.

Sesiwn Galw Heibio (Stryd Morgan)

Mae'r Sesiwn Galw Heibio yn cael eu cynnal ddwywaith yr wythnos (ar ddydd Mawrth ar gyfer y Gorllewin, a dydd Mercher ar gyfer y Dwyrain) ac mae modd i chi gael mynediad at gymorth a chymryd rhan mewn gweithgareddau grŵp er mwyn datblygu eich sgiliau byw'n annibynnol. Mae dau o'r mentoriaid wedi'u lleoli yma hefyd.

Prosiect Llwybrau Cadarnhaol

Bydd y cymorth yma’n eich helpu chi i osgoi digartrefedd ac aros yn eich cartref, neu eich helpu chi i ddychwelyd gartref.

Y Faenor

Dyma hostel deg llofft ar gyfer pobl ifainc rhwng 16 a 24 oed sydd yn ddigartref. Yn rhan o’r cynllun, byddwch chi'n derbyn llofft eich hun sy'n cynnwys ystafell ymolchi a chyfleusterau coginio.  

Beth fydd yn digwydd os bydda i mewn addysg bellach neu yn y Brifysgol?

Os byddwch chi'n astudio oddi cartref, mae'n bosibl byddwch chi eisiau dod adref yn ystod y gwyliau. Dan y cynllun ‘Pan Fydda i'n Barod’, byddwch chi'n cael dod adref i'ch rhiant maeth yn ystod y gwyliau, ar yr amod bod hynny wedi'i nodi yn eich Cynllun Llwybr.

Faint o arian fydd gyda fi?

Os ydych chi dan 18 oed, bydd Cyngor Rhondda Cynon Taf yn talu lwfans wythnosol i chi.  Ar ôl eich pen-blwydd yn 18 oed, efallai byddwch chi'n gymwys i gael budd-daliadau, yn dibynnu ar eich amgylchiadau. Gall y system budd-daliadau fod yn gymhleth, felly, os dydych chi ddim yn siŵr am beth i'w wneud, gallwch chi siarad gyda'ch gweithiwr cymdeithasol neu'ch ymgynghorydd personol. Bydd e/hi'n gallu eich helpu chi gyda hyn.

Efallai bydd eich ymgynghorydd personol neu'ch gweithiwr cymdeithasol hefyd yn gallu eich helpu chi i gael y canlynol, yn dibynnu ar eich oedran a'ch anghenion:

  • Byw o wythnos i wythnos – Cynhaliaeth
  • Llety – Rhent
  • Gyrru – Trwydded Yrru, prawf gyrru/theori, hyn a hyn o wersi gyrru

Beth yw'r Lwfans Sefydlu Cartref?

Arian y byddwn ni'n ei roi i chi er mwyn prynu eitemau/dodrefn ar gyfer eich cartref cyntaf yw’r Lwfans Sefydlu Cartref. Pan fyddwch chi'n gadael gofal, bydd y swm sy'n cael ei dalu i chi yn dibynnu ar eich anghenion a'ch risgiau. Bydden ni'n mynd gyda chi er mwyn prynu'r eitemau.