Skip to main content

Gostyngiad ar gyfer Person Sengl

Mae'r Cyngor yn adolygu’r gostyngiadauTreth y Cyngor sy’n cael eu rhoi i berson sengl yn barhaus, er mwyn sicrhau bod trigolion ond yn derbyn gostyngiad Treth y Cyngor os oes gyda nhw hawl i dderbyn y gostyngiad hwnnw.

Rydyn ni’n defnyddio system ddeallus ar gyfer paru data er mwyn cymharu cofnodion a gwirio dilysrwydd y gostyngiadau sydd wedi'u dyfarnu.

Bydd y gostyngiad sy’n cael ei roi i’r trigolion hynny sydd ddim yn gymwys  dderbyn mwyach yn dod i ben, a bydd yn cael ei ôl-ddyddio i’r dyddiad y mae modd profi nad oedden nhw’n gymwys. Bydd y Cyngor yn rhoi dirwy ariannol neu'n erlyn unigolion am fethu â datgan nad ydyn nhw'n gymwys i dderbyn y gostyngiad mwyach, lle bo hynny’n addas..

Beth ddylwn i ei wneud os ydw i'n derbyn llythyr adolygu mewn perthynas â'm gostyngiad ar gyfer person sengl?

Os ydych chi'n derbyn llythyr adolygu gostyngiad ar gyfer person sengl, rhowch wybod i ni am eich amgylchiadau presennol er mwyn i ni ddiweddaru ein cofnodion.

Mae modd i chi gwblhau eich adolygiad ar-lein, dyma’r ffordd fwyaf cyflym a hawdd o wneud hynny. Bydd angen eich rhif adnabod unigryw, eich rhif cyfrif Treth y Cyngor a'ch cod post arnoch chi. Mae’r wybodaeth yma wedi’i nodi yn y llythyr neu’r neges e-bost rydyn ni wedi’i hanfon atoch chi:

Cwblhewch eich adolygiad gostyngiad ar gyfer person sengl