Rhaid i chi roi gwybod am unrhyw newid sy'n gallu effeithio swm y Treth y Cyngor sydd angen i chi ei dalu. Gall hyn gynnwys newid eich cyfeiriad, pwy sy'n byw yn eich eiddo neu newid yn eich amgylchiadau personol.
Ar y dudalen yma
- Rydych chi wedi symud
- Mae rhywun arall wedi symud
- Rydych chi wedi prynu, gwerthu neu etifeddu eiddo heb symud
- Mae rhywun wedi marw
- Does dim hawl gyda chi i gael gostyngiad nac eithriad mwyach (Canslo)
- Newid yr enw neu'r e-bost ar eich cyfrif
Rydych chi wedi symud
Dywedwch wrthon ni os ydych chi wedi symud:
- i mewn i ardal RhCT
- allan o ardal RhCT
- o fewn ffiniau Rhondda Cynon Taf
Cyn i chi ddechrau, mae'n bosibl y bydd angen y canlynol arnoch chi:
- manylion y bobl sy'n symud gyda chi
- eich hen gyfeiriad a’ch cyfeiriad newydd
- y dyddiad y symudoch chi
- y dyddiad prynu a gwerthu
- manylion y cyfreithiwr
- dyddiad dechrau neu ddiwedd y denantiaeth
Dywedwch wrthon ni am newid i'ch cyfeiriad
Yn ôl i'r brig
Mae rhywun arall wedi symud
Mae angen i chi ddweud wrthon ni os oes rhywun arall wedi symud i mewn neu allan o'ch eiddo, neu os nad yw rhywun yn gallu rhoi gwybod i ni ei fod wedi symud.
Er enghraifft:
- rhywun yn symud i mewn neu allan o'ch eiddo
- rhywun yn symud i lety gofal
- rhywun wedi mynd i'r carchar
Cyn i chi ddechrau, bydd angen i chi ddarparu'r canlynol:
- enw'r person/pobl sy'n symud
- dyddiad symud
- dyddiadau unrhyw bryniannau neu werthiannau yr oedd y person yn rhan ohonyn nhw
- eich perthynas â nhw
- manylion y denantiaeth (os yn berthnasol)
Yn ôl i'r brig
Rydych chi wedi prynu, gwerthu neu etifeddu eiddo heb symud
Rhaid i chi ddweud wrthon ni os yw perchnogaeth eiddo wedi newid ond nad yw eich cyfeiriad wedi newid. Mae modd i ni wedyn asesu'ch atebolrwydd ac os ydych chi'n gymwys ar gyfer unrhyw eithriadau o ran treth y cyngor.
Gall hyn gynnwys:
- prynu eiddo nad ydych chi wedi symud iddo
- gwerthu eiddo nad ydych chi'n byw ynddo
- etifeddu eiddo nad ydych chi'n bwriadu byw ynddo
Bydd angen i chi ddarparu'r wybodaeth ganlynol:
- eich enw llawn a manylion cyswllt
- manylion y cydberchennog (os yn berthnasol)
- cyfeiriad yr eiddo
- y dyddiad newidiodd y berchnogaeth
- manylion y prynwr, gwerthwr neu fuddiolwr
- manylion y cyfreithiwr
- dogfennau ategol os cafodd yr eiddo ei etifeddu
Yn ôl i'r brig
Mae rhywun wedi marw
Rhoi gwybod i ni am farwolaeth a all arwain at ordaliad Treth y Cyngor neu ostyngiad.
Mae modd rhoi gwybod am farwolaeth gyda'r Gwasanaeth Dywedwch Wrthym Unwaith a fydd wedyn yn rhoi gwybod i adrannau dethol o'r Cyngor a sefydliadau Llywodraeth eraill. Byddwn ni'n diweddaru'ch cofnodion Treth y Cyngor.
Rhaid bod y farwolaeth naill ai wedi'i chofrestru neu ei hadrodd i grwner a bod gyda chi dystysgrif marwolaeth derfynol neu dystysgrif marwolaeth dros dro
Rhoi gwybod am farwolaeth gyda'r Gwasanaeth Dywedwch Wrthym Unwaith
Rhoi gwybod am unrhyw newidiadau pellach
Os ydych chi'n gyfreithiwr, yn ysgutor neu'n berson sy'n ymwneud â rheoli ystâd rhywun sydd wedi marw, mae angen i chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am unrhyw newidiadau a fyddai'n effeithio ar eu cyfrif treth y cyngor.
Gall hyn gynnwys:
- cymeradwyo profiant
- ysgutorion / gweinyddwyr newydd yn cael eu hadnabod
- newid y cyfeiriad anfon ymlaen ar gyfer biliau
- yr eiddo sydd bellach yn wag
Er mwyn rhoi gwybod i ni am y newidiadau hyn, bydd angen i chi roi'r wybodaeth ganlynol i ni:
- enw a chyfeiriad y person sydd wedi marw
- dyddiad ei farwolaeth
- os yw’r profiant wedi ei gymeradwyo
- y dyddiad y cafodd y profiant ei gymeradwyo
- manylion yr ysgutor, y gweinyddwr neu'r perthynas agosaf
- tystiolaeth i ddangos bod modd i chi gweithredu ar ran y person (er enghraifft, Atwrneiaeth Gyfreithiol neu ewyllys)
- manylion unrhyw breswylydd sy'n dal i fyw yn eiddo'r person sydd wedi marw
Yn ôl i'r brig
Does dim hawl gyda chi i gael gostyngiad nac eithriad mwyach (Canslo)
Os ydych chi'n derbyn gostyngiad, eithriad neu eithriad premiwm treth y cyngor ar hyn o bryd, mae angen i chi rhoi gwybod i ni am y newidiadau canlynol.
Gall eich hawl fod yn seiliedig ar eich amgylchiadau personol. Mae angen i chi roi gwybod i ni os nad ydych chi bellach:
- yn fyfyriwr llawn amser
- wedi'ch cyfyngu i weithio oherwydd mewnfudo
- o dan 18 oed
- rhywun sy'n gadael gofal o dan 25 oed
- cynhaliwr sy'n byw yn yr eiddo
Gall eich hawl fod yn seiliedig ar statws eich eiddo. Mae angen i chi rhoi gwybod i ni os yw'ch eiddo wedi newid o:
- Heb ei feddiannu i wedi'i feddiannu
- Heb ddodrefn i gyda dodrefn
- Eiddo sydd ar werth neu i’w osod i eiddo sydd wedi’i werthu neu’i osod
- rhandy i eiddo ar wahân
- amhreswyliadwy i breswyliadwy
Cyn i chi ddechrau, bydd angen i chi ddarparu'r canlynol:
- y dyddiad y newidiodd eich amgylchiadau
- manylion y disgownt neu'r eithriad sydd ddim yn berthnasol mwyach
Canslo gostyngiad neu eithriad
Yn ôl i'r brig
Newid yr enw neu'r cyfeiriad e-bost ar eich cyfrif
Os ydych chi'n talu treth y cyngor, mae angen i chi ddweud wrthon ni os yw'ch manylion personol wedi newid er mwyn cadw'ch cofnod treth y cyngor yn gyfredol.
Mae angen i chi rhoi gwybod i ni os yw eich:
- enw wedi newid (priodas, partneriaeth sifil, gweithred newid enw)
- cyfeiriad e-bost wedi newid
I ddiweddaru'ch manylion personol, bydd angen i chi e-bostio'r wybodaeth ganlynol i ni:
- rhif treth y cyngor
- manylion newydd
- tystiolaeth i gefnogi newid eich enw (tystysgrif priodas ac ati.)
Yn ôl i'r brig