Mae'r Cyngor wedi paratoi'r Polisi Rhyddhad yn ôl Disgresiwn yma i gynorthwyo talwyr Treth y Cyngor sy'n wynebu gofid neu galedi ariannol.
Bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf yn gweinyddu'r Polisi Rhyddhad yn ôl Disgresiwn, a bydd ar gael i unrhyw dalwr Treth y Cyngor dan yr amodau sydd wedi'u rhestru yn Adran 4 a 5 y polisi yma. Diben y Polisi Rhyddhad yn ôl Disgresiwn yma yw rhoi cymorth dros dro i dalwyr Treth y Cyngor er mwyn eu helpu nhw i ostwng eu taliadau Treth y Cyngor. Bydd y polisi yma'n cael ei weithredu yn ôl disgresiwn y Cyngor.
I wneud cais, ysgrifennwch at:
Isadran Refeniw
Tŷ Oldway,
Y Porth
CF39 9ST