Gall cartrefi gwag hirdymor fod yn falltod ar yr amgylchedd lleol ac eiddo cyfagos a dydyn nhw ddim yn cefnogi'r angen am dai yn yr ardal leol. Fydd datblygiadau adeiladu newydd yn unig ddim yn bodloni'r galw am dai mewn modd digonol ac mae angen i'r Cyngor ddod â'r stoc tai presennol ledled Rhondda Cynon Taf yn ôl i ddefnydd. Mae Strategaeth Cartrefi Gwag y Cyngor yn darparu strwythur ac arweiniad clir i hwyluso'r gwaith yma.
Er bod cartrefi'n parhau i fod yn wag, mae’n bwysig bod perchnogion eiddo’n talu’r swm cywir o Dreth y Cyngor ac felly bydd y Cyngor yn cynnal adolygiad rheolaidd o gartrefi gwag.
Rydyn ni’n defnyddio system ddeallus ar gyfer paru data er mwyn cymharu cofnodion a gwirio dilysrwydd y gostyngiadau a'r eithriadau sydd wedi'u dyfarnu.
Bydd y gostyngiad sy’n cael ei roi i’r perchnogion hynny sydd ddim yn gymwys i'w dderbyn mwyach yn dod i ben, a bydd yn cael ei ôl-ddyddio i’r dyddiad y mae modd profi nad oedden nhw’n gymwys. Bydd y Cyngor yn rhoi dirwy ariannol neu'n erlyn unigolion am fethu â datgan nad ydyn nhw'n gymwys i dderbyn y gostyngiad neu'r eithriad mwyach, lle bo hynny’n addas.
Beth ddylwn i ei wneud os ydw i'n derbyn llythyr adolygu mewn perthynas â fy nghartref gwag?
Os byddwch chi'n derbyn llythyr adolygu Cartrefi Gwag, rhowch wybod i ni am eich amgylchiadau presennol fel bod modd i ni ddiweddaru ein cofnodion.
Mae modd i chi gwblhau eich adolygiad ar-lein, dyma’r ffordd fwyaf cyflym a hawdd o wneud hynny. Bydd angen eich rhif adnabod unigryw, eich rhif cyfrif Treth y Cyngor a'ch cod post arnoch chi. Mae’r wybodaeth yma wedi’i nodi yn y llythyr neu’r neges e-bost rydyn ni wedi’i hanfon atoch chi:
Cwblhewch eich ffurflen adolygu Cartrefi Gwag